Llifogydd: Adolygiad annibynnol i 'ddysgu gwersi'

Disgrifiad o'r llun, Pentre, Rhondda Cynon Taf - mae rhai cartrefi wedi diodde' llifogydd deirgwaith mewn blwyddyn

Mae adolygiad annibynnol o ddigwyddiadau llifogydd ledled Cymru yn ystod gaeaf 2020-21 wedi'i lansio, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi.

Dan arweiniad y bargyfreithiwr Elwen Evans, y nod fydd "helpu i sicrhau bod Cymru'n dysgu o ddigwyddiadau llifogydd blaenorol ac yn ymgorffori arferion da ar gyfer y dyfodol".

Mae'r adolygiad yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Bydd yn ystyried tystiolaeth o ymchwiliadau gan awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, ac adroddiadau perthnasol eraill.

Ers i Storm Dennis greu llanastr ledled y wlad ym mis Chwefror 2020, cafwyd nifer o stormydd a llifogydd dinistriol eraill.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd cartrefi yn Rhydyfelin eu difrodi gan lifogydd ym mis Hydref y llynedd

Bydd disgwyl i'r adolygiad nodi gwersi a ddysgwyd, llwyddiannau ac arferion da, yn ogystal â nodi meysydd i'w gwella.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd: "Rydym wedi rhoi strategaeth llifogydd drylwyr ar waith ac yn ddiweddar cyhoeddwyd y pecyn buddsoddi mwyaf erioed i leihau'r perygl o lifogydd ledled Cymru, gyda mwy na £214m dros y tair blynedd nesaf i helpu i ddiogelu o leiaf 45,000 o gartrefi rhag perygl llifogydd.

"Mae'n hanfodol ein bod yn dysgu o ddigwyddiadau blaenorol i'n paratoi ar gyfer y dyfodol.

"Rwy'n falch iawn bod yr Athro Evans, sy'n dod â phrofiad ac awdurdod sylweddol, wedi cytuno i arwain yr adolygiad annibynnol."

Dywedodd aelod dynodedig Plaid Cymru, Sian Gwenllian: "Rydym wedi gweld yr effaith ddinistriol y gall llifogydd ei chael ar ein cymunedau a'n busnesau.

"Ochr yn ochr â gweithredu ar newid hinsawdd a sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan i fynd i'r afael ag ef, bydd mynd ati i atal llifogydd a dysgu o lifogydd dinistriol 2020-21 yn gwneud gwahaniaeth o ran diogelwch a thawelwch meddwl pobl ledled Cymru."