Â鶹ԼÅÄ

Caniatáu i orymdaith annibyniaeth Wrecsam fynd yn ei flaen

  • Cyhoeddwyd
Rali annibyniaeth yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad AUOB Cymru yw cynnal gorymdaith dros annibyniaeth i Gymru, fel gwelwyd yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful a Chaernarfon cyn y pandemig

Mae Cyngor Wrecsam wedi cadarnhau na fydd yn rhwystro ymgyrchwyr annibyniaeth rhag gorymdeithio drwy rannau o'r ddinas.

Bwriad grŵp AUOB Cymru yw cychwyn gorymdeithio o gae Llwyn Isaf, ger Neuadd y Dref, fore Sadwrn fel rhan o rali o blaid annibyniaeth i Gymru.

Ond roedd swyddogion y cyngor wedi eu hysbysu nad oedd caniatâd iddynt ymgynnull yn y safle.

Yn ôl e-bost i'r trefnwyr roedd Cyngor Wrecsam yn cyfeirio at reolau sy'n datgan nad oes hawl i gynnal digwyddiadau gwleidyddol yno.

Mewn ymateb dywedodd y trefnwyr eu bod yn bwriadu anwybyddu'r cyngor a pharhau gyda'r orymdaith.

Ond fore Mercher daeth cadarnhad gan y cyngor na fyddai'n rhwystro mynychwyr rhag ymgasglu yn Llwyn Isaf.

'Sefyllfa wirioneddol chwerthinllyd'

Roedd un o gynghorwyr y sir wedi disgrifio penderfyniad gwreiddiol Cyngor Wrecsam fel "gwarthus".

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Carrie Harper: "Yn yr ychydig wythnosau diwethaf maen nhw wedi cael digwyddiadau yn y gofod hwn ar gyfer Jiwbilî'r Frenhines a Diwrnod y Lluoedd Arfog"

Dywedodd Carrie Harper, sy'n cynrychioli ward Queensway i Blaid Cymru: "Mae'n sefyllfa wirioneddol chwerthinllyd.

"Ni allant ei wahardd oherwydd mae ein hawl i ymgynnull a'n hawl i ryddid mynegiant wedi'i nodi mewn deddfwriaeth Hawliau Dynol.

"Mae yna ychydig o eironi pan edrychwch ar y protocol y maen nhw wedi'i ddyfynnu hefyd.

"Maen nhw'n dweud nad ydyn nhw'n caniatáu digwyddiadau gwleidyddol, ond maen nhw hefyd yn dweud na fyddan nhw'n caniatáu digwyddiadau sy'n hyrwyddo naill ai unigolyn neu sefydliad.

"Ond yn llythrennol dim ond yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf maen nhw wedi cael digwyddiadau yn y gofod hwn ar gyfer Jiwbilî'r Frenhines a Diwrnod y Lluoedd Arfog."

Rali yn 'bwnc gwleidyddol'

Mewn gohebiaeth rhwng y cyngor a'r trefnwyr, dywedodd rheolwr canol tref Wrecsam ei bod wedi cymryd cyngor gan adran gyfreithiol yr awdurdod.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad grŵp AUOB Cymru yw cychwyn gorymdeithio o gae Llwyn Isaf, ger Neuadd y Dref

Dywedodd Rachel Cupit y byddai'r orymdaith yn mynd yn groes i'r protocol sydd mewn lle ers 1998.

"Byddwn yn ystyried yr orymdaith annibynnol yn orymdaith wleidyddol, ac felly ni chaniateir i chi archebu Llwyn Isaf," meddai.

"Er 'mod i'n gwerthfawrogi eich bod yn dweud yn eich e-bost nad yw'n blaid wleidyddol, mae rali i ymgyrchu dros annibyniaeth genedlaethol Cymru yn bwnc gwleidyddol.

"Os gwelwch yn dda newidiwch eich hysbysebion o'r orymdaith i adlewyrchu ein penderfyniad."

Er gwaethaf gwahardd defnyddio Llwyn Isaf, dywedodd y gallai marchnad sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad - sy'n cael ei gynnal ar Sgwâr y Frenhines - barhau i fynd yn ei blaen.

'Hawl gyfreithiol'

Roedd y trefnydd lleol, Pol Wong, yn benderfynol byddai'r orymdaith yn mynd yn ei blaen fel y cynlluniwyd, gan nad oedd yn credu bod penderfyniad y cyngor yn gyfreithiol gadarn.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r protocol yn amlwg yn nonsens," meddai Pol Wong

"Mae'r protocol yn amlwg yn nonsens ac nid oes unrhyw resymeg i sut mae'n cael ei weithredu," dywedodd.

"Nid yw ein digwyddiad yn cael ei ystyried yn deg a chyda'r un safonau â'r rhai blaenorol.

"Mae'n amlwg bod gennym ni hawl gyfreithiol i gynnal y digwyddiad hwn i drafod dyfodol y genedl Gymreig gyda miloedd o bobl eraill o bob rhan o Gymru.

"Dydw i ddim yn credu bod safiad y cyngor yn gyfreithlon.

"Mae gorymdeithiau blaenorol a gynhaliwyd mewn tri awdurdod lleol gwahanol ac o dan ddau heddlu gwahanol wedi mynd rhagddynt heb ddigwyddiad."

Disgrifiad o’r llun,

Cynhaliwyd rali dros annibyniaeth yng Nghaernarfon yng Ngorffennaf 2019

Dywedodd Mr Wong fod y trefnwyr wedi siarad â Heddlu Gogledd Cymru ac nad oedd ganddyn nhw unrhyw broblem gyda'r orymdaith.

Cadarnhaodd Cyngor Wrecsam mewn sylw fore Mercher: "Rydym wedi adolygu'r cais i ddefnyddio Llwyn Isaf ar ddydd Sadwrn, 2 Gorffennaf.

"Yn unol â'n polisi a'n dull gweithredu arferol, ni fyddem fel arfer yn cytuno i logi Llwyn Isaf ar gyfer gorymdeithiau a ralïau.

"Fodd bynnag, rydym yn cydnabod hawliau rhyddid mynegiant a'r rhyddid i ymgynnull ac o dan yr amgylchiadau ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau i atal y defnydd o llwyn Isaf ddydd Sadwrn."

Pynciau cysylltiedig