Â鶹ԼÅÄ

Dim grym gan Lywodraeth yr Alban i gynnal refferendwm annibyniaeth arall

  • Cyhoeddwyd
rali annibyniaeth yr AlbanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cefnogwyr annibyniaeth yn cynnal ralïau mewn trefi a dinasoedd yn yr Alban ddydd Mercher

Mae barnwyr y Goruchaf Lys wedi dyfarnu nad oes gan Lywodraeth yr Alban y grym i gynnal refferendwm annibyniaeth arall.

Roedd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon eisiau i refferendwm gael ei gynnal ar 19 Hydref y flwyddyn nesaf.

Ond roedd Llywodraeth y DU wedi gwrthod rhoi caniatâd ffurfiol i'r bleidlais.

Gofynnwyd i'r llys egluro a all Senedd yr Alban ddeddfu ar gyfer refferendwm heb y caniatâd hwnnw.

Dywedodd llywydd y llys, yr Arglwydd Reed, fod y deddfau a greodd Senedd ddatganoledig yr Alban yn 1999 yn golygu nad oedd ganddi'r grym i ddeddfu ar y cyfansoddiad, gan gynnwys yr undeb rhwng yr Alban a Lloegr.

Gwrthododd ddadl Llywodraeth yr Alban y byddai unrhyw refferendwm yn "gynghorol" ac na fyddai'n cael unrhyw effaith gyfreithiol ar yr undeb.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nicola Sturgeon ei bod wedi ei siomi gan y penderfyniad ond ei bod yn parchu dyfarniad y llys

Gallai'r canlyniad fod â goblygiadau enfawr i ddyfodol y DU.

Trydarodd Ms Sturgeon ei bod wedi ei siomi gan y penderfyniad ond ei bod yn parchu dyfarniad y llys, a phwysleisiodd nad yw'r barnwyr yn gwneud y gyfraith a dim ond yn ei dehongli.

Ychwanegodd: "Mae deddf nad yw'n caniatáu i'r Alban ddewis ein dyfodol ein hunain heb ganiatâd San Steffan yn datgelu fel myth unrhyw syniad o'r DU fel partneriaeth wirfoddol ac mae'n gwneud yr achos dros annibyniaeth".

Bydd ralïau o blaid annibyniaeth yn cael eu cynnal mewn sawl tref a dinas yn yr Alban ddydd Mercher.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, bod y "dyfarniad hwn yn amlygu natur annemocrataidd sylfaenol rheolaeth San Steffan. Mae'n bryd i Lywodraeth y DU warantu'r hawl i hunanbenderfyniad ar gyfer yr holl wledydd datganoledig."

Ffynhonnell y llun, Goruchaf Lys
Disgrifiad o’r llun,

Yr Arglwydd Reed roddodd y dyfarniad ar ran panel uwch farnwyr y llys

Roedd prif weinidog yr Alban wedi dweud ei bod am ddod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU tebyg i'r un oedd yn ei le cyn y refferendwm yn 2014, pan gefnogodd pleidleiswyr yr Alban aros yn y DU 55% i 45%.

Ond mae cyfres o brif weinidogion y DU - gan gynnwys Rishi Sunak - wedi dadlau y dylai ffocws y wlad fod ar ddelio â materion fel yr argyfwng costau byw a'r rhyfel yn Wcráin yn hytrach nag annibyniaeth, ac y dylid parchu canlyniad refferendwm 2014.

Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol, Elliw Gwawr

Doedd y canlyniad yma yn fawr o syndod, ond mi fydd 'na ryddhad o fewn llywodraeth Prydain.

Mi fydda nhw yn gobeithio bod y dyfarniad yma yn rhoi taw ar y trafod am annibyniaeth i'r Alban am y tro. Ond mae hynny yn annhebyg.

Mae o'n golygu na fydd 'na bleidlais swyddogol yn y dyfodol agos, ond mae'n bur debyg y bydd yr SNP nawr yn defnyddio'r etholiad cyffredinol nesaf fel refferendwm ar ddyfodol yr Alban o fewn y DU.

Mi fydda nhw'n parhau i ddadlau bod ganddyn nhw fandad democrataidd ar gyfer refferendwm arall, ond tra bod y Ceidwadwyr yn gwrthod rhoi refferendwm mae eu gobeithion o sicrhau pleidlais arall wedi lleihau.

Clywodd y llys ddau ddiwrnod o ddadleuon cyfreithiol gan lywodraethau'r DU a'r Alban fis diwethaf, gyda'r dyfarniad chwe wythnos yn ddiweddarach - yn gynt nag yr oedd llawer o arbenigwyr wedi'i ddisgwyl.

Mae'r grym dros faterion sy'n ymwneud â'r cyfansoddiad, gan gynnwys yr undeb rhwng yr Alban a Lloegr, wedi'u cadw gan Senedd y DU yn Llundain o dan y rheolau a greodd Senedd ddatganoledig yr Alban yn 1999.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y Goruchaf Lys ddau ddiwrnod o ddadleuon cyfreithiol gan lywodraethau'r DU a'r Alban fis diwethaf

Dywedodd Llywodraeth y DU wrth y llys ei bod yn amlwg y byddai "deddfu ar gyfer refferendwm ar annibyniaeth y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol Senedd yr Alban".

Mae polau piniwn diweddar wedi awgrymu bod yr Alban wedi ei hollti ar gwestiwn annibyniaeth, gyda mwyafrif bach iawn o blaid aros yn y DU.

Mae Ms Sturgeon yn dweud y bydd hi'n defnyddio'r etholiad cyffredinol nesaf fel "refferendwm de facto", fel ymgais i ddangos bod mwyafrif o bobl yr Alban yn cefnogi annibyniaeth.