Â鶹ԼÅÄ

Cei Connah i herio'r Bala yn ffeinal Cwpan y Gynghrair

  • Cyhoeddwyd
Cei Connah oedd enillwyr Cwpan Nathaniel MG yn nhymor 2021/22Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Cei Connah oedd enillwyr Cwpan Nathaniel MG 2021/22 ar ôl trechu Met Caerdydd ar giciau o'r smotyn

Cei Connah a'r Bala fydd yn herio'i gilydd yn ffeinal Cwpan y Gynghrair yng Nghymru ar ôl ennill eu gemau cynderfynol brynhawn Sadwrn.

Fe wnaeth Y Bala drechu Met Caerdydd 2-0 yn y rownd gynderfynol, gyda Chris Venables a Dave Edwards yn rhwydo.

2-0 oedd canlyniad y gêm arall hefyd, gyda Callum Bratley a Michael Wilde yn sgorio wrth i Gei Connah guro Ffynnon Taf.

Cei Connah ydy deiliaid y gystadleuaeth, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Cwpan Nathaniel MG.