Rhybudd ambr am wres yn dod i rym i rannau o Gymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Daeth rhybudd ambr am dywydd poeth eithriadol i rym ar gyfer rhannau o Gymru fore Sul, wrth i'r wlad baratoi am dymereddau uchel iawn dros y dyddiau nesaf.

Mae disgwyl i'r tymheredd godi i 30 selsiws ac uwch yn ystod y dydd.

Mae gofyn i bobl gadw'n ddiogel wrth i arbenigwyr rybuddio y gallai'r gwres arwain at salwch a marwolaeth, hyd yn oed ymhlith pobl iach a heini.

Mae rhybudd i 15 o siroedd Cymru ddydd Sul:

  • Blaenau Gwent
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Merthyr Tudful
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Sir Ddinbych
  • Sir Fynwy
  • Sir y Fflint
  • Torfaen
  • Wrecsam

Fe fydd rhybudd ambr ar gyfer Cymru gyfan ddydd Llun a dydd Mawrth, pan mae disgwyl i'r tymheredd gyrraedd y 30au uchel mewn rhai ardaloedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Afon Caeriw yn gynharach yr wythnos hon yn sgil diffyg glaw

Bydd rhybudd coch i rannau o Loegr am y tro cyntaf erioed - sydd yn golygu fod yna berygl i fywyd - gan y gallai tymereddau gyrraedd 40 selsiws.

"Dydyn ni ddim yn gweld rhybuddion fel hyn yn aml, a dyna pham mae'n bwysig dros ben bod pobl yn ei gymryd o ddifri," meddai'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan.

"Dwi'n poeni'n arbennig am yr henoed a dwi'n poeni am blant ifanc. Mae'n bwysig fod pob un yn yfed digon o ddŵr ac yn cadw allan o'r haul ar yr adegau mwyaf poeth."

Mae rhai canolfannau brechu yn ail-drefnu apwyntiadau o ganlyniad i'r tymheredd.