Hanes ffoaduriaid yng Nghymru mewn arddangosfa newydd

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Mae ffoaduriaid ddaeth i Gymru yn y 1930au a'r 1940 "bellach yn rhan annatod o wead bywyd a diwylliant Cymru"
  • Awdur, Craig Duggan
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae arddangosfa newydd yn Aberystwyth yn olrhain hanes ffoaduriaid yng Nghymru o'r 1930au hyd heddiw.

Gan ganolbwyntio ar ffoaduriaid wnaeth ddianc rhag Natsïaeth, mae hefyd yn dangos y tebygrwydd rhwng eu sefyllfa nhw a phrofiadau ffoaduriaid mwy diweddar sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru.

Mae'n cynnwys gweithiau celf, gwrthrychau, ffotograffau a llenyddiaeth a grëwyd gan ffoaduriaid a'r rhai a fu'n gweithio gyda nhw yn y gorffennol, neu sy'n gweithio gyda nhw heddiw.

Curadwyd yr arddangosfa ar y cyd gan Dr Andrea Hammel a Dr Morris Brodie o Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cafwyd cyfraniadau hefyd gan ffoaduriaid a phobl sy'n cynorthwyo ffoaduriaid i ailsefydlu yng Nghymru.

Dywedodd Dr Hammel, Cyfarwyddwr y Ganolfan: "Trwy eu geiriau a'u lluniau eu hunain, mae'r arddangosfa'n adrodd straeon y dynion, menywod a phlant a ddaeth i Gymru dros 80 mlynedd yn ôl i ddianc rhag y Natsïaid.

"Fodd bynnag, mae ymfudo dan orfod hefyd yn un o heriau mwyaf y 21ain ganrif. Felly, mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys hanesion ffoaduriaid cyfoes sy'n adeiladu bywyd newydd yng Ngheredigion.

"Fel cenedl, mae Cymru wedi bod yn darparu noddfa i ffoaduriaid ers amser maith.

"Mae'r ffoaduriaid a ailsefydlodd yng Nghymru yn y 1930au a'r 1940au wedi ymgartrefu yn y rhan hon o'r byd, ac maent bellach yn rhan annatod o wead bywyd a diwylliant Cymru. Ymhen amser, bydd yr un peth yn wir am y Syriaid, Afghanistaniaid ac Wcrainiaid a'u dilynodd.

"Trwy gyfrwng y deunydd a gesglir ynghyd yn yr arddangosfa, ein bwriad yw amlygu a dysgu am brofiad ffoaduriaid yng Nghymru trwy fynd i'r afael â chwestiynau ynglŷn ag amrywiaeth cymdeithas Cymru, gwahaniaethau crefyddol ac ieithyddol, a heriau cymdeithasol, addysgol ac economaidd.

"Mae ein prosiect yn ceisio annog pobl i ddysgu oddi wrth y gorffennol i lywio'r dyfodol."

Mae'r arddangosfa yn dangos sut y mae ffoaduriaid o wahanol gefndiroedd wedi cyfrannu at a chyfoethogi bywyd yng Nghymru yn nhermau economaidd a chelfyddydol, a thrwy ddod â bwydydd newydd i Gymru.

Cafodd llawer o swyddi newydd eu creu gan ffoaduriaid yn Ne Cymru - erbyn 1940 roedd 55 o gwmnïau a sefydlwyd gan ffoaduriaid Iddewig yn gweithredu ar Ystâd Fasnachu Trefforest ger Pontypridd.

Roedd y cwmnïau hyn yn cyflogi tua 1,800 o bobl mewn ardal lle roedd diweithdra yn uchel.

Ffynhonnell y llun, Robert Parry Jones

Disgrifiad o'r llun, Roedd mam yr awdur Robat Gruffudd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl ar ôl ffoi i Gymru o'r Almaen

Mae'r arddangosfa hefyd yn amlygu gwaith creadigol ffoaduriaid a ddaeth i Gymru - gan gynnwys yr arlunydd Josef Herman, yn wreiddiol o Wlad Pwyl a Kathe Bosse o'r Almaen.

Daeth hi yn fwy adnabyddus yng Nghymru fel Kate Bosse-Griffiths a ddysgodd Gymraeg yn rhugl, gan ysgrifennu cerddi a storïau yn yr iaith.

Dywedodd Robat Gruffudd, sylfaenydd gwasg Y Lolfa ac un o feibion Kate Bosse-Griffiths, ar noson agoriadol yr arddangosfa: "Mae'n rhyfedd gweld stori Mam yn yr arddangosfa achos ro'n i'n ystyried hi yn Gymraes ac fel mam i ni wrth gwrs.

"Ond mae hyn yn sôn am y pethau ddigwyddodd iddi hi cyn ffoi i Gymru, a'r pethau gwael iawn oedd wedi digwydd i'r Iddewon.

"Ond mae 'na ochr arall hefyd oherwydd mae'r ffoaduriaid wedi cyfrannu i fywyd busnes, bywyd academaidd, bywyd celfyddydol y gwledydd maen nhw wedi mynd iddyn nhw."

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae cymuned o Syriaid wedi ymgartrefu yn Aberystwyth o dan nawdd elusen leol, Aberaid, a gododd filoedd o bunnoedd er mwyn eu helpu i setlo yn y dref.

Dan arweiniad y ffoaduriaid mae'r Prosiect Cinio Syriaidd wedi dod yn boblogaidd iawn yn yr ardal.

Un o sylfaenwyr y prosiect, sy'n paratoi prydau bwyd traddodiadol o Syria, yw Latifa sy nawr yn ystyried Aberystwyth yn gartref.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Prosiect Cinio Syriaidd yn dod â phobl o wahanol gefndiroedd at ei gilydd yn Aberystwyth

"Dwi'n hapus iawn yma oherwydd mae'r gymuned wedi bod yn groesawgar iawn ac yn hyfryd," meddai.

"Dwi wedi gwneud llawer o ffrindiau a dwi'n teimlo fel taswn i yng nghanol fy nheulu. Dwi wedi dechrau'r prosiect ac mae'r bobl leol yn cefnogi yn dda iawn."

Mae Latifa a Medi James o Aberystwyth wedi dod yn ffrindiau o ganlyniad i'r prosiect bwyd.

"Mae bwyd wedi dod â ni at ein gilydd," meddai Medi James.

"Mae pobl o Aberystwyth, o Geredigion ac o dros Gymru wedi ymateb [i helpu ffoaduriaid]. 'Da ni wedi cael pobl o Syria, o Wcráin ac o Afghanistan - a dwi'n credu bod natur pobl ar y cyfan yn groesawgar, a hefyd yn gweld pe tasen ni yn yr un sefyllfa, yna fe fydden ni eisiau cymorth."

Bydd arddangosfa 'Ffoaduriaid yng Nghymru a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol: Dysgu oddi wrth y gorffennol i lywio'r dyfodol' i'w gweld yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth tan 29 Ionawr 2023, ac yna bydd yn teithio i Orielau'r Senedd a'r Pierhead yng Nghaerdydd rhwng mis Chwefror ac Ebrill 2023.