Eisteddfod: Covid 'wedi cael effaith' ar faint sy'n cystadlu

Disgrifiad o'r llun, Adran Aberystwyth yn ymarfer ar y maes cyn cystadlu yn yr ensemble lleisiol agored ddydd Sadwrn

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dweud bod nifer y cystadleuwyr ychydig i lawr eleni - gyda chystadlaethau corau yn enwedig - ond bod y ffigyrau'n "galonogol".

Cafodd cyfnod Covid effaith ar allu nifer o grwpiau i ymarfer, a'r pandemig hefyd wedi cael effaith ar ddyluniad y maes eleni sydd yn llawer mwy "agored" na'r arfer.

"Ro'n ni wedi paratoi ar gyfer niferoedd llai, felly ni 'di cael ein synnu ar yr ochr orau o ran y niferoedd sy'n cystadlu," meddai'r prif weithredwr Betsan Moses.

"Ond mae nifer wedi dweud eu bod nhw'n dangos eu teyrngarwch ac yn dymuno gwneud, oherwydd mae wedi bod yn gyfnod anodd ac felly maen nhw isie sicrhau bod yr Eisteddfod yma'n dod yn ôl gyda bang."

Maes 'fwy sgwâr'

Bu pryder yn enwedig am ddyfodol nifer o gorau yng Nghymru yn sgil effaith y pandemig, ond dywedodd Ms Moses fod y nifer sy'n cystadlu canu yn Nhregaron "ddim yn sylweddol is" nag eisteddfodau eraill.

"O'n i'n ymwybodol bod nifer ohonyn nhw mewn sefyllfa o ran pryd fydden nhw'n ymarfer - nid pawb oedd yn ymarfer ar Zoom - a dyna pam y cafodd y rhaglen ei chreu yn ymwybodol falle byddai 'na lai yn cystadlu," meddai.

"Ond mae'r ymateb wedi bod yn well na'r disgwyl, a nifer o gorau newydd wedi dechrau hefyd.

"Roedd nifer o arweinyddion yn dweud wrthon ni falle bod angen datblygu neu ailhyfforddi'r llais, ond o'n nhw dal isie cymryd rhan.

"Mae hwnna'n bwysig achos ni angen cydweithio i sicrhau bod y traddodiad corawl yn parhau."

Disgrifiad o'r llun, Mae Betsan Moses wedi apelio ar bobl i ddilyn yr arwyddion ffordd wrth deithio i'r Maes er mwyn osgoi problemau traffig

Cafodd Covid hefyd effaith ar gynlluniau'r Eisteddfod ar gyfer y Maes eleni, a hwnnw wedi ei ddylunio pan oedd y cyfyngiadau'n llymach.

Oherwydd hynny mae mwy o ofodau o gwmpas y maes eleni - sydd yn fwy sgwâr na meysydd hirach y gorffennol - gan gynnwys yn y brif fynedfa ble mae mwy o ofod i geisio osgoi cael gormod o bobl yn gorfod cronni yn yr un lle.

Mae'r un peth yn wir am leoliadau eraill fel Theatr y Maes a'r Babell Len, sy'n dal yr un faint o bobl ond yn cynnwys mwy o ofod, a hynny er mwyn hwyluso pethau i bobl allai fod yn "anghyfforddus" o hyd mewn torfeydd.

"Trwy gynllunio fe'n agored mae rhywun yn gallu ymlwybro a pheidio teimlo bod 'na filoedd o'u hamgylch nhw, ac mae hynny'n bwysig fi'n credu," meddai Betsan Moses.

"Mi welwch chi gelfyddyd ym mhob man, a dyna beth sy'n arbennig - fel esiampl, mae dros 200 o ddigwyddiadau jyst yn y Pentref Ceredigion - felly gallwch chi grwydro ac fe gewch chi'ch cyfareddu gyda beth sy'n digwydd o'ch blaen chi."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y trefnwyr fod y problemau dŵr ar y maes bellach wedi eu datrys

Mae'r trefnwyr wedi cael rhai trafferthion gyda'r Maes fodd bynnag - gan gynnwys problem gyda'r cyflenwad dŵr ddydd Gwener a bore Sadwrn.

Cadarnhaodd Betsan Moses fod rhai contractwyr hefyd wedi tynnu 'nôl yr wythnos ddiwethaf o allu darparu rhai adeiladau ar gyfer y maes, oherwydd diffyg criwiau.

Ers hynny, meddai, mae'r Eisteddfod wedi "cydweithio efo'r diwydiant" gan gynnwys y syrcas fydd yn perfformio ar y maes ddydd Sadwrn er mwyn darparu adeiladau a phebyll eraill.