Dyn, 19, yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio yn Rhydaman

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Cameron Lindley yn ei gartref yn Rhydaman nos Iau

Mae dyn 19 oed wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn 22 oed yn Sir Gaerfyrddin.

Bu farw Cameron Lindley wedi iddo gael ei anafu'n ddifrifol mewn cartref yn Rhydaman nos Iau 8 Medi.

Ymddangosodd Tyler Lindley o Gastell-nedd yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth.

Fe ymddangosodd drwy gyswllt fideo o'r carchar er mwyn cadarnhau ei enw.

Disgrifiad o'r llun, Fe ymddangosodd Tyler Lindley, 19, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth trwy gyswllt fideo

Cafodd yr heddlu eu galw i'r cyfeiriaid yn Rhydaman am 20:50 ar 8 Medi, lle ddaeth swyddogion o hyd i gorff Cameron Lindley oedd ag anafiadau difrifol.

Mewn datganiad, cafodd ei ddisgrifio gan ei deulu fel "ŵyr, mab, brawd ac ewythr annwyl".

Mae disgwyl y gwrandawiad nesaf ar 11 Hydref.