Ailenwi parc gwyliau Glan y M么r yn cythruddo ymgyrchwyr iaith

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Cymdeithas yr Iaith roedd yr enw Glan y M么r wedi'i ddefnyddio am dros 100 mlynedd

Mae penderfyniad i ailenwi parc gwyliau yng Ngheredigion o'r Gymraeg i'r Saesneg wedi cythruddo ymgyrchwyr iaith.

Mae parc gwyliau Glan y M么r ger Abersytwyth bellach yn cael ei adnabod fel Aber Bay.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eu bod yn "bryderus iawn bod lleoedd ac eiddo ledled Cymru yn cael eu hailenwi yn Saesneg".

Ychwanegodd y mudiad y gallai newid enwau ddisodli rhai hen a hanesyddol.

Ond dywedodd perchennog y safle, Allens Caravans, bod y ffermdy gwreiddiol yn parhau i gael ei adnabod fel Glan y M么r.

'Enw disgrifiadol ac adnabyddus'

"Mae'r parc gwyliau wedi'i adnabod fel Glan y M么r ers dros ganrif ac mae'n enw disgrifiadol ac adnabyddus," meddai cadeirydd y Gymdeithas, Jeff Smith.

Ychwanegodd y mudiad bod ailenwi'r safle, ger Capel Dewi, yn "gam i'r cyfeiriad anghywir" a'u bod wedi annog perchnogion y parc gwyliau i atal y broses ailenwi.

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Bellach adnabyddir y parc fel Aber Bay

Allens Caravans yw perchnogion y parc ers 2017, ac maen nhw'n rheoli naw maes carafanau ar draws y DU.

Dywedon nhw fod 拢5m wedi'i wario ar ailddatblygu'r safle, gyda chlwb a chyfleusterau newydd.

"Er gwaethaf ein hymdrechion gorau i farchnata'r parc i gwsmeriaid newydd, cawsom ein cyfarfod 芒 chwynion a phroblemau yn dyddio n么l i gyfnod cyn i ni fod yn berchen arno," meddai llefarydd.

Dywedodd Allens Caravans mai dim ond pedwar o bobl leol oedd wedi cysylltu 芒 nhw ers y newid enw.

Ond mae ymgyrchwyr eisiau deddfwriaeth mewn lle i atal enwau Cymraeg rhag cael eu newid i rai Saesneg.

"Mae'r ffaith fod perchnogion y parc gwyliau yn cael Seisnigo'r enw gwreiddiol yn tanlinellu'r angen am ddeddfwriaeth i warchod enwau lleoedd Cymraeg," dywedodd Cymdeithas yr Iaith.

"Ar 么l blynyddoedd o oedi, mae angen i Lywodraeth Cymru ddeddfu ar y mater hwn."