Â鶹ԼÅÄ

'Cronfa frys' ysgol yn y Rhondda i helpu plant a'u rhieni

  • Cyhoeddwyd
Kieran ac Elliott yn helpu ym mhantri'r ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Kieran ac Elliott yn helpu ym mhantri Ysgol Nantgwyn yn Nhonypandy

Mae ysgol yn y Rhondda yn codi arian ar gyfer cronfa frys i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd talu am fwyd ac ynni.

Bu Ysgol Nantgwyn yn Nhonypandy yn cefnogi 16 o deuluoedd yn ystod y pandemig drwy eu pantri cymunedol.

Ond mae staff wedi gweld yr angen yn cynyddu dros y misoedd diwethaf.

Mae'r ysgol wedi rhoi arian i deuluoedd am drydan ar gyfer y penwythnos, wedi darparu trainers a hyd yn oed gwely.

Ar adegau mae staff wedi cyfrannu o'u pocedi eu hunain.

Eu gobaith yw y bydd yr arian sy'n cael ei godi trwy gerdded am 24 awr ym Mannau Brycheiniog, gan ddechrau nos Wener, yn sail ar gyfer cronfa am yr hir dymor.

Yn ôl y dirprwy bennaeth, Ryan Evans mae mwy a mwy o ddisgyblion a'u teuluoedd yn estyn am gymorth.

"Mae gyda ni'r argyfwng costau byw, a biliau'n codi, a nawr morgeisi'n codi hefyd ac mae ein teuluoedd yn gadael i ni wybod eu bod yn ei chael hi'n anodd," meddai.

"Rydyn ni wedi cael rhai teuluoedd yn gorfod wynebu'r cwestiwn p'un ai i roi'r gwres canolog ymlaen neu i roi bwyd ar y bwrdd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ryan Evans fod penderfyniadau amhosib yn wynebu rhai o deuluoedd plant yr ysgol

Mae'r ysgol eisoes yn defnyddio cronfa i helpu gyda biliau trydan neu fwyd mewn argyfwng, ac ar adegau mae staff wedi talu eu hunain.

Gan ddisgwyl y bydd y galw'n cynyddu, mae nifer o staff yn codi arian drwy gymryd rhan yn y daith gerdded ar fynydd Pen y Fan dros y penwythnos.

'Plentyn yn mynd â bar sebon adref'

Mae'r gronfa 'argyfwng' ar ben y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gyda chynllun cyfnewid gwisg ysgol a phantri cymunedol.

Mae rhai o ddisgyblion yr ysgol yn gwirfoddoli yn y pantri yn trefnu'r silffoedd a chroesawu pobl sy'n dod yno i gasglu bwyd.

Fe all pobl gyfrannu at yr hyn maen nhw'n ei gymryd os ydyn nhw'n gallu, ond does 'na ddim pwysau i wneud.

Disgrifiad o’r llun,

Emma Beasley: 'Torcalonnus gweld sefyllfaoedd rhai o'r plant'

Dywedodd Emma Beasley, rheolwr busnes yr ysgol - sy'n gyfrifol am y pantri - bod y gwasanaeth yn "rhan o ofalu am blentyn".

"Maen nhw'n gwybod ein bod ni'n poeni ac mae hynny'n help mawr i gryfhau'r perthnasau sydd gyda ni gyda phlant yn yr ysgol," meddai.

Mae hynny i'w weld trwy "eu hymddygiad a'u lles yn yr ysgol.

"Mae gweld plentyn yn dod mewn i fynd â bar o sebon i fynd adre yn dorcalonnus, ond ar yr un pryd i'r plentyn yna mae'n anhygoel achos mae'n nhw'n gwybod ei fod e yma iddyn nhw."

Pynciau cysylltiedig