GIG mewn sefyllfa 'beryglus' yn sgil 'prinder staff enbyd'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

  • Awdur, Gwyn Loader
  • Swydd, Prif ohebydd Newyddion S4C

Mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru mewn cyflwr "peryglus oherwydd prinder staff enbyd" yn ôl undeb meddygol BMA Cymru.

Daw eu sylwadau wedi i aelod o staff Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg gysylltu â rhaglen Newyddion S4C yn dweud bod prinder staff yn effeithio ar forâl gweithwyr yno.

Anfonodd yr aelod staff, oedd ddim am gael ei enwi, luniau o negeseuon ar wefan Facebook yn dangos y bwrdd yn galw ar weithwyr i weithio oriau ychwanegol oherwydd "pwysau sylweddol".

Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod "o bryd i'w gilydd" yn cysylltu gyda staff i weld a oes gweithwyr ar gael "pan fo'r pwysau ar y gwasanaeth a'r lefelau staffio yn is na'r arfer".

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru bod recriwtio yn "flaenoriaeth" iddynt.

Yn ôl y gweithiwr o Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a gysylltodd â rhaglen Newyddion S4C, mae 'na brinder sylweddol o weithwyr.

Esboniodd fod hynny'n rhoi'r staff sy'n gweithio yno dan bwysau eithriadol.

Roedd y neges hefyd yn dweud bod y bwrdd wedi dechrau defnyddio gwefan Facebook i ymbil ar staff i weithio oriau ychwanegol.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r neges ar wefan Facebook yn dangos y Bwrdd Iechyd yn gofyn a fyddai staff ar gael i weithio oriau ychwanegol

Ond yn ôl Coleg Brenhinol y Meddygon, mae'n ymddangos bod pwysau ar staffio ar draws holl ysbytai Cymru.

Fe rannodd y Coleg ystadegau eu harolwg diweddaraf gyda rhaglen Newyddion S4C. Mae eu data ar gyfer 2021 yn dangos bod:

  • Bron i ddau draean (64%) o swyddi meddygon ymgynghorol Cymru a gafodd eu hysbysebu llynedd heb eu llenwi;
  • Mewn sefyllfa lle nad oedd ymgeisydd llwyddiannus i lenwi swydd meddyg ymgynghorol, doedd dim ymgeisydd o gwbl mewn 71% o'r achosion rheiny;
  • Bydd 44% o'r meddygon ymgynghorol sydd yn gweithio ar hyn o bryd yn cyrraedd oed ymddeol o fewn deng mlynedd.
Disgrifiad o'r llun, Mae Dr Olwen Williams yn dweud bod yn rhaid denu a chadw meddygon yng Nghymru

Yn ôl dirprwy lywydd y Coleg yng Nghymru, Dr Olwen Williams, mae dwy broblem amlwg yn bodoli.

"Pobl sydd yn derbyn eu haddysg feddygol yng Nghymru ddim yn aros yma - maen nhw'n teithio tu allan i Gymru i gael gwaith - mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod swyddi yng Nghymru yn ddeniadol i'r rheiny sydd wedi eu haddysgu y tu allan i Gymru.

"Mae gyda ni broblem arall hefyd sef bod dim cynllun gweithlu gyda ni wrth symud ymlaen, felly dydyn ni ddim yn gwybod ble fydd y bylchau.

"Ry'n ni'n galw ar lywodraeth Cymru i sicrhau bod cynllun gweithlu ar gael."

'Ni'n llanast'

Cadarnhaodd cadeirydd BMA Cymru, Iona Collins, bod eu haelodau nhw hefyd yn cwyno am brinder staff a dywedodd bod y sefyllfa'n beryglus.

Wrth siarad ar Radio Wales fore Iau dywedodd: "Ry'n ni'n llanast. Dydyn ni ddim yn darparu'r gwasanaeth a does neb yn gwrando arnon ni.

"Does ond rhaid i chi edrych ar yr arian sy'n cael ei wario ar staff asiantaeth sy'n llawer iawn yn fwy na chyflogi staff parhaol.

"Mae'r dystiolaeth yn glir. Mae gennym boblogaeth o dair miliwn ac mae tri chwarter miliwn yn disgwyl am driniaeth.

"Nid dim ond staff yw'r broblem - adnoddau hefyd. Does 'da ni ddim digon o glustogau mewn ysbytai a heb glustog does dim modd cael triniaeth.

"Dyw cael clustog ddim yn golygu mynd allan i brynu un - mae llwyth o ganllawiau mae'n rhaid dilyn.

"Does gennym ni ddim hanner digon o staff ac felly os oes rhywun yn ffonio'n sâl - does gennym ni ddim digon o bobl i gynnal llawdriniaeth. Does yna ddim cynlluniau wrth gefn.

"Mae'r sefyllfa yn ofnadwy."

Disgrifiad o'r llun, Mae cadeirydd BMA Cymru, Iona Collins, yn galw am gynllun gweithlu brys gan Lywodraeth Cymru

Wrth drafod y sefyllfa yng Nghwm Taf Morgannwg, dywedodd Aelod Senedd Plaid Cymru Heledd Fychan bod y sefyllfa yn "hynod bryderus".

"Mae hwn yn dangos yn glir bod y gwasanaeth iechyd dan straen," dywedodd.

"I feddwl fod y bwrdd iechyd yn erfyn ar staff i fynd i mewn i'r gwaith er mwyn gallu ateb y galw, mae hynny yn hynod bryderus."

Cyfeirio at restrau aros wnaeth arweinydd grŵp Ceidwadwyr y Senedd, Andrew RT Davies.

"Mae'n bryderus iawn," meddai, "fel bwrdd iechyd, mae dros 12,000 o bobl yn aros dwy flynedd neu ragor am driniaethau yn yr ardal yma.

"Os nad yw'r staff ganddyn nhw, tyfu wna'r rhestrau rheiny."

Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg gydnabod eu bod nhw "o bryd i'w gilydd yn defnyddio dulliau cyfathrebu i gysylltu â gweithwyr allai fod ar gael pan fo pwysau ar y gwasanaeth a'r lefelau staffio yn is na'r arfer".

'Recriwtio yn flaenoriaeth'

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod y pwysau sydd ar fyrddau iechyd" a bod recriwtio felly "yn flaenoriaeth".

"Ry'n ni wedi sicrhau niferoedd uwch o staff yn y gwasanaeth iechyd - cynnydd o 54% yn yr 20 mlynedd diwethaf - a mwy o nyrsys, ymgynghorwyr ysbytai a staff ambiwlans cymwys nag erioed.

"Byddwn yn parhau i gynyddu'r niferoedd hyn trwy amrywiol strategaethau, gan gynnwys recriwtio rhyngwladol a mwy o fuddsoddiad nag erioed mewn rhaglenni addysg a hyfforddiant."

Ychwanegodd y llefarydd eu bod wrthi'n datblygu cynllun gweithlu fydd yn cynnwys strategaethau tymor byr a chanolig.