Â鶹ԼÅÄ

Angen codi ymwybyddiaeth o ganser eilaidd y fron

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Angen codi ymwybyddiaeth o ganser eilaidd y fron, meddai Andrea Price Jones

"Chi'n byw gyda mynd o sgan i sgan gan obeithio bod y driniaeth yn atal y canser rhag lledu."

Mae Andrea Price Jones o Langatwg ger Castell-nedd ymhlith y rhai sy'n byw gyda chanser y fron eilaidd - sef canser sydd wedi lledu i rannau eraill o'r corff o'r man y dechreuodd.

A hithau'n fis ymwybyddiaeth canser, mae galw o'r newydd wedi bod am well triniaethau i gleifion sydd yn byw â chanser eilaidd y fron.

Er bod 31 o fenywod yn marw bob dydd o ganser eilaidd y fron, yn ôl elusen Met Up UK, does dim ffigyrau am faint sy'n derbyn triniaeth ar ei gyfer.

Mae'r ymgyrch 'The Darker Side of Pink' gan Met Up UK yn galw am well ymwybyddiaeth o'r salwch.

Y newyddion yn 'ddinistriol'

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Iau bu Andrea Price Jones yn dweud pa mor anodd yw byw gyda'r cyflwr a'i bod hi mor bwysig cael nyrs arbenigol.

"Ges i'r diagnosis wyth mlynedd yn ôl bod canser y fron arna'i ac wythnos ar ôl hynny ar ôl profion fe ddywedon nhw fod e wedi mynd i'r esgyrn a'r sternum a bod dim gwella i gael felly fi wedi bod yn byw gyda hyn am wyth mlynedd," meddai.

"Am saith mlynedd o'dd triniaeth yn cadw fe o dan reolaeth ac wedyn hydref diwethaf ges i'r newyddion fod e wedi mynd i'r afu ac wedi mynd yn waeth yn yr esgyrn yn y cefen hefyd ac ro'dd rhaid cael triniaeth.

"Ond dyw'r ail driniaeth ddim wedi gweithio o gwbl so fi nawr wedi dechrau ar cemotherapi a fi'n cael rhagor o radiotherapi at y cefn."

Disgrifiad o’r llun,

Andrea Price Jones a'i gŵr Barrie

Mae Ms Jones bellach ar ei phumed sesiwn o cemotherapi allan o 18.

"Dyw e ddim yn rhwydd, mae rhywun yn teimlo'n sâl ond yn gobeithio bydd pethe'n setlo lawr am gyfnod," ychwanega.

"O'dd ca'l y newyddion yn ddinistriol iawn achos pan ges i'r newyddion yn y dechrau o'dd fy mab i'n 13 - mae e'n awtistig. O'dd fy nhad yn eitha' sâl ar y pryd a benderfynon ni beidio gweud wrtho fe.

"Ro'dd e'n galed iawn trio bod yn onest a gweud bod dim gwella o hyn."

'Seicolegol anodd'

Dywed Ms Jones bod y cymorth mae hi'n ei gael gan nyrs arbenigol yn Abertawe yn gwbl hanfodol. Ar hyn o bryd mae cymorth tebyg mewn ardaloedd eraill o Gymru yn brin.

"Fi wedi bod yn lwcus iawn bod specialist nurse gyda ni sy' jyst yn edrych ar ôl pobl fel fi sydd â'r canser wedi symud i'r esgyrn, neu i'r ymennydd, yr afu neu rhywle arall.

"Ar hyn o bryd fi'n credu mai hi yw'r unig nyrs o'r fath - mae pethe ry'n ni [sydd â chanser eilaidd] yn eu profi yn eitha' cymhleth ac yn wahanol i bobl sydd â primary breast cancer. Mae'n seicolegol anodd - dwi ddim yn gwybod a yw triniaeth yn mynd i ddal y canser dan reolaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Andrea Price Jones gyda'i mab Thomas

"Chi'n byw o sgan i sgan i weld a yw pethe'n setlo lawr neu wedi spreado ymhellach.

"Chi'n byw 'da 'na - fi'n cael sgans bob tri mis ac mae hynny yn gallu bod yn anodd iawn ond mae'r cymorth arbenigol 'na ac ymwybyddiaeth mor bwysig.

"Chwe wythnos yn ôl ro'n i methu cerdded yn bell iawn - textais i'r nyrs a ddydd Llun ges i brofion ac o fewn dim ro'dd hi wedi gallu tynnu tîm at ei gilydd wedi i fi gael gwybod bod y canser yn yr esgyrn yn y cefn wedi mynd yn waeth.

"Ro'dd yr esgyrn yn gwasgu ar y spinal chord ac mae hynny yn gallu bod yn ddifrifol iawn.

"Ond gyda'i chymorth hi ges i wely yn syth yn yr ysbyty a thriniaeth frys. Mae ymateb o'r fath yn hollbwysig a chodi ymwybyddiaeth."

Pynciau cysylltiedig