Gwahardd defnydd pibellau dŵr yn Sir Benfro o ganol y mis

Disgrifiad o'r fideo, Mae'r Dr Simon Proud yn wyddonydd sydd wedi defnyddio lluniau lloeren i ddangos lefelau dwr yn gostwng dros yr haf, fel yma yn Llyn Celyn, ger Y Bala

Fe fydd gwaharddiad ar ddefnyddio pibelli dŵr yn y mwyafrif o Sir Benfro a rhan o Sir Gâr o 19 Awst.

Daw'r gwaharddiad wrth i adnoddau dŵr ar gyfer y sir "agosáu at lefelau sychder," meddai Dŵr Cymru wrth wneud y cyhoeddiad brynhawn Iau.

Ni fydd pobl yn cael defnyddio pibelli (hosepipes) ar gyfer gweithgareddau yn eu cartrefi megis rhoi dŵr i'w planhigion neu lenwi pyllau padlo neu dwbâu twym.

Dywed y cwmni dŵr mai dyma'u gwaharddiad cyntaf ers 1989.

Nid yw'r sefyllfa yn peri risg uniongyrchol i gyflenwadau dŵr ar gyfer y sir, medd Dŵr Cymru.

Fodd bynnag, mae'n rhaid "cymryd camau i sicrhau bod digon o ddŵr yn parhau i gyflenwi cwsmeriaid a diogelu'r amgylchedd lleol dros y misoedd nesaf".

Fe fydd y gwaharddiad yn dod i rym am 08:00 19 Awst, yn dilyn cyfnod ymgynghori o saith diwrnod rhwng 10 a 17 Awst.

Ffynhonnell y llun, Dŵr Cymru

Disgrifiad o'r llun, Map yn dangos yr ardal ble bydd y gwaharddiad yn dod i rym ar 19 Awst

Yn ôl data'r Swyddfa Dywydd, fe gofnodwyd llai o law yng Nghymru fis Gorffennaf eleni nag yn ystod unrhyw fis Gorffennaf ers 2006.

Mae'r swyddfa yn rhagweld y bydd mwy o dywydd poeth i ddod yn y DU dros yr wythnos nesaf.

Mae gwaharddiadau tebyg ar bibellau dŵr eisoes wedi eu cyhoeddi mewn rhannau o dde Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Planet/NCEO/Dr Simon Proud

Disgrifiad o'r llun, Mae'r lluniau lloeren yma'n dangos y gwahaniaeth yn lefel y dŵr yng nghronfeydd Craig Goch a Phen y Garreg rhwng Gorffennaf 2021 a Gorffennaf 2022

Dywedodd Ian Christie, rheolwr-gyfarwyddwr gwasanaethau dŵr ar gyfer Dŵr Cymru: "Nid ydym wedi gweld cyfnodau mor estynedig o amodau sych yn Sir Benfro ers 1976.

"Os ydym am sicrhau bod digon o ddŵr i'n cyflenwi am weddill yr haf ac i'r hydref, mae angen i ni weithredu nawr i geisio atal rhagor o gyfyngiadau nes ymlaen."

Ychwanegodd Mr Christie nad yw'r cwmni'n bwriadu "cyflwyno gwaharddiadau yn ehangach ar draws ein hardal weithredu".

Roedd Dŵr Cymru eisoes wedi rhybuddio bod yna "beth pryder am y sefyllfa yn Sir Benfro".

"Rhwng Mawrth ac Ebrill, roedd lefelau glaw ar draws Cymru ond yn 50% o'r cyfartaledd tymor hir, tra rhwng Mawrth a Mai roedd ond yn 60%," ychwanegodd.

Mewn ymateb i'r galw cynyddol gan gwsmeriaid am ddŵr mae'r cwmni wedi gorfod cynyddu ei drefniadau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'r cyfnod o dywydd sych yn adlewyrchu'r heriau yr ydym i gyd yn eu hwynebu wrth daclo newid hinsawdd.

"Rydyn ni'n parhau i annog pawb i fod yn ystyrlon wrth ddefnyddio dŵr er mwyn sicrhau cyflenwad dros y misoedd nesaf."

