Â鶹ԼÅÄ

Drakeford 'ddim yn torri boicot Llafur' wrth fynd i Qatar

  • Cyhoeddwyd
Baner Cymru ac LGBTFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Blaid Lafur wedi mynnu nad yw Prif Weinidog Cymru yn torri boicot y blaid wrth deithio i Gwpan y Byd yn Qatar.

Dywedodd Mark Drakeford y byddai'n "taflu goleuni" ar yr angen i "hawliau dynol hollbwysig" yn ystod ei ymweliad.

Bydd Mr Drakeford a gweinidogion eraill o Lywodraeth Cymru'n teithio i'r wlad cyn gêm gyntaf Cymru ar 21 Tachwedd.

Ac mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi cyhuddo arweinydd Llafur y DU, Syr Keir Starmer o "ragrith" ynghylch ei safbwynt.

'Codi proffil Cymru'

Yn gynharach yr wythnos hon fe ddywedodd Syr Keir Starmer mai safbwynt y blaid Lafur oedd i foicotio'r twrnament.

Ond yn ôl ffynhonnell o blaid Lafur y DU, mae gwahaniaethau rhwng safiad y blaid yn genedlaethol, a rôl Mr Drakeford fel Prif Weinidog ac arweinydd gwleidyddol Cymru.

"Mark Drakeford yw Prif Weinidog Cymru, fe yw cynrychiolydd swyddogol Cymru yng Nghwpan y Byd Qatar, y cyntaf iddyn nhw ei gyrraedd mewn dros 60 mlynedd," meddai'r ffynhonnell.

"Bydd Mark yn defnyddio'r cyfle sy'n dod gyda'i statws swyddogol i daflu goleuni ar faterion hawliau dynol hollbwysig, a gweithio gydag eraill i hyrwyddo gwerthoedd o gynhwysiant a pharch at hawliau dynol a hawliau gweithwyr."

Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd Syr Keir Starmer ar LBC y byddai'n boicotio Cwpan y Byd - hyd yn oed pe bai Lloegr yn cyrraedd y ffeinal.

Ffynhonnell y llun, Peter Byrne / PA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mark Drakeford yn teithio i Gwpan y Byd gyda rhai o weinidogion eraill Llywodraeth Cymru

"Bydden i wrth fy modd, ond dwi'n meddwl bod y record hawliau dynol yn golygu na fydden i'n mynd, a dyna fydd safbwynt y blaid Lafur," meddai.

Dywedodd hefyd na fyddai unrhyw aelodau blaenllaw eraill o'r blaid yn teithio allan.

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "falch y bydd Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd".

Ychwanegodd llefarydd fod Mr Drakeford yn teithio allan yno i roi hwb i Gymru, a cheisio dylanwadu ar newid yn y wlad drwy ychwanegu llais er mwyn "hyrwyddo gwerthoedd cynhwysol".

"Rydym yn gweithio'n galed i godi proffil Cymru a chreu cyfleoedd masnachu a buddsoddi wrth i ni fod yn rhan o ddigwyddiadau mawr ledled y byd," meddai.

"Mae Cwpan y Byd hwn wedi taflu goleuni ar fater hollbwysig hawliau dynol, a byddwn yn ychwanegu ein llais at eraill a gweithio gyda'n gilydd i hyrwyddo gwerthoedd cynhwysol a pharch at hawliau dynol a hawliau gweithwyr."

'Rhagrith' gan Starmer

Bydd Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth y DU, James Cleverly, hefyd yn teithio i'r twrnament, gan ddweud bod gan y DU "bartneriaid hynod o bwysig yn y Dwyrain Canol".

Daw hynny wedi i Mr Cleverly ddweud wrth gefnogwyr pêl-droed LGBT i ddangos "ychydig o hyblygrwydd a chyfaddawdu" tra'u bod nhw allan yn Qatar.

Ond o fewn oriau, dywedodd llefarydd swyddogol Prif Weinidog y DU na ddylai fod disgwyl i gefnogwyr LGBT+ "gyfaddawdu pwy ydyn nhw", ac fe gafodd y sylwadau hefyd eu beirniadu gan y blaid Lafur.

Mae bod yn hoyw yn anghyfreithlon yn Qatar, er bod trefnwyr y gystadleuaeth wedi dweud bod "croeso i bawb" ddod.

Yn y cyfamser mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi cyhuddo Llafur o "ragrith" dros eu safiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cymru'n chwarae yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958

"Mae'n hollol iawn y dylai Prif Weinidog Cymru fynychu Cwpan y Byd yn Qatar a dangos ei gefnogaeth i dîm Cymru," meddai.

"Rhagrith llwyr yw hi i Keir Starmer wneud rhyw safiad ar y mater hwn fel gwrthblaid, pan fydd ei gydweithwyr yng Nghymru yn mynd yno yn gwbl briodol i ddangos eu cefnogaeth i garfan Cymru.

"Rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog, gyda gweinidogion Llywodraeth y DU, yn gwrthsefyll unrhyw bwysau gan yr arweinydd Llafur i ganslo eu hymweliad â Chwpan y Byd."

Mewn sesiwn Holi ac Ateb yn y Senedd yr wythnos hon gyda rheolwr Cymru, Rob Page, dywedodd Mark Drakeford fod "heriau gwirioneddol" yn codi o ystyried lleoliad Cwpan y Byd eleni.

"Mae cydbwysedd agos sydd angen i ni ei daro rhwng manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd, ond hefyd peidio â chamu'n ôl o'r angen i fynegi ein barn am werthoedd yn y byd hefyd," meddai.

'Lleoliad ddim am amharu ar y cyffro'

Ychwanegodd bod amrywiaeth ar draws y byd yn golygu nad yw pob gwlad yn "rhannu'r un gwerthoedd" â Chymru.

"Does gen i ddim amheuaeth o gwbl bod rhai agweddau o fywyd yma yng Nghymru fyddai ddim yn cael eu hystyried yn dderbyniol gan wledydd eraill mewn rhannau eraill o'r byd," meddai.

"Rydyn ni'n deall hynny ac mae'n rhaid i ni barchu hynny.

"Ond dyw hynny ddim yn golygu na fyddwn yn barod i godi llais dros y pethau rydyn ni'n gwybod sy'n bwysig, ac sy'n cynrychioli'r math o wlad rydyn ni eisiau bod."

Dywedodd Llywydd y Senedd, Elin Jones nad oedden nhw eisiau i leoliad y twrnament amharu ar y "cyffro" o gael Cymru mewn Cwpan y Byd am y tro cyntaf mewn 64 mlynedd.

"Wrth gwrs, rwy'n siŵr y byddai mwy o ASau a mwy o bobl Cymru yn mynd i Gwpan y Byd pe bai'r lleoliad yn wahanol," meddai.

"Ond nid felly yw hi. 'Dyn ni ddim am adael i'r lleoliad penodol hwnnw gael unrhyw effaith ar ein cyffro a'n cefnogaeth i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru."