Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Penodi Syr Robert Buckland AS yn Ysgrifennydd Cymru
Mae Aelod Seneddol De Swindon, Syr Robert Buckland wedi ei benodi gan Boris Johnson yn Ysgrifennydd Cymru.
Mae'n olynu Simon Hart, a ymddiswyddodd o'r llywodraeth nos Fercher gan ddweud bod "dim dewis arall" iddo.
Mae Mr Johnson wedi bod yn rhoi cabinet newydd at ei gilydd ddydd Iau wedi iddo gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr.
Ond mae'n bwriadu aros fel prif weinidog nes bod y blaid wedi dewis arweinydd newydd yn yr hydref.
'Y rheswm imi dderbyn'
Dywedodd Syr Robert, sy'n wreiddiol o Lanelli, mai dim ond oherwydd ei fod yn gwybod y byddai Mr Johnson yn ymddiswyddo y derbyniodd y swydd.
Esboniodd wrth Â鶹ԼÅÄ Radio 4 iddo gael cynnig y swydd yn hwyr fore Iau, a'i derbyn gan ei fod yn teimlo ei fod yn ddyletswydd arno i helpu i "setlo pethau".
Dywed er bod gan brif weinidog dros dro rwymedigaeth i gyflawni polisïau presennol, y byddai'n "od" i unrhyw bolisïau newydd gael eu cyhoeddi.
Pan ofynnwyd iddo pwy allai gymryd lle Mr Johnson, dywedodd Syr Robert nad oedd yn gwybod pwy fyddai'r ymgeiswyr, cyn ychwanegu: "Dydw i ddim yn gwybod... fi, efallai."
Pan ofynnwyd iddo a oedd o ddifrif, atebodd: "Wel, pwy a wÅ·r. Rwyf bob amser yn barod i wasanaethu'r wlad ym mha bynnag swyddogaeth."
Ond ychwanegodd ei fod yn "senario annhebygol".
Dywed gohebydd gwleidyddol y Â鶹ԼÅÄ, Ione Wells, nad oedd unrhyw Geidwadwr mewn seddi Cymreig yn fodlon derbyn y swydd.
Yn wreiddiol o Lanelli, cafodd Syr Robert ei ethol yn Aelod Seneddol yn 2010.
Roedd yn Ysgrifennydd Cyfiawnder yng nghabinet Boris Johnson o fis Gorffennaf 2019 tan Medi 2021, pan gafodd ei ddiswyddo.
Yn ymateb i'r penodiad dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies: "Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Ysgrifennydd newydd Cymru, Robert Buckland a aned yn Llanelli, y cyfarfûm ag ef gyntaf pan aeth y ddau ohonom am sedd Brycheiniog a Maesyfed dros 20 mlynedd yn ôl."
Yn siarad ar raglen Â鶹ԼÅÄ Wales Today nos Iau, cadarnhaodd David TC Davies y byddai yn parhau yn ei rôl fel chwip yn y llywodraeth ac fel dirprwy weinidog yn Swyddfa Cymru.