Taith Bethan Elfyn sy'n aros am drawsblaniad yr ysgyfaint

Ffynhonnell y llun, Bethan Elfyn

Disgrifiad o'r llun, Y cyflwynydd Bethan Elfyn

Yn 2005 aeth y cyflwynydd Bethan Elfyn yn sâl oherwydd problem gyda'i hysgyfaint. Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach yn 2020, fe gafodd hi ei rhoi ar restr aros am drawsblaniad.

A hithau yn Wythnos Ymwybyddiaeth Rhoi Organau mae Bethan wedi rhannu ei stori yn gyhoeddus am y tro cyntaf erioed.

"Dwi'n meddwl ei fod o'n helpu fi i brosesu," meddai wrth Aled Hughes ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru.

"Dwi 'di cael bendith wrth ddarllen profiadau pobl eraill. Dwi 'di dechrau gwneud ffrindiau gyda phobl ar Instagram sydd wedi mynd trwy'r driniaeth felly falle dyna'r lle cychwyn? Dwi'm cweit yn siŵr.

"Mae'n siwrne hir, a dwi'n teimlo fel bod angen i fi ddechrau bod yn fwy onest."

Y daith

Roedd Bethan ar wyliau sgïo yn 2005 pan deimlodd y cyflwr awtoimiwn Sarcoidosis yn ei tharo am y tro cyntaf.

"Oni mor mas o wynt - oni'n meddwl oherwydd bo fi lan yn y mynyddoedd a gyda'r altitude a phopeth. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor serious oedd o," meddai.

"Hwnna oedd yr adeg gyntaf i fi sylweddoli bod rhywbeth yn bod. Ond anwybyddu'r peth nes i a mynd adref ac roedd popeth yn fine."

Ond mi ddychwelodd y symptomau pan aeth i Efrog Newydd ar ôl iddi fod yn gweithio yng ngŵyl South by Southwest yn Texas.

"Oni mor sâl nath fy ngŵr i fynd â fi i'r ysbyty, erbyn hynny roedden ni wedi teithio chydig ac yn Upstate, New York.

"Nathon ni fynd i ysbyty bach 'ma ganol nunlle, fel A&E Department ac roedden nhw yn rhoi pob prawf o dan yr haul i fi ac ar ddiwedd hwnna wedon nhw 'we can't find anything, there might be some liquid on the lungs' ag yn meddwl bod 'da fi pneumonia.

Disgrifiad o'r llun, Mae Bethan yn cyflwyno ar Â鶹ԼÅÄ Radio Wales yn ogystal a Â鶹ԼÅÄ Radio 6 Music yn achlysurol.

Diagnosis o Sarcoidosis

Ar ôl dychwelyd i Gaerdydd, pneunomia oedd diagnosis ei doctor hefyd.

Meddai Bethan: "Oni jest yn sâl adre, yn wan, methu bwyta, methu cerdded - roedd o yn horrific. Es i nôl at y doctor a dweud, dwi ddim yn gwella, dwi'n teimlo'n awful. Dwi prin yn gallu cerdded o gwmpas y tŷ a wnaeth o instantly anfon fi i'r ysbyty."

Ar ôl ymweliad i Ysbyty Llandochau yng Nghaerdydd, lle maen nhw'n arbenigo yn yr ysgyfaint, fe gafodd hi ddiagnosis o Sarcoidosis o'r diwedd.

"Mae'n rhyw fath o autoimmune disease lle mae'r celloedd iach yn attackio ei gilydd achos maen nhw'n meddwl bod rhywbeth yn bod ond wrth wneud hynny maen nhw yn dinistrio'r ysgyfaint. Mae Sarcoidosis yn effeithio un ym mhob 10 mil o bobl ac mae'n salwch sydd yn ymddangos allan o nunlle.

"Chi'n gofyn, 'Wel sut dwi wedi dal o?', 'Ble mae di dod?', a dydi doctoriaid ddim yn gallu ateb dim byd fel 'na.

"So dros nos oedd y salwch 'ma ac yn raddol bach mae'r ysgyfaint wedi dirywio efo'r afiechyd. Yn raddol bach mae o wedi cyrraedd pwynt lle mae'r ysgyfaint yn gallu prosesu o ocsigen sy'n mynd i weddill y corff wedi mynd o dan 50% - so mae'n teimlo fel bod da fi hanner lung.

"Mae 'na dyllau yn yr ysygyfaint, so mae o yn eithaf dieithr. Chi yn dysgu lot wrth fynd drwy broses fel hyn a sdim syniad da chi be sy'n digwydd. Rai dyddiau wedyn chi'n teimlo'n egnïol ac yn hollol iach a dyddiau eraill dwi wedi fy llorio gyda blinder."

Cyrraedd y rhestr

Ddeufis yn unig cyn dechrau'r pandemig yn 2020 a 15 mlynedd wedi iddi sylweddoli bod rhywbeth o'i le, cafodd Bethan yr alwad yn dweud ei bod wedi cyrraedd rhestr trawsblaniad.

"Wnaethon nhw ddweud wrtha i fy mod yn eligible am transplant a doeddwn i methu credu'r peth achos dwi dal yn gweithio, dal yn actif ac yn byw bywyd eithaf normal ac yn aros am y trawsblaniad 'ma a 'dach chi jest methu amgyffred.

"Dyw'r brain methu credu'r corff ac mewn ffordd mae hwnna'n beth da achos dyna sy'n arbed chi a dyna sy'n cadw chi fynd.

"Dywedodd y doctor 'we don't know many people who work full time and still go walking' ac oni jest yn ffeindio fo yn od i glywed y newyddion, a dwi dal ddim i ddeud y gwir, dwi dal i ffeindio fo'n anodd prosesu bo fi'n sâl."

Disgrifiad o'r llun, Bethan gyda James Dean Bradfield o'r Manic Street Preachers

'Sgwrs mor anodd'

Y polisi ynghylch trawsblaniad ym Mhrydain ydi, oni bai eich bod yn gwrthod, mae canitâd i ddoctoriaid ddefnyddio organau os yw hynny'n bosib pan mae person yn marw.

Ond mae llawer o sensitifrwydd yn amgylchynnu'r holl broses, fel mae Bethan wedi darganfod wrth siarad gydag eraill sydd ar y rhestr.

Meddai Bethan: "Mae'n ddiddorol siarad gyda phobl sydd yn siarad am wahanol fath o drawsblaniad. I fi mae rhai pobl yn critical ac os nad ydyn nhw'n cael yr organ yna maen nhw yn marw, mae'n rili difrifol.

"Ar y funud, maen siŵr dwi'n rheoli'r salwch felly allith o fod yn aros hir i fi. Mewn ffordd dwi isio fo fod yn aros hir achos dwi ddim yn siŵr os dwi'n barod i gael yr alwad ffôn yna.

"Mae'r sgwrs o gwmpas y math yma o beth mor anodd achos mae 'na deulu efo rhywbeth yn digwydd i aelod o'r teulu sy'n rhoi'r organau - mae hwnna'n tragic.

"Wedyn mae'r teulu sydd yn aros am organau - mae'r sefyllfa yna yn fregus a dwi'n credu chi jyst falle byth yn disgwyl i'r pethau 'ma ddod mewn i'ch byd chi."

Hefyd o ddiddordeb: