Â鶹ԼÅÄ

'Dal ffordd i fynd' i fod yn gynhwysol at bobl LHDTC+

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CabarelaFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Ymysg digwyddiadau Mas ar y Maes eleni oedd perfformiad Cabarela ar lwyfan y Pafiliwn nos Fawrth

Mae'r Cymry'n "licio meddwl" eu bod nhw'n gynhwysol tuag at bobl LHDTC+, ond mae "dal ffordd i fynd" i sicrhau bod pobl o fewn y gymuned yn gyfforddus yn mynegi eu hunain.

Wrth siarad ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron, dywedodd Iestyn Wyn o Stonewall Cymru fod agweddau yn y Brifwyl bellach yn "anhygoel" o groesawgar ar y cyfan.

Ond mae 'na dal rai pobl, meddai, sydd ag agweddau o "peidiwch rhoi o yn ein wynebau ni", yn enwedig os ydy'n nhw'n ystyried rhywun yn "rhy queer neu'n rhy camp".

"'Dan ni angen derbyn pawb am bwy ydyn nhw, pa bynnag ffordd maen nhw'n gwisgo, yn siarad," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae pethau'n gwella'n bendant, ond mae dal ffordd i fynd," medd Iestyn Wyn

Bu Iestyn yn rhan o sefydlu digwyddiadau Mas ar y Maes, a ddechreuodd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018.

"Dros y blynyddoedd mae Mas ar y Maes wedi dod yn rhan fwy naturiol o'r Eisteddfod, sydd yn gwneud yr elfen 'na o 'o mam bach, mae 'na rywbeth newydd ar y maes' yn llai o beth," meddai

"Mae pobl yn gwerthfawrogi fo ac yn gweld ei bwysigrwydd o hyd yn oed yn fwy."

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r stondinau ar y maes eleni ydy Paned o Gê, a ddechreuodd fel clwb darllen ar-lein yn ystod y cyfnod clo

Ond mae'n dweud bod rhai pobl yn dal i ddangos agweddau anghyfforddus tuag at rai digwyddiadau LHDTC+.

"Dan ni fel Cymry yn licio meddwl ein bod ni'n gynhwysol, ond mae 'na dal bethau'n bodoli lle mae pobl efo'u syniadau nhw o ran beth sy'n dderbyniol i berson LGBTQ+," meddai Iestyn.

"Os wyt ti'n ffitio'r mould penodol yma ti'n dderbyniol, ond os wyt ti yn rhy queer neu'n rhy camp, bod o ella ddim yn dderbyniol a bod chi'n gwthio fo i wynebau pobl.

"Ond mae'n sbectrwm, a beth 'dan ni angen sicrhau ydy bod ni'n derbyn pawb o fewn y sbectrwm."

Ychwanegodd: "Mae pethau'n gwella'n bendant, ond mae dal ffordd i fynd."

Ddydd Iau bydd Mas ar y Maes yn lansio partneriaeth newydd gyda Stonewall Cymru, Pontio a Glitter Cymru, grŵp sy'n cynrychioli pobl o liw o fewn y gymuned LHDTC+.

Dywedodd Iestyn Wyn mai'r bwriad oedd ceisio "cyrraedd mwy o gymunedau LGBTQ+ Cymru... sydd ddim yma yn yr Eisteddfod", gyda digwyddiadau ar draws y flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd un sy'n gweithio ar stondin Paned o Gê bod fod nifer o eisteddfodwyr wedi "diolch" iddyn nhw am eu presenoldeb

Un o'r stondinau ar y maes eleni ydy Paned o Gê, a ddechreuodd fel clwb darllen ar-lein yn ystod y cyfnod clo ar gyfer llenyddiaeth LHDTC+.

"Mae'r Eisteddfod wedi bod mor gefnogol, ac mae pobl hefyd wedi bod mor neis hyd yn hyn," meddai'r sylfaenydd Daniel Bowen.

"Gaethon ni rai digwyddiadau ddoe gyda phobl yn bod 'chydig yn fyrlymus, pobl just yn 'neud hwyl o'r enw, ond other than that, mae 'di bod yn eitha' da."

Ychwanegodd Mair Jones, sy'n gweithio ar y stondin, bod "lot o bobl yn hoffi'r enw hefyd" a bod nifer o eisteddfodwyr wedi "diolch" iddyn nhw am eu presenoldeb.

"Fi'n credu bod Eisteddfodwyr yn fwy croesawgar nag o'n nhw i bobl LHDT+," meddai.