Ffoaduriaid yn haeddu gofal plant am ddim, medd elusen

Disgrifiad o'r llun, Mae Buki, o Nigeria, yn derbyn gofal plant am ddim o feithrinfa yng Nghaerdydd, ac mae wedi dweud ei fod yn caniatáu iddi astudio

Mae elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gofal plant am ddim ar gyfer plant ifanc ffoaduriaid a cheiswyr lloches tra'u bod yn dysgu iaith a sgiliau newydd.

Dywed Oasis, elusen o Gaerdydd, fod diffyg mynediad i ofal plant yn rhwystr i deuluoedd sy'n gobeithio adeiladu bywyd newydd yng Nghymru.

Mae'r elusen yn dadlau y byddai rhagor o rieni yn mynychu cyrsiau coleg pe bai nawdd ar gyfer gofal plant ar gael.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi "ymrwymo i ariannu gofal plant ar gyfer mwy o deuluoedd" a'u bod yn "edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i gefnogi ceiswyr lloches fel rhan o'r gwaith hwn".

Yn ôl Ruth Jeanes o Oasis, byddan nhw'n hoffi gweld darpariaeth "gofal plant am ddim ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n dilyn cyrsiau, ynghyd ag ehangu gofal i gynnwys plant dyflwydd".

"Ar hyn o bryd mae Dechrau'n Deg yn darparu gofal ar gyfer plant dwy oed, ond dyw hynny ond ar gyfer nifer fechan o deuluoedd a pe bai modd ehangu hynny i gynnwys ffoaduriaid neu geiswyr lloches byddai'n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl."

Mae hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim neu addysg gynnar ar gael ar hyn o bryd, i rieni cymwys plant tair a phedair oed sy'n gweithio yng Nghymru.

Mae gan geiswyr lloches hawl i £39.63 yr wythnos sy'n golygu y byddai talu meithrinfa neu ³¦°ù賦³ó±ð yn anfforddiadwy.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Misty Ardouin fod darparu gofal plant am ddim yn ffordd wych o helpu'r gymuned leol

Mae Nestling Nursey yng Nghaerdydd wedi penderfynu cynnig llefydd am ddim mewn ymgais i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y brifddinas.

Fe wnaeth y perchennog Misty Ardouin wneud y cynnig ar ôl gweld ceiswyr lloches a'u plant yn cyrraedd Prydain, yn aml heb ddim.

Mae gallu helpu'r gymuned leol yn hollbwysig, yn ôl is-reolwr y feithrinfa, Beth Veale.

"Roeddan ni'n gweld y teuluoedd yn chwilio am lloches ac oeddan ni eisiau chwilio am ffordd o helpu nhw," meddai.

"Mae'r plant yn elwa o hyn… maen nhw'n cwrdd â phobl newydd o background gwahanol.

"Maen nhw'n creu ffrindiau newydd, perthnasau newydd. Ni'n gallu rhoi rhywbeth iddyn nhw maen nhw heb gael o'r blaen. Mae pawb yn gallu elwa."

Mae Buki, yn geisiwr lloches o Nigeria, yn fam yn ei hugeiniau i Harry sy'n 10 mis oed a sydd a lle yn y feithrinfa.

Mae'n gobeithio gallu aros ym Mhrydain ac yn y pen draw hoffai fod yn nyrs.

Yn ôl Buki mae cael amser i astudio yn y coleg, cwrdd â phobl yn ei chymuned yn ei galluogi hi a Harry i ddechrau adeiladu bywyd newydd yma, gwella ei sgiliau a derbyn cymwysterau.

"Dwi wedi dechrau cwrs coleg gweinyddol pum wythnos. Dwi eisiau gwirfoddoli yn Oasis fel swyddog gweinyddol," meddai Buki.

"Dwi'n caru amddiffyn pobl, gofalu am bobl a phlant - bod yn ofalgar."

A tra mae'n astudio mae Harry yn mwynhau yn y feithrinfa.

"Mae'n cwrdd â phlant newydd, cyd-chwarae gyda nhw ac mae hynny'n ei wneud yn hapus," meddai Buki.

"Mae'n siarad a gwneud llawer o bethau tra mae yma."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Ruth Jeanes fod y teulu cyfan yn elwa o fynediad i ofal plant

Yn ôl Ruth Jeanes o Oasis, Caerdydd, mae'r teulu cyfan yn elwa o fynediad i ofal plant gan roi plant ffoaduriaid a cheiswyr lloches y cyfle i adeiladu sgiliau iaith a hyder, fel pan ddaw'r amser iddyn nhw ddechrau'r ysgol, mae nhw'n barod i ddysgu.

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru fod Cymru'n genedl noddfa a bod eu "cynllun yn nodi'r camau rydyn ni'n eu cymryd i sicrhau bod yr anghydraddoldebau a brofir gan geiswyr lloches yn cael eu lleihau, bod mynediad at gyfleoedd yn cynyddu, a'r berthynas rhwng y cymunedau hyn a'r gymdeithas ehangach yn gwella".

"Yn ein Rhaglen Lywodraethu rydym wedi ymrwymo i ariannu gofal plant ar gyfer mwy o deuluoedd ac rydym yn edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i gefnogi ceiswyr lloches fel rhan o'r gwaith hwn.

"Mae Cynnig Gofal Plant a Dechrau'n Deg eisoes ar gael i deuluoedd cymwys a gall ein rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol ariannu Cymorth gofal plant i unigolion cymwys.

"Mae cymhwyster ar gyfer y rhain yn cynnwys y rhai a ddosberthir fel rhai nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus. "