Â鶹ԼÅÄ

Ysgrifennydd Cymru'n amddiffyn ailbenodi Suella Braverman

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
David TC Davies

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi amddiffyn y penderfyniad i ailbenodi Suella Braverman fel Ysgrifennydd Cartref y DU, gan ddweud ei bod wedi "ymddiheuro'n fawr".

Ychwanegodd David TC Davies ei bod hi wedi "cydnabod iddi wneud camgymeriad".

Wrth siarad ar raglen Â鶹ԼÅÄ Politics Wales, dywedodd AS Mynwy fod gwleidyddion hefyd yn debygol o gael eu targedu gan asiantaethau ysbïwr "o wledydd fel Rwsia".

Daw hynny yn dilyn adroddiadau bod ffôn y cyn-brif weinidog Liz Truss wedi ei hacio, a hynny pan oedd hi'n Ysgrifennydd Tramor.

E-bost 'dileu ac anwybyddu'

Fe wnaeth Suella Braverman ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Cartref ar 19 Hydref, ar ôl dweud ei bod wedi anfon dogfen swyddogol at gydweithiwr seneddol gan ddefnyddio e-bost personol.

Ar y pryd dywedodd Ms Braverman fod hynny'n "doriad technegol" o reolau - ond chwe diwrnod yn ddiweddarach roedd hi yn ôl yn y swydd wrth i'r prif weinidog newydd, Rishi Sunak benodi ei gabinet.

Mae'r Â鶹ԼÅÄ bellach wedi gweld e-bost gan Ms Braverman at y person a dderbyniodd y neges sensitif, oedd yn dweud ei fod wedi cael ei anfon mewn camgymeriad ac y dylen nhw ei "ddileu a'i anwybyddu".

Dywedodd hi ei bod wedi adrodd wrth swyddogion "yn sydyn" am y camgymeriad, ond mae'r Â鶹ԼÅÄ yn deall ei bod hi wedi cymryd oriau i wneud hynny.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymddiswyddodd Suella Braverman fel Ysgrifennydd Cartref, cyn cael ei ail-phenodi chwe niwrnod yn ddiweddarach

Cafodd y penderfyniad i'w ail-phenodi ei feirniadu, gyda galwadau am ymchwiliad a'r blaid Lafur yn mynnu bod Mr Sunak yn rhyddhau asesiad o'r toriad diogelwch.

Ond mynnodd Mr Davies fod ASau Llafur yn ceisio gwneud môr a mynydd o weithredoedd Ms Braverman.

"Rydyn ni i gyd yn gwneud camgymeriadau o bryd i'w gilydd," meddai.

"Mae'n anarferol i wleidyddion ymddiheuro, cyfaddef ac yna ymddiswyddo mor gyflym ag y gwnaeth Suella, a dwi'n meddwl y byddai pawb yn cydnabod hynny."

Ymchwiliad i hacio ffôn Truss

Ychwanegodd Mr Davies fod ymchwiliad ar y gweill i'r adroddiadau fod ffôn Ms Truss wedi ei hacio.

Mae'r Mail on Sunday yn adrodd bod negeseuon preifat rhwng Ms Truss a swyddogion tramor, gan gynnwys am y rhyfel yn Wcráin, wedi disgyn i ddwylo tramor.

Cafodd yr hac ei ddarganfod dros yr haf, yn ystod brwydr arweinyddol y Ceidwadwyr, ond mae'r papur newydd yn dweud fod y peth wedi cael ei gadw'n ddistaw.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod ganddyn nhw amddiffyniad "cadarn" yn erbyn bygythiadau seibr, ac nad oedden nhw'n gwneud sylw ar "drefniadau diogelwch unigol".

Ffynhonnell y llun, UK Government
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y Mail on Sunday roedd negeseuon rhwng Liz Truss a Kwasi Kwarteng hefyd ymhlith y rheiny gafodd eu hacio

Mae'r gwrthbleidiau wedi galw am ymchwiliad brys i beth ddigwyddodd, gan gwestiynu hefyd a chafodd y mater ei guddio fel na fyddai'n effeithio ar siawns Ms Truss o ennill yr arweinyddiaeth.

"Yn amlwg ar hyn o bryd rydyn ni mewn sefyllfa lle mae 'na ryfel tir yn digwydd gyda Rwsia," meddai David TC Davies.

"Rydyn ni'n cefnogi llywodraeth Wcráin, a bydd pob gweinidog yn darged i asiantaethau cudd-wybodaeth sy'n ein gwrthwynebu - gadewch i ni fod yn onest - o wledydd fel Rwsia."

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn ymwybodol mai Rwsia oedd yn gyfrifol, ychwanegodd: "Dydw i ddim yn rhan uniongyrchol o'r ymchwiliad ond rydw i'n gwybod bod ymchwiliad llawn yn digwydd i'r mater.

"Rydw i'n gwybod hefyd na fyddai'n helpu petawn i'n dechrau trafod unrhyw agwedd ohono, er nad ydw i'n ymwybodol iawn o lawer o'r manylion."