Â鶹ԼÅÄ

Galw am gymorth gyda chostau ysgol wrth i'r esgid wasgu

  • Cyhoeddwyd
Gwisgoedd ysgol

Mae angen mwy o help ar deuluoedd gyda chost gwisg ysgol wrth iddynt ddygymod â'r cynnydd mewn costau byw, yn ôl elusen.

Mae Sefydliad Bevan yn dweud bod y meini prawf ar gyfer cymorth gwisgoedd yn rhy gul ac yn galw am fwy o gefnogaeth i rieni.

Dywedodd un rhiant o Sir y Fflint bod yn rhaid iddi "frwydro" i gael grant, ac mae hi'n amau bod rhai teuluoedd yn colli allan.

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu.

Pwy sy'n gymwys am y grant?

Mae plant o deuluoedd ar incwm isel ac sy'n gymwys ar gyfer budd-daliadau penodol yn gallu gwneud cais am y grant o £225 i bob plentyn.

Mae'r ffigwr yn £300 i ddysgwyr sy'n cychwyn ym Mlwyddyn 7 i gydnabod y costau uwch sy'n gysylltiedig â dechrau'r ysgol uwchradd.

Eleni, mae'r grantiau £100 yn uwch oherwydd y cynnydd mewn costau byw.

Mae pob blwyddyn ysgol orfodol yn gymwys.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Yn fam i ddau o blant, mae Diza Board o Saltney, Sir y Fflint, yn dweud iddi orfod "brwydro" i gael y grant gwisg ysgol.

Fe wrthododd y cyngor lleol ei chais gan fod ei phlant yn mynd i'r ysgol dros y ffin yng Nghaer, er ei bod o fewn y dalgylch.

Fe wnaeth hi gais tair blynedd yn ôl, ond fe gafodd ei gwrthod, meddai.

Eleni, fe ail-gyflwynodd ei chais gan fod ei phlant yn gymwys ac fel arall fe fyddai "wedi colli allan ar £500 o gefnogaeth".

Cafodd ei gwrthod unwaith eto, ac yna fe apeliodd yn llwyddiannus i Lywodraeth Cymru i gael yr arian.

'Sialens i nifer'

Mae Steffan Evans o Sefydliad Bevan yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r cymorth sydd ar gael i deuluoedd am flwyddyn.

Ond mae'n galw ar weinidogion i ehangu'r nifer sy'n gymwys am y grant.

Yr amod ar hyn o bryd ydy i fod yn ennill llai na £7,400 os ydyn nhw'n derbyn credyd cynhwysol.

Mae Sefydliad Bevan am weld y meini prawf yn cael eu gosod ar yr un lefel a chredyd cynhwysol i'w gwneud yn fwy hygyrch i bobl.

Dywedodd Mr Evans: "Ni'n gwybod bod miloedd o blant dal ddim yn mynd i fod yn gymwys am y cymorth.

"A gyda chostau byw yn cynyddu i bawb yn sylweddol dros y misoedd nesaf ni'n gwybod bod nifer fawr o blant a'u teuluoedd yn mynd i'w chael hi'n anodd i wneud yn siŵr bod y wisg 'da nhw neu bo' nhw'n gallu fforddio glanhau'r wisg os oes 'na rywbeth yn digwydd yn ystod yr wythnos ac mae am fod yn sialens i nifer."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jonathan Evans yn dweud bod y cynllun ailddefnyddio wedi helpu llawer yn yr ysgol

Mae Jonathan Evans yn rhiant yn Ysgol Treganna yng Nghaerdydd ac fe ddechreuodd gynllun ailddosbarthu dillad ysgol i deuluoedd.

Y cynnydd mewn costau byw oedd y rheswm gwreiddiol dros ei sefydlu, meddai, ond fe welon nhw gyfle i roi neges "fwy positif" ynghylch y syniad, yn enwedig o ran cynaliadwyedd.

"Ry'n ni wedi cael llwyth o negeseuon dros Whatsapp a Facebook yn dweud gymaint o lifesaver mae hwn wedi bod, yn enwedig i'r rheiny sy'n danfon nifer o blant i'r ysgol.

"Maen nhw wedi gallu arbed ychydig o arian yn ogystal â chefnogi'r thema cynaliadwyedd."

'Angen siopau ail-ddefnyddio ar bob ysgol'

Mae elusen Cadwch Cymru'n Daclus am weld rhagor o siopau cyfnewid gwisg ysgol yng Nghymru, fel bod popeth yn cael ei ailddefnyddio.

Maen nhw hefyd yn galw ar y llywodraeth i amlinellu strategaeth glir ar y mater.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin Moss am weld ymchwil i'r rhwystrau rhag agor mwy o siopau cyfnewid

"Ar hyn o bryd mae lot o'r gwaith yn cael ei wneud gan un person, sef un rhiant neu athro neu athrawes awyddus," meddai Catrin Moss o'r elusen.

"Hoffen ni weld fframwaith fel bod pob ysgol yn gallu rhedeg siopau ailddefnyddio dillad yn yr ysgol a rhai chwaraeon, a mwy o ymchwil i weld beth yw'r rhwystrau mae ysgolion yn eu hwynebu wrth redeg y siopau yma."

'Gwneud popeth y gallwn'

Dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru: "Mae'r argyfwng costau byw yn golygu fod mwy o deuluoedd yn ei chael yn anodd - fe fyddwn yn gwneud popeth y gallwn i helpu.

"Mae'r canllawiau o ran gwisgodd ysgol yn golygu bod rhaid i ysgolion gadw costau yn isel.

"Mae nifer o deuluoedd ar incwm isel yn gymwys am y Grant Datblygu Disgyblion i helpu gyda chostau gwisgoedd ac eitemau eraill.

"Dyma'r cynllun fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig ac fe ddylai rhieni a gwarchodwyr gysylltu â'u hawdurdod lleol i wirio os ydyn nhw'n gymwys i wneud cais."

Pynciau cysylltiedig