Person yn yr ysbyty ar ôl chwilio Afon Taf yng Nghaerdydd

Disgrifiad o'r llun, Aelodau o'r gwasanaethau brys yn chwilio Afon Taf ddydd Mawrth

Mae person wedi cael ei gludo i'r ysbyty wedi i'r gwasanaethau brys ymateb i sefyllfa o argyfwng yng ngogledd Caerdydd brynhawn Mawrth.

Mae aelodau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ynghyd â Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi bod yn chwilio Afon Taf.

Cafodd y gwasanaethau eu galw tua 16:30 wedi digwyddiad yn ardal Melin Gruffydd yn Yr Eglwys Newydd.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi cludo un person i Ysbyty Athrofaol Cymru yn dilyn y digwyddiad.

Mae hofrennydd o Wasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu o Sain Tathan hefyd wedi bod yn cynorthwyo'r chwilio.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 16:30