Â鶹ԼÅÄ

Llai o gwynion wedi ymadawiad un gwleidydd

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Neil McEvoy yn Aelod o'r Senedd tan fis Mai y llynedd

Gostyngodd nifer y cwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o 216 i 44, yn ôl Comisiynydd Safonau'r Senedd.

Dywed adroddiad blynyddol Douglas Bain na ellir pennu'n glir y rheswm dros y gostyngiad sylweddol ond bod ymadawiad Neil McEvoy ac aelodau eraill â'r Senedd, a ysgogodd y rhan fwyaf o'r cwynion yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi cyfrannu at hynny.

Dywedodd hefyd bod "gwell dealltwriaeth gan yr Aelodau o sylwadau a wneir ar y cyfryngau cymdeithasol a Chod Ymddygiad newydd, cliriach".

Fe gollodd Mr McEvoy ei sedd yn y Senedd yn etholiadau 2021.

Cafodd Mr McEvoy ei ethol i'r Senedd yn gyntaf fel aelod Plaid Cymru ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru yn 2016 ond fe gafodd ei wahardd o'r blaid yn 2018 ac yna ffurfiodd y blaid newydd Propel.

Yn yr adroddiad blynyddol blaenorol dywedodd Mr Bain bod cynnydd sylweddol yn nifer y cwynion a wnaed am Aelodau'r Senedd yn 2020-21 "yn bennaf" oherwydd y cyn-aelod Neil McEvoy,

O'r 216 o gwynion, gwnaed 97 yn erbyn Mr McEvoy, ac fe wnaeth e chwech o gwynion.

Wrth ymateb i'r adroddiad, cwestiynodd Mr McEvoy dryloywder y broses safonau a'r ffordd yr ymdriniwyd ag apeliadau, gan ychwanegu ei bod yn "anodd" cymryd y bobl sydd ynghlwm â'r broses "o ddifrif".

O'r 97 o gwynion a wnaed yn erbyn Mr McEvoy, barnwyd bod 91 yn dderbyniadwy gan y comisiynydd, Douglas Bain, gyda bron â bod bob un yn gysylltiedig â "methu â chofrestru neu ddatgan buddiant".

Er bod un o'r cwynion yn ei erbyn wedi ei wneud gan swyddog o'r Senedd, gwnaed y 96 arall gan aelodau'r cyhoedd.

Ni chafodd yr un o'r chwe chwyn a wnaed gan Mr McEvoy yn erbyn aelodau eraill eu hystyried yn dderbyniadwy.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Douglas Bain bod cael cymaint yn llai o gwynion yn rhywbeth i'w groesawu

Ychwanegodd Mr Bain: "Bu cynnydd brawychus yn nifer y cwynion a gafwyd y llynedd, a hynny'n bennaf oherwydd ymddygiad y cyn-Aelod, Neil McEvoy, a oedd yn gyfrifol am 97 o'r 214 o gwynion a gafwyd. Hyd yn oed o ddiystyru'r 97 cwyn hyn mae'r niferoedd eleni wedi gostwng mwy na 50%.

Yn gynharach eleni cafodd Mr McEvoy gais i ad-dalu £3,450 ar ôl iddo ddefnyddio adnoddau trethdalwyr yn anghywir ar gyfer ymgyrch yn ymwneud â Chyngor Caerdydd.

Fe ddaeth yr adroddiad, a gyhoeddwyd yn Chwefror, i gasgliad ei fod hefyd wedi dwyn anfri ar y Senedd pan wnaeth recordiadau cyfrinachol ynghylch ymchwiliad i'w ymddygiad.

Wrth ymateb dywedodd Mr McEvoy: "Does dim byd gen i i'w ad-dalu" a disgrifiodd y broses fel un "bwdr".

Yn ei adroddiad ar gyfer 2021-22 dywed adroddiad Douglas Bain bod gan yr aelodau presennol well dealltwriaeth o'r risg o hoffi neu ail-drydar sylwadau eraill ar y cyfyngau cymdeithasol a bod hynny wedi lleihau y nifer o gwynion.

Mae'r adroddiad yn nodi hefyd y gallai cod ymddygiad cliriach fod wedi helpu.

O'r 44 o gwynion a gafwyd rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022, roedd 36 y cant am safonau gwasanaethau (16 o gwynion), 16 y cant am fethu â chofrestru/datgan buddiant (8 o gwynion) a 14 y cant am ymddygiad ar y cyfryngau cymdeithasol (6 o gwynion).

Canfuwyd bod 38 (86 y cant) o'r 44 o gwynion a gafwyd yn annerbyniadwy, yn bennaf oherwydd diffyg tystiolaeth ddigonol.

Roedd y chwe chwyn a oedd yn dderbyniadwy i gyd yn ymwneud â mân achosion o dorri rheolau.

'Safon uchel o ymddygiad'

Ychwanegodd Mr Bain: "Bu cynnydd brawychus yn nifer y cwynion a gafwyd y llynedd, a hynny'n bennaf oherwydd ymddygiad y cyn-Aelod, Neil McEvoy, a oedd yn gyfrifol am 97 o'r 214 o gwynion a gafwyd.

"Hyd yn oed o ddiystyru'r 97 cwyn hyn mae'r niferoedd eleni wedi gostwng mwy na 50 y cant.

"Mae'r ffigyrau diweddaraf hyn yn dangos bod bron pob Aelod yn parhau i gadw at y safon uchel y mae gan bobl yr hawl i'w ddisgwyl ganddynt o ran eu hymddygiad."

Ychwanegodd: "Fel y rhagwelais yn adroddiad blynyddol y llynedd, gyda'r Cod Ymddygiad newydd bellach ar waith rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y cwynion yn 2021-22, sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar lwyth gwaith a chyllidebau fy swyddfa."

Mae Neil McEvoy yn parhau i gynrychioli ward Tyllgoed ar Gyngor Caerdydd.