Â鶹ԼÅÄ

Uned Tawel Fan: Triniaeth claf cyn ei farwolaeth yn 'briodol'

  • Cyhoeddwyd
Tawel Fan

Roedd y driniaeth gafodd claf ar ward iechyd meddwl yn y misoedd cyn iddi gau yn "briodol" a "rhesymol", clywodd cwest.

Bu farw Peter Arnold, 75 oed, o niwmonia yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan fis Awst 2013, a hynny'n fuan ar ôl cael ei drin yn uned iechyd meddwl Ablett.

Cafodd ward Tawel Fan yn yr uned honno ei chau fis Rhagfyr 2013 wedi i deuluoedd godi pryderon am y gofal yno.

Fe gafodd achos marwolaeth Mr Arnold ei adolygu yn sgil y pryderon hynny.

Hwn oedd y cyntaf o chwe chwest sy'n gysylltiedig ag ward Tawel Fan.

Achosion naturiol

Roedd adroddiad i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gan yr ymgynghorwyr HASCASS wedi casglu bod Mr Arnold wedi cael gofal "priodol".

Ond roedd y crwner, John Gittins, am wybod a oedd niwmonia Mr Arnold wedi ei achosi wrth iddo anadlu ei fwyd tra yn Tawel Fan.

Gofynnodd i'r Dr Robert Higgo adolygu'r holl ddogfennau, ac wrth roi tystiolaeth i'r cwest yn Rhuthun, fe ddywedodd fod y driniaeth dderbyniodd Mr Arnold yn addas.

"Allai'r staff ddim bod wedi gwneud mwy", meddai Dr Higgo wrth gyfeirio at yr ymdrechion i asesu llwnc Mr Arnold.

Fe gasglodd y crwner nad oedd "unrhyw dystiolaeth" bod y gofal dderbyniodd Mr Arnold yn uned Ablett wedi cyflymu ei farwolaeth.

Roedd y gofal dderbyniodd y claf o safon "da" ac yn "briodol", ychwanegodd.

Fe ddywedodd bod afiechyd Mr Arnold wedi "dilyn ei gwrs naturiol", gan ddod i gasgliad bod Mr Arnold wedi marw o achosion naturiol.