Â鶹ԼÅÄ

Diddymu deddf Gymreig ar streicio yn 'gywilyddus'

  • Cyhoeddwyd
streic
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai staff asiantaethau weithio yn lle gweithwyr sector gyhoeddus petai Llywodraeth y DU yn cael ei ffordd

Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd yn gwrthwynebu unrhyw gynlluniau a fyddai'n diddymu deddf Gymreig ar sut mae undebau llafur yn cael eu rheoleiddio yn y sector gyhoeddus.

Ddydd Llun dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu pasio deddf a fyddai'n galluogi i weithwyr asiantaeth gymryd lle gweithwyr sydd ar streic yn y GIG neu wasanaethau eraill.

O ganlyniad, byddai'r ddeddf honno yn diddymu deddf a basiwyd yn y Senedd - Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017.

Mae'r undebau, llywodraeth Lafur Cymru, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu'n hallt y cynlluniau i gael gwared ar y ddeddf, ac mae cyhuddiadau fod Llywodraeth y DU yn "ymosod ar ddatganoli".

Fe gafodd y ddeddf ei phasio gan y Senedd yn 2017 - ychydig cyn i ddatganoli yng Nghymru newid.

'Amarch at ddatganoli'

Wrth siarad ar Â鶹ԼÅÄ Radio 4 fore Mawrth fe wnaeth Mr Drakeford gyhuddo Llywodraeth y DU o beidio dweud wrth y Senedd am y cynlluniau a dywedodd bod gweinidogion wedi dod o hyd i'r bwriad "ynghudd ymhlith dogfennau" a gyhoeddwyd ddydd Llun.

"Mae'n gywilyddus bod llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi ei bwriad cyn dweud gair wrth Lywodraeth Cymru - dim un gair," meddai.

"Mae'r cyfan yn dweud cyfrolau am yr amarch sydd gan lywodraeth San Steffan tuag at ddatganoli ac wrth gwrs fe fyddwn yn gwrthwynebu'r bwriad."

Ni fanylodd sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny.

Ffynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ
Disgrifiad o’r llun,

"A fydd staff asiantaeth yn gyrru trenau neu reoli signalau?" medd y Prif Weinidog gan watwar bwriad Llywodraeth y DU

Mae Llywodraeth y DU am i weithwyr asiantaeth weithio pan mae gweithwyr ar draws Lloegr, yr Alban a Chymru ar streic.

Gwatwar y cynlluniau a wnaeth Mr Drakeford gan awgrymu na fydd modd dod o hyd i weithwyr asiantaeth i yrru trenau a gweithredu signalau.

Plaid Cymru'n galw am refferendwm

Yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price fod Llywodraeth Cymru yn dangos "dirmyg" tuag at ddatganoli.

Galwodd hefyd ar y Prif Weinidog Mark Drakeford i "orchymyn yr hawl am refferendwm ar ddyfodol ein democratiaeth" gan weinidogion y DU.

Ond dywedodd Mr Drakeford mai achos gwan sydd dros wneud hynny gan nad yw pleidiau sy'n cefnogi cael refferendwm ar annibyniaeth erioed wedi ennill y mwyafrif o bleidleisiau mewn etholiad yng Nghymru.

Ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol dywedodd Jane Dodds AS: "Mae'r bwriad diweddaraf yma gan Lywodraeth y DU yn hurt.

"Dyma'r bennod ddiweddaraf yn ymosodiad parhaol y Blaid Geidwadol ar gyfreithlondeb democratiaeth y Senedd a'i hawl i ddeddfu yn sgil datganoli.

"Mae'r ffaith ei bod yn ceisio diystyru ein Senedd i ddamsang ar hawliau gweithwyr yn gwneud y sefyllfa yn waeth."