£11m i geisio cadw pobl ifanc mewn cymunedau Cymraeg

Ffynhonnell y llun, JONATHAN BILLINGER/GEOGRAPH

Disgrifiad o'r llun, Bydd yna arian hefyd ar gyfer hybu y defnydd o'r Gymraeg mewn cymunedau gwledig
  • Awdur, Aled Scourfield
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Bydd £11m yn cael ei wario gan Lywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf i hybu gweithgaredd economaidd mewn cymunedau Cymraeg yng Ngwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Mae cynllun Arfor 2 yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a'r llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd.

Yn ôl y llywodraeth, y nod yw "creu cyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd i aros yn eu cymunedau" a chreu "cymunedau mentrus" mewn ardaloedd Cymraeg.

Bydd yna arian hefyd ar gyfer hybu y defnydd o'r Gymraeg.

'Hynod bwysig' i aros yng nghefn gwlad

Yn ôl Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: "Mae'r cynllun yn adeiladu ar Arfor 1. Mi fyddwn ni yn cydweithio gyda phedwar awdurdod lleol sydd â'r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg.

"Y nod yw rhoi cefnogaeth i gymunedau Cymraeg i gynyddu eu gweithgaredd economaidd."

Un sydd wedi elwa yn barod o gynllun Arfor 1 ydy Gruffydd Rees. Mae'n rhedeg busnes Gwenyn Gruffydd Cyf yn Nryslwyn ger Llandeilo.

"Gaethon ni help gan Arfor 1 just cyn y pandemig ac roedd hyn yn help enfawr. Roedd y busnes yn tyfu yn gloi iawn.

"Roedd yr offer roedden ni yn defnyddio i brosesu'r mêl yn rhy fach, ac roedd hi'n anodd i ni dyfu fel busnes gyda beth oedd 'da ni.

"Roedd rhaid mynd mlaen i'r step nesaf, at y siopau mawr. Gaethon ni help gan Arfor i alluogi ni i brynu offer newydd mwy o faint a ni nawr yn gallu prosesu lot mwy o fêl, bron dwbl beth oedden ni yn gallu."

Mae Mr Rees yn cefnogi rhoi cefnogaeth i hybu busnesau mewn cymunedau Cymraeg: "Fi'n credu bod hi'n bwysig iawn.

"Ni ar ffarm yng nghanol cefn gwlad. Ni wedi tyfu'r busnes yng nghefn gwlad heb orfod symud mewn i'r dref neu'r ddinas.

"Yng nghefn gwlad, y dylse busnesau bwyd fod. Mae'n hynod bwysig bod ni yn aros yng nghefn gwlad ac yn creu swyddi."

Disgrifiad o'r llun, 'Mae maint all-lifiad pobl ifanc o'r gorllewin yn enfawr,' medd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin

Yn ôl Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, mae yna le i wneud mwy i atal yr all-lifiad o bobl ifanc o siroedd y gorllewin: "Fi'n credu, i fod yn onest, mae angen swm sylweddol arno i wrth-droi y peth, mae maint y broblem yn enfawr.

"Mae'r arian yn rhoi cyfle gwych i ni i dreialu a chefnogi er mwyn ceisio datrys y broblem."