Lluniau: Gŵyl Fwyd Caernarfon 2022

Wedi bwlch o ddwy flynedd fe heidiodd y tyrfaoedd i Å´yl Fwyd Caernarfon ddydd Sadwrn gyda'r trefnwyr yn credu bod dros 30,000 wedi bod yn mwynhau yn yr haul.

Wedi anialwch o ran cyfleodd i gymdeithasu a mwynhau dros y pandemig, roedd pobl yr ardal yn amlwg wedi cofleidio'r cyfle i ddod at ei gilydd a phrofi gwledd o gynnyrch Cymreig ar strydoedd y dref ac ar lan y Fenai.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Diod i ddathlu ar stondin un o siopau lliwgar Stryd y Plas

Ffynhonnell y llun, Iolo Penr

Disgrifiad o'r llun, Maes Caernarfon dan ei sang

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Lleisiau Côr Meibion Caernarfon yn rhoi dechrau da i'r diwrnod ar y Maes

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Cofgolofn y cyn Brif Weinidog, David Lloyd George, yn lle delfrydol i stopio i fwynhau hufen iâ

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Hen furiau Castell Caernarfon yn cynnig llecyn braf am hoe a diod

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Prysurdeb ar y stondin pizza

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Iechyd da o lannau'r Fenai!

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Cyfle i brofi bwydydd o bob man

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Un o drefnwyr yr ŵyl, Nici Beech, yn edrych yn hapus iawn gyda'r niferoedd a'r tywydd - gyda Myrddin ap Dafydd a Bleddyn Prys Jones o Cwrw Llŷn

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Be well na bwyd môr, ar lan y môr?

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Lle awn ni nesa?

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Band Batala Bangor yn atseinio i lawr Stryd y Llyn

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Nid pobl yn unig sy'n falch o gael gweld ei gilydd eto

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Roedd pob math o anifeiliaid fferm i'w gweld yn y Lloc Anifeiliaid wedi ei drefnu gan Goleg Glynllifon

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Gwirfoddolwyr sy'n gyfrifol am drefnu'r ŵyl felly mae'r ymdrech i godi arian yn parhau

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Dim lle i symud bron rhwng y llwyfan a'r stondinau ar lan y Fenai yn yr ardal sydd â'r enw lleol 'South of France'

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Mae na wastad un yn ei gorwneud hi ac angen gair gan yr heddlu...