Aled Edwards: 'Mor falch bod Cymru yn genedl noddfa'

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Parchedig Aled Edwards yn ymddeol o'i swydd fel prif weithredwr Cytûn wedi 23 mlynedd gyda'r mudiad

Wrth iddo ffarwelio â'i swydd fel prif weithredwr Cytûn, Eglwysi ynghyd yng Nghymru, dywed y Parchedig Aled Edwards mai un o'r pethau sy'n rhoi mwyaf o bleser iddo yw sicrhau bod Cymru yn genedl noddfa.

Mae wedi bod yn fraint arbennig cydweithio ag eglwysi ond â gwleidyddion hefyd er mwyn sicrhau bod "lloches deilwng yng Nghymru i ffoaduriaid" a lle amlwg i gyfiawnder hiliol, meddai mewn cyfweliad â rhaglen Bwrw Golwg Â鶹ԼÅÄ Cymru.

"Roedd yna obeithion i gael un eglwys organig oddi fewn i ffiniau Cymru - dyw hynny ddim yn debygol o ddigwydd yn fuan," meddai.

"Ond mae cydweithio sylweddol rhwng eglwysi wedi digwydd ym meysydd ffoaduriaid a chyfiawnder hiliol.

"Hefyd mae eglwysi mewn sawl bro yn gweithio gyda'i gilydd wrth drefnu banciau bwyd a sicrhau dyfodol yr amgylchedd - dyna lle mae eglwysi yn rhoi eu hadnoddau.

"Mae'r hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru yn gwbl arloesol," meddai, gan ddweud hefyd bod nifer o eglwysi wedi dechrau gofyn cwestiynau anodd i'w hunain wedi Covid ac efallai y bydd y gonestrwydd hwnnw yn golygu bod yn rhaid "ffarwelio â'r hen ffyrdd o wneud pethau" a symud ymlaen at weithredu mwy eciwmenaidd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, "Mae'n braf bod y Senedd yn rhoi sylw i wyliau fel Diwali ac Eid," medd y Parchedig Aled Edwards

Yn ystod ei 23 mlynedd yn gweithio i Cytûn, fel swyddog ac yna yn brif weithredwr, mae Aled Edwards wedi cydweithio'n agos gyda gwleidyddion Bae Caerdydd - hynny'n rhannol am ei fod yn "wleidydd wrth reddf" ac wedi bod â rhan amlwg yn yr ymgyrch Ie Dros Gymru yn yr 1990au.

"Bellach os oes unrhyw ddathliad neu goffhad cenedlaethol maen nhw'n dod at Cytûn," meddai.

"Dwi'n eithriadol o falch bod hyn yn digwydd ac mae'n rhywbeth unigryw i ni yng Nghymru - dwi'n derbyn mai sefydliad seciwlar yw'r Senedd ond mae'n gwbl gynhwysol ac mae 'na groeso i ddathliadau Eid, Diwali a gweithredoedd fel derbyn Beiblau."

Wrth gyfeirio at sicrhau bod Cymru yn genedl noddfa dywed: "Dwi'n cofio eistedd lawr a syniad bach yn dod i fy mhen i 'efallai y byddai'n beth da i Gymru fod yn genedl noddfa' - y cyfan yn seiliedig ar syniad diwinyddol wrth gwrs.

"Bellach mae 'nghalon i'n llawenhau pryd bynnag byddai'n clywed gwleidyddion yn sôn am genedl noddfa a phan fyddai'n meddwl am ddewrder aruthrol yr Urdd yn derbyn pobl o Afghanistan - i ddechrau yn eu canolfan - ac wedi hynny mewn canolfannau eraill. Dwi'n gwybod y byddai sylfaenwyr yr Urdd wedi bod wrth eu boddau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywed Aled Edwards ei fod yn hynod o falch bod Cymru wedi croesawu ffoaduriaid

Yn gynharach mewn cyhoeddiad gan y CTBI (Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon) fe gafodd Mr Edwards ei enwi fel un o'r 50 person mwyaf dylanwadol o ran datblygu cyfiawnder hiliol ac roedd hynny yn "fraint enfawr", meddai.

"Mae pobl yn dweud wrtha i bod gen i ddawn i ddod â phobl ynghyd. Dwi'n cyfrif hynny'n fraint, a gyda sicrwydd Duw dyna fydda i'n ei wneud eto."

Mae'r Parchedig Aled Edwards wedi ei benodi yn Gadeirydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac fe fydd hefyd yn cynghori gweision sifil ym Mae Caerdydd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

"Dwi'n falch fy mod i wedi sicrhau bod pobl yn gallu troi at Cytûn am gymorth," meddai.

"Fydda i'n meddwl am y mudiad fel un sydd wedi rhoi bwcedaid o lawenydd i fi a rhyw deimlad fy mod i wedi cael rhan bychan iawn mewn gwneud cenedl."

Mae disgwyl i brif weithredwr newydd Cytûn gael ei benodi ganol Medi.

"Mae'n swydd arbennig iawn ac rwy'n dymuno'n dda i'w sawl fydd fy olynu," ychwanegodd Aled Edwards.

Mae cyfweliad y Parchedig Aled Edwards i'w glywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ac yna ar Â鶹ԼÅÄ Sounds.