'Rhaid bod yn fwy uchelgeisiol'

Ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru osod targedau amgylcheddol sy'n fwy uchelgeisiol er mwyn osgoi gwaharddiadau pellach, medd Bleddyn Lake o Gyfeillion y Ddaear.

Mae'r llywodraeth am leihau faint o ddŵr mae pob unigolyn yn ei ddefnyddio bob dydd o 150 litr i 110 litr. Yn ôl Mr Lake, dyw hynny ddim yn ddigon.

Hoffai weld "gostyngiad eithaf dramatig" i 80 litr y dydd.

"Mae pobl ym Mrwsel, er enghraifft, yn barod wedi cyrraedd 96 litr y dydd, sy'n dangos beth sy'n bosib yn syth - heb sôn am beth ddylwn ni fod yn anelu amdano yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Dwr Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae lefelau'r dŵr yn isel mewn cronfeydd fel hon yn Llys y Fran, Sir Benfro

Ychwanegodd bod "sawl ffordd" y gall pob un ohonom ddefnyddio llai o ddŵr, megis ailddefnyddio dŵr golchi llestri i roi dŵr i blanhigion a lleihau faint o gawodydd ry'n ni'n eu cymryd.

Mewn ymateb i sylwadau Mr Lake, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gan bawb "ddyletswydd i ddefnyddio dŵr mewn modd cynaliadwy ar bob achlysur".

Mae'r llywodraeth yn "parhau i annog pawb i fod yn ystyriol wrth ddefnyddio dŵr" dros y misoedd nesaf, ac yn parhau i weithio gyda chwmnïau dwr a Chyfoeth Naturiol Cymru, sy'n gyfrifol am reoli adnoddau dŵr yng Nghymru, "er mwyn sicrhau bod diddordebau cenedlaethau'r dyfodol wrth galon ein defnydd o ddŵr".

Galw am adfer gwlypdiroedd

Dywed Rory Francis o'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt y byddai adfer gwlypdiroedd ar raddfa eang yn ateb i'r heriau sy'n ein hwynebu ni yn y dyfodol o ganlyniad i fwy o hafau sych a phoeth.

"'Da ni wedi colli rhyw 90% o'r gwlypdiroedd oedd ganddon ni 100 mlynedd yn ôl," meddai ar Dros Frecwast fore Gwener.

"Petasen ni'n mynd ati yn egnïol i adfer y rheiny, ac adfer corsydd mawn, fysa hynny'n galluogi'r tir i weithio fel sbwng i ddal dŵr yn ôl a sicrhau bod rhagor o ddŵr yn llifo yn yr afonydd a'r nentydd yn ystod cyfnodau sych.

"Trwy wneud hyn fysen ni hefyd yn gallu mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

"Mae corsydd mawn nid yn unig yn dal llawer iawn o ddŵr, ond maen nhw'n dal llawer iawn o garbon hefyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Ni fydd pobl yn cael defnyddio pibelli ar gyfer pethau fel rhoi dŵr i'w planhigion neu olchi eu ceir

Roedd grŵp ymgyrchu Welsh Rivers Union eisoes wedi galw am wahardd defnyddio pibellau dŵr mewn rhannau o Gymru yn dilyn cyfnod i dywydd poeth heb lawer o law.

"Dydyn ni ddim yn dymuno cyrraedd sefyllfa o argyfwng cyn i ni weithredu," meddai cyd-sylfaenydd y grŵp, Kim Waters, ar Â鶹ԼÅÄ Radio Wales.

"Rhaid i ni fod yn synhwyrol fel cymdeithas nawr. Nid adnodd tafladwy mo dŵr yng Nghymru, ac mae angen i ni ei reoli mewn ffordd well."

Dywedodd Mr Waters bod angen i gwmni Dŵr Cymru a chorff Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn fwy agored ynghylch y data sydd gyda nhw.

"Rwy' just eisiau iddyn nhw fod yn agored, gonest - dweud wrthym beth yw'r sefyllfa a gweithredu'n briodol."