Â鶹ԼÅÄ

Dyn, 19, yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio yn Rhydaman

  • Cyhoeddwyd
Cameron LindleyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Cameron Lindley yn ei gartref yn Rhydaman nos Iau

Mae dyn 19 oed wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn 22 oed yn Sir Gaerfyrddin.

Bu farw Cameron Lindley wedi iddo gael ei anafu'n ddifrifol mewn cartref yn Rhydaman nos Iau 8 Medi.

Ymddangosodd Tyler Lindley o Gastell-nedd yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth.

Fe ymddangosodd drwy gyswllt fideo o'r carchar er mwyn cadarnhau ei enw.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ymddangosodd Tyler Lindley, 19, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth trwy gyswllt fideo

Cafodd yr heddlu eu galw i'r cyfeiriaid yn Rhydaman am 20:50 ar 8 Medi, lle ddaeth swyddogion o hyd i gorff Cameron Lindley oedd ag anafiadau difrifol.

Mewn datganiad, cafodd ei ddisgrifio gan ei deulu fel "ŵyr, mab, brawd ac ewythr annwyl".

Mae disgwyl y gwrandawiad nesaf ar 11 Hydref.

Pynciau cysylltiedig