Aur i seiclwyr ifanc o Gymry ym Mhencampwriaethau'r Byd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Llwyddodd Zoe Backstedt a Joshua Tarling i ennill categori iau y ras yn erbyn y cloc yn Awstralia

Mae dau seiclwr ifanc o Gymru wedi ennill medalau aur ym Mhencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd yng nghategori iau y ras yn erbyn y cloc.

Fe wnaeth Zoe Backstedt, 17 o ardal Pont-y-clun, ennill ei ras hi yn Awstralia o dros funud a hanner.

Llwyddodd Joshua Tarling, 18 o ardal Aberaeron, i drechu'r ffefryn Hamish McKenzie o 19 eiliad yn Wollongong.

Fe wnaeth y ddau ennill medalau arian yn yr un cystadlaethau 12 mis yn ôl.

Backstedt enillodd y ras ar y ffordd yn y categori iau yn 2021, ac fe fydd hi'n ceisio efelychu hynny yn y ras honno ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth Tarling arwyddo cytundeb tair blynedd gyda thîm Ineos Grenadiers fis diweddaf - yr un tîm â dau Gymro arall, Geraint Thomas a Luke Rowe.