'Rwy'n ennill £2 y dydd ar ôl cost gofal plant' medd mam i ddau

Ffynhonnell y llun, Louise Morgan

Disgrifiad o'r llun, Mae Louise yn byw yn Abertawe gyda'i phartner Josh Doyle a'u dau fab ifanc Dexter a Teddy

Dywed mam i ddau o blant fod cost gynyddol gofal plant yn golygu mai dim ond £2 y diwrnod y mae'n ennill pan fydd yn gweithio goramser.

Mae Louise Morgan, 33, eisiau gweithio mwy o oriau i ddatblygu ei gyrfa, ond mae'n dweud nad yw'n werth yr ymdrech yn ariannol.

"Rwy'n teimlo fy mod yn cael fy ngadael ar ôl ychydig yn y gwaith," meddai, gan mai tridiau'r wythnos y mae'n gweithio.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod pwysigrwydd darpariaeth gofal plant ac yn credu y dylai fod gan bob gweithiwr hawl awtomatig i ofyn am weithio hyblyg.

Disgrifiad o'r llun, Mae ffrindiau Louise Morgan yn dweud y gallai fynd ar wyliau bob mis am gost y gofal plant

Mae Louise yn byw yn Abertawe gyda'i phartner Josh Doyle a'u dau fab ifanc Dexter a Teddy.

Mae Ms Morgan yn swyddog gweinyddol ac yn gweithio'n rhan amser ar hyn o bryd.

Hoffai weithio'n llawn amser er mwyn ennill mwy o arian a datblygu ei gyrfa, ond hyd yn oed gyda chymorth y llywodraeth, nid yw'n werth chweil.

"Pe bawn i'n cael shifft ychwanegol, pan fyddaf yn ystyried fy nghyflog am y diwrnod hwnnw yn erbyn cost gofal plant byddwn yn ennill £2 y diwrnod hwnnw."

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu 30 awr o ofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio.

Dywedodd Ms Morgan y byddai wir yn hoffi gweithio mwy, yn enwedig gyda'r Nadolig ar ddod.

"Pe bawn i'n cadw mwy o arian fe fyddai'n fy ysgogi i weithio oherwydd wedyn fe allwn i wneud mwy gyda nhw ar y penwythnos. Mae'r Nadolig ar ddod, rydw i eisiau eu sbwylio."

Dywedodd Ms Morgan pan fydd hi'n dweud wrth ffrindiau beth oedd cost ei bil crèche, na allan nhw gredu'r peth.

"Maen nhw'n dweud y gallwch chi fynd ar wyliau bob mis am y gost honno."

Dywedodd Ms Morgan fod y crèche y mae ei phlant yn ei fynychu yn "anhygoel" a'i bod wedi eu defnyddio ers tair blynedd.

£40,000 yn fwy

Mae perchennog y feithrinfa, Nikola Masters, yn wynebu costau cynyddol.

Mae hi'n dweud bod y cynnydd o 10% yn yr isafswm cyflog, ynghyd â biliau bwyd cynyddol, a "chynnydd triphlyg" mewn costau nwy a thrydan yn golygu y bydd yn talu £40,000 yn fwy y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Ms Masters ei bod hi "wedi gorfod trosglwyddo hynny" i'r rhieni, sy'n golygu y bydd ffioedd yn cynyddu.

"Os na allwn ni gynyddu ein ffioedd, allwn ni ddim parhau ac ni all rhieni gyrraedd y gwaith. Mae mor syml â hynny."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Nikola Masters nad oedd pobl yn deall pa mor ddrud oedd gofal plant

Ychwanegodd: "Mae'r gwariant ar gyfartaledd ar gyfer meithrinfa dydd yn 75-80% ar gyflogau staff. Dyna ein cost uchaf."

"Yn gyffredinol mae rhieni'n gweld y person maen nhw'n trosglwyddo'r plentyn iddo, dydyn nhw ddim yn gweld cost uwch yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni, a'r swm aruthrol o waith gweinyddol sydd angen i ni ei gwblhau bob dydd."

Dywedodd Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill eu bod wedi cyhoeddi £6m ychwanegol y flwyddyn i gynyddu cyfradd fesul awr darparwr gofal plant 11% o £4.50 i £5 yr awr o fis Ebrill.

Cynyddwyd yr uchafswm y gall darparwyr godi am fwyd hefyd o £7.50 y dydd i £9 y dydd.