Brooke Morris: Menyw ifanc fu farw â 'llawer i'w roi i'r byd'

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Aeth Brooke Morris ar goll ar ôl noson allan ym mis Hydref 2019

Mae cwest i farwolaeth menyw ifanc gafodd ei chanfod yn farw yn Afon Taf wedi clywed fod ganddi "lawer i'w roi i'r byd".

Daeth yr heddlu o hyd i gorff Brooke Morris, 22, bum diwrnod wedi iddi fynd ar goll ar ôl noson allan ym mis Hydref 2019.

Cafodd ei gweld am y tro diwethaf y tu allan i'w chartref yn Bontnewydd Terrace, Trelewis.

Dros y dyddiau'n dilyn ei diflaniad, bu dros 100 o wirfoddolwyr yn chwilio am Ms Morris, gan gynnwys aelodau o Glwb Rygbi Treharris.

Wrth gofnodi rheithfarn naratif, penderfynodd y crwner ym Mhontypridd ddydd Mawrth nad oedd modd gwybod pam aeth Ms Morris i'r dŵr, ond ei bod wedi marw drwy foddi.

Disgrifiad o'r llun, Blodau gafodd eu gadael ger llwybr sy'n arwain at Afon Taf ger Abercynon

Dangosodd profion tocsicoleg fod Ms Morris wedi yfed tair gwaith y lefel gyfreithlon o alcohol ar y noson yr aeth hi ar goll.

Clywodd y cwest fod gobeithion Ms Morris am berthynas wedi eu chwalu yn yr wythnosau cyn ei marwolaeth, a dywedodd wrth ei ffrindiau ei bod hi'n anhapus iawn.

Ar noson ei diflaniad, fe wnaeth un o gymdogion Ms Morris ei gweld yn cerdded i ffwrdd o'i drws blaen tuag at lôn oedd yn arwain at bont ac Afon Taf.

Ar ei ffordd yno, fe anfonodd Ms Morris nifer o negeseuon a lluniau o giât ar y ffordd i'r afon at y ddynes y gobeithiodd hi gael perthynas â hi.

Y diwrnod canlynol, fe ddaeth tîm chwilio o hyd i botel gwin oedd wedi torri.

Galwodd tad Ms Morris ei marwolaeth yn "dorcalonnus".