Urddo Mark Drakeford a Huw Edwards i'r Orsedd

Disgrifiad o'r fideo, Huw Edwards yn 'emosiynol' ar ôl cael ei urddo i'r Orsedd

Roedd Prif Weinidog Cymru ymysg y rheiny a gafodd eu hurddo i'r Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol fore Gwener.

Yn ogystal â Mark Drakeford, roedd y darlledwr Huw Edwards a chyn-Brif Swyddog Meddygol Cymru, Ruth Hussey, hefyd yn derbyn y fraint.

Eraill i'w hurddo ar y Maes oedd yr ymgyrchydd iaith ac annibyniaeth, Sion Jobbins, a'r cyfansoddwr Delwyn Sion.

Bwriad yr Orsedd yw anrhydeddu unigolion am eu "cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau".

Mae'r rheiny sydd yn amlwg ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduriaeth, y cyfryngau, gweithgaredd bro neu genedl yn derbyn Y Wisg Las.

Mae'r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i'r Wisg Werdd am eu cyfraniad i'r celfyddydau.

Bydd y rheiny sydd wedi sefyll arholiad, neu sydd â gradd gymwys ym maes llenyddiaeth, cerddoriaeth, drama neu gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Mark Drakeford ganmoliaeth am ei arweiniad yn ystod y pandemig

Wrth gymryd yr enw barddol 'Mark Pengwern', a hynny i gymeradwyaeth hiraf y dydd, derbyniodd y Prif Weinidog ganmoliaeth gan yr Archdderwydd am ei "arweiniad urddasol drwy gyfnod Covid a'r cyfnodau clo".

Daeth hynny, ychwanegodd, er gwaethaf "sylwadau annheg gan y gwleidyddion a'r wasg yn Llundain", a hynny'n ennyn cymeradwyaeth bellach gan y dorf.

'Profiad emosiynol'

Cafodd y darlledwr Huw Edwards ei dderbyn o dan yr enw 'Huw Elli' - gan gydnabod ei fagwraeth yn ardal tre'r sosban yn Llangennech.

Wedi cael ei urddo dywedodd: "Roedd e'n brofiad emosiynol a braidd yn annisgwyl. Ro'n i'n teimlo'r fraint."

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

"O'n i'n teimlo'r balchder bod Mam yma i weld y peth, o'n i'n teimlo ychydig yn drist bod Dad ddim yma i weld y peth, yn enwedig gan bod ni yma yng Ngheredigion, ar ein milltir sgwâr fel teulu mewn sawl ffordd.

"Dwi yn teimlo ei bod hi'n fraint ac anrhydedd ac o'n i'n ddiolchgar iawn am y cyfle."

"O ran degawdau o waith fel newyddiadurwr a darlledwr, a rhywun sydd wastad wedi ymddiddori yn y Pethe, dwi'n falch iawn bod pobl wedi cydnabod hynny.

"Os yw e'n gyfraniad mae pobl wedi gwerthfawrogi wedyn 'wi'n falch am hynny."

'Bachgen o Dregaron'

Hefyd yn cael ei dderbyn i'r Orsedd fore Gwener oedd Wynne Melville Jones, sy'n gyfarwydd fel arloeswr PR, fel Tad Mistar Urdd ac artist.

"O'dd e fel breuddwyd a dweud y gwir, dwi'n fachgen o Dregaron, nes i erioed feddwl bydde'r Eisteddfod yn dod i Dregaron," meddai.

Disgrifiad o'r fideo, 'Dim dewis ond Mistar Urdd' i aelod newydd yr Orsedd

"O'n i'n arfer dod lawr i'r caeau hyn i gasglu gwartheg i fynd i odro pan o'n i'n yr ysgol, a 'drychwch arni nawr.

"Dwi'n teimlo mod i wedi cynrychioli pobl Tregaron, pobl yr Urdd, a'r hyn sydd 'di digwydd yn Golwg dros y blynyddoedd, a'r holl ddiddordebau eraill sydd gyda fi - jyst cynrychiolydd ydw i."

Mae'r Urdd yn agos at ei galon ac mae'n Llywydd Anrhydeddus y mudiad, ac felly, be well fel enw gorseddol na "Mistar Urdd"!

"Doedd gyda fi ddim dewis mewn gwirionedd! Am un peth oedd e'n ffordd o gael Mr Urdd i mewn i'r Orsedd, ac roedd e'n gyffyrddiad bach ysgafnach falle."

Un arall i gael ei urddo oedd Cledwyn Ashford, sy'n adnabyddus am ei waith yn myd pêl-droed y gogledd ddwyrain.

Ond yn hytrach roedd yn derbyn y wisg am ei waith fel "aelod allweddol o'r tîm sy'n rhedeg maes yr Eisteddfod". Ei enw Gorsedd yw 'Rhydonnen o'r Llan'.