Pryderon bod llai o brofion LFT mewn fferyllfeydd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Ers 1 Ebrill mae'r drefn wedi newid yng Nghymru, a dim ond pobl sydd â symptomau sy'n cael archebu prawf am ddim bellach
  • Awdur, Iolo Cheung
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae 'na bryder fod prinder profion Covid LFT mewn rhai fferyllfeydd yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig.

Yn ôl rhai fferyllwyr, mae'r ffaith fod pobl yn gorfod talu amdanynt bellach hefyd yn golygu ei bod hi'n debygol y bydd llai yn gwneud y profion yn gyson o hyn ymlaen.

Ers 1 Ebrill mae'r drefn wedi newid yng Nghymru, a dim ond pobl sydd â symptomau sy'n cael archebu prawf am ddim bellach.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r newididau'n rhan o'r broses i symud tuag at fyw'n ddiogel gyda Covid.

Fe wnaeth Newyddion S4C holi 10 o fferyllfeydd ar draws Cymru am eu sefyllfa nhw, gydag wyth ohonynt yn dweud mai ychydig iawn o brofion sydd ganddyn nhw mewn stoc bellach, os o gwbl.

Dim ond dwy fferyllfa oedd yn deud fod ganddyn nhw gyflenwad digonol o'r profion, a'r rheiny yng Nghaerdydd a Chasnewydd.

"Dwedwch nawr yn y gorllewin fan hyn 'te, does dim cymaