Â鶹ԼÅÄ

Cyngor Powys i gael gwared ar ddirwyon llyfrgell

  • Cyhoeddwyd
LlyfrgellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith cyngor Powys yw y bydd mwy yn dychwelyd i'w llyfrgelloedd ar ôl y pandemig

Ni fydd darllenwyr Powys yn gorfod talu dirwy am ddychwelyd llyfr yn hwyr bellach.

Gobaith cyngor Powys yw annog mwy i ddarllen a dychwelyd i'r 18 o lyfrgelloedd yn y Sir ar ôl y pandemig.

Dyma'r pumed cyngor yng Nghymru i gael gwared ar ddirwyon, yn ôl cyngor Powys, gyda phump arall yn ystyried y newid.

Mae rhai wedi croesawu'r newyddion, gydag eraill yn rhybuddio y gallai olygu mwy o oedi wrth aros i bobl ddychwelyd y llyfrau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd dirwyon yn cael eu gwaredu o 8 Medi heblaw bod cynghorwyr Powys yn galw i graffu ar y penderfyniad

Cafodd y ddadl dros waredu dirwyon ei chyflwyno i gynghorwyr mewn adroddiad gan uwch-lyfrgellydd Powys, Susan Summers.

Dywedodd Ms Summers mai'r syniad oedd "cael gwared ar rwystrau er mwyn defnydd y cyhoedd."

"Byddai cael gwared ar ddirwyon yn barhaol yn ein helpu i ail-adeiladu'r gynulleidfa ac annog defnyddwyr i ddychwelyd i'r llyfrgell ar ôl y pandemig."

Dydy plant ddim yn gorfod talu dirwyon eisoes ac mae'r gwasanaeth wedi cael gwared ar yr holl ddirwyion o ddechrau'r cyfnod clo cyntaf.

"Fe wnaethon ni gael gwared ar unrhyw ddirwyon a gafodd eu cyflwyno cyn [Mawrth 2022]," ychwanegodd Ms Summers.

Dywedodd fod hynny'n eu galluogi i anfon "neges gref" na fyddai angen talu ond ychwanegodd nad yw nifer y bobl sy'n defnyddio'r llyfrgell wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Ond y pryder i lyfrgellydd arall yng Nghrughywel, Powys, yw y bydd mwy o oedi wrth ddychwelyd llyfrau os yw'r dirwyon yn cael eu dileu.

Dywedodd Emma Corfield-Walters: "Os nag oes dirwyon neu unrhyw oblygiadau i'r bobl sy'n dychwelyd y llyfrau'n hwyr, bydd pobl yn aros lawer yn hirach [am lyfrau].

"Os nad yw [y system] yn cael ei cham-drin yna mi fydd yn beth da oherwydd bydd yn helpu pobl i gael mynediad i ddarllen, yn enwedig y mwyaf bregus... o ystyried y cyfnodau anodd ry'n ni'n byw ynddyn nhw ar hyn o bryd."

Bydd cyngor Powys yn cael gwared ar ddirwyon yn swyddogol o 8 Medi heblaw bod y penderfyniad yn cael ei "alw i'w graffu" gan gynghorwyr.

Mae'n bosib y gallai cwsmeriaid barhau i orfod talu am lyfrau newydd yn lle rhai sydd ar goll.

'Dim pont rhwng y llyfrgell a'r gymuned'

Ffynhonnell y llun, Evrah Rose
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i lyfrgelloedd wneud mwy i gysylltu â'r gymuned yn ôl y bardd ac awdur o Wrecsam, Evrah Rose

Nid dirwyon yn unig sy'n cadw pobl draw o lyfrgelloedd meddai un awdur o Wrecsam.

Dywedodd Evrah Rose, 34, bod 'na "ddatgysylltiad" rhwng llyfrgelloedd a chymunedau.

"Pan dw i'n edrych ar lyfrgelloedd ar draws Cymru, gan gynnwys ein un ni yn Wrecsam, dw i ddim yn gweld llawer yn nhermau hysbysebu ac yn enwedig proffil ar gyfryngau cymdeithasol," dywedodd.

Ychwanegodd Ms Rose fod gan lyfrgelloedd waith i'w wneud i ddweud wrth gymunedau am yr hyn sydd gyda nhw i'w gynnig, fel cysylltiad am ddim â'r we neu glybiau i blant.

"Dw i ddim yn siŵr os yw llawer yn gwybod am hynny," meddai. "Mae llyfrgelloedd yn gyfoeth o adnoddau ond does dim pont rhyngddyn nhw â'r gymuned."

Dywedodd ei bod yn deall bod cyllidebau a niferoedd staff wedi eu torri, ond y byddai gwell "presenoldeb ar-lein" ddim yn costio'n ddrud.