Â鶹ԼÅÄ

Menywod ddwywaith yn fwy tebygol o farw o asthma - ymchwil

  • Cyhoeddwyd
Meinir Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymchwil yn elfen ychwanegol i ddioddefwyr asthma boeni yn ei gylch, medd Meinir Thomas

Cafodd Meinir Thomas o Gaerfyrddin ddiagnosis asthma pan yn ddwy oed.

Mae hi'n un o 180,000 o fenywod yng Nghymru sydd â'r cyflwr anadlol sy'n lladd dwywaith gymaint o fenywod o'i gymharu â dynion, yn ôl gwaith ymchwil.

Mae elusen Asthma + Lung UK yn galw am fwy o ymchwil i effaith newid hormonau ar asthma.

Mae Meinir yn cytuno ac yn dweud y bydd hi'n trafod y mater gyda'i nyrs asthma.

"Mae alergedd gyda fi tuag at blu, dwst, cŵn, cathod a chwningod felly rwy'n osgoi'r rheina," meddai.

"Mae ymarfer corff yn gallu bod yn anoddach - ddim yn amhosib, ond yn anoddach. Y cwbl sydd angen fi wneud yw cymryd un pwff o'r inhaler cyn fy mod i yn ymarfer corff."

Mae anwyd hefyd yn gallu effeithio arni'n ddrwg, ac fe allai gymryd amser hir i wella o hynny.

Angen gwell ddealltwriaeth

Mae Lisa Hall, 40, o Gasnewydd hefyd yn dioddef o asthma ac yn gweld ei fod yn fwy difrifol yn y diwrnodau sy'n arwain at ei mislif.

Wedi bod â'r cyflwr am 13 mlynedd, mae hi'n poeni be all ddigwydd os yw ei asthma yn gwaethygu.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai gwell ddealltwriaeth o effaith y cyflwr ar fenywod yn gwella triniaethau maes o law, medd Lisa Hall

"Dwi byth eisiau i fam newydd neu unrhyw ferch arall gael yr un profiadau a dwi wedi cael," meddai.

"Mae angen i ni ddeall yn well sut mae asthma yn effeithio ar ferched fel ein bod yn gallu ffeindio triniaethau newydd fydd yn rhoi bywydau yn ôl i bobl fel fi.

"Dwi'n credu i rai pobl mae trafod cylch y mislif yn bwnc eithaf tabŵ felly os yw'n bosib ei drafod ar lefel mwy meddygol ac y gall cwestiynau gael eu codi gan yr ochr feddygol broffesiynol yn hytrach 'na bod hynny'n dod gan y claf dwi'n siŵr y byddai hynny'n o help."

'Bylchau yn ein gwybodaeth'

Yn y pum mlynedd ddiwethaf yng Nghymru, mae bron i 70% o farwolaethau yn sgil asthma wedi bod yn fenywod, yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mewn plentyndod, mae asthma yn fwy cyffredin a difrifol o fewn bechgyn. Ond ar ôl cyfnod y glasoed, mae hynny yn newid ac mae'n fwy difrifol o fewn merched.

Mae'r nifer sy'n mynd i'r ysbyty yng Nghymru oherwydd asthma yn debyg o ran rhyw o fewn yr arddegau.

Ond mae bron tair gwaith yn uwch o fewn merched na dynion rhwng 20-49 oed, yn ôl gwaith ymchwil Asthma + Lung UK.

Mae'r elusen yn dweud bod merched o dan anfantais o ran cyllid gwaith ymchwil ac yn galw am fwy o fuddsoddiad i edrych ar y gwahaniaethau rhyw mewn asthma.

Dywedodd Sara Woolnough, Prif Weithredwr Asthma + Lung UK: "Mae bylchau yn ein gwybodaeth ni yn siomi merched, gan eu gadael â symptomau asthma sy'n eu gwanhau ac mewn cylch o fod mewn ac allan o'r ysbyty ac, mewn rhai achosion, yn colli eu bywydau.

"Wrth ddeall rôl hormonau rhyw mewn asthma, fe allwn ni drawsnewid bywydau tair miliwn o ferched gyda'r cyflwr o fewn y DU a miliynau o ferched gydag asthma ar draws y byd.

"Ry'n ni angen mwy o fuddsoddiad ar frys mewn gwaith ymchwil yn y maes yma fel ein bod ni'n gallu ffeindio triniaethau newydd a defnyddio triniaethau presennol yn well i helpu miliynau o ferched ac achub bywydau."

'Ymgorffori tystiolaeth mewn ymarfer clinigol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i ferched sy'n cael eu heffeithio gan asthma gael eu cefnogi gan y gwasanaeth iechyd gyda'r hyn sy'n cael ei awgrymu ar lefel glinigol.

Ychwanegodd: "Mae hyn yn cynnwys gofal iechyd unigol sy'n adlewyrchu anghenion gwahanol gleifion.

"Byddai angen i unrhyw dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o achosion salwch mwy difrifol ymysg merched gael ei hystyried gan sefydliadau sy'n gosod y canllawiau, a ble mae'n angenrheidiol ei ymgorffori yn yr ymarfer clinigol argymelledig."

Pynciau cysylltiedig