Â鶹ԼÅÄ

Y Gymraes sy'n dyfarnu gêm gynderfynol Euro 2022

  • Cyhoeddwyd
Cheryl FosterFfynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cheryl Foster yn dyfarnu mewn gêm rhwng timau merched Caerdydd ac Abertawe llynedd

Efallai nad ydi tîm Cymru ym Mhencampwriaeth Euro 2022 y merched, ond bydd Cymraes yn chwarae rhan flaenllaw yn y gêm gynderfynol nos Fercher - y dyfarnwr.

Cheryl Foster, o Landudno, fydd yn gyfrifol am yr ornest rhwng Yr Almaen a Ffrainc ym Milton Keynes, a hi fydd y Gymraes gyntaf i ddyfarnu yn un o brif bencampwriaethau'r byd pêl-droed.

Mae eisoes wedi torri tir newydd gan mai hi oedd y fenyw gyntaf i ddyfarnu gêm yn Uwchgynghrair Cymru - lefel uchaf gêm y dynion yng Nghymru - nôl yn 2018.

Mae'r cyn-ymosodwr i Lerpwl, enillodd 63 o gapiau dros Gymru rhwng 1997 a 2011, wedi bod yn dyfarnu ers 2013 ac wedi bod ar restr elît Uefa ers 2020.

Ffynhonnell y llun, John Smith/Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cadw rheolaeth mewn gêm rhwng Y Drenewydd a'r Bari y tymor diwethaf

Un sy'n falch iawn o'i llwyddiant ydi'r sylwebydd pêl-droed Gwennan Harries, fu'n chwarae yn yr un tîm Cymru a Cheryl Foster.

"Fi'n hynod o falch - mae hi'n berson sbesial iawn ac yn chwaraewraig arbennig o dda," meddai ar raglen Dros Frecwast.

"Mae hi'n deall y gêm a fi'n credu bod hi'n llawn haeddiannol i gael y cyfle - un i fod yn yr Euros ac wedyn i gael gêm mor fawr.

"Achos bod hi wedi chwarae mae hi'n deall falle yn well nag eraill - mae hi'n gadael y gêm i lifo ac efo dau dîm arbennig o dda sy'n enjoio chwarae pêl-droed da heno dwi'n siŵr fydd yn gêm ac achlysur arbennig.

"Fi'n credu bydd hi'n ysbrydoli eraill a dyna pam mae'n haeddu'r sylw. Mae gymaint o rolau gwahanol o fewn pêl-droed, dim jest bod yn chwaraewr neu gefnogwr, ac mae'n hyfryd i weld y llwybr yna [o fynd i'r byd dyfarnu ar ôl chwarae'r gêm] yn cael y sylw hefyd."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Lloegr
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Yr Almaen neu Ffrainc yn wynebu Lloegr, sy'n dathlu wedi eu buddugoliaeth yn erbyn Sweden yn y llun uchod, yn y rownd derfynol dydd Sul 31 Gorffennaf

Pan gafodd ei henwi fel un o'r dyfarnwyr yn y bencampwriaeth yn gynharach eleni fe ddywedodd Cheryl Foster ei bod yn falch iawn o gynrychioli Cymru fel dyfarnwr ac yn gobeithio bod yn hwb i eraill.

A dyna ydi gobaith pennaeth pêl-droed merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Lowri Roberts, gan fod diffyg dyfarnwyr yn y gêm yn gyffredinol.

Meddai ar Dros Frecwast: "O'r holl Fifa officials sy'n dod o Gymru mae 25% ohonyn nhw yn ferched, so pan ni'n rhoi'r cyfle a'r gefnogaeth i'r merched yma sy'n dod i mewn yn ddyfarnwyr maen nhw'n gallu gwneud yn dda iawn, iawn.

"Y broblem sydd gennyn ni ydi does dim digon o ferched yn dod mewn i'r grassroots - felly rydyn ni'n rili gobeithio bydd gweld Cheryl yn gwneud gêm wych heno ar y teledu yn ysbrydoli mwy o ferched ifanc i feddwl 'mae gymaint o opportunities i ni yn y gêm nid jest fel chwaraewyr neu hyfforddwyr ond fel dyfarnwyr hefyd'."

Hefyd o ddiddordeb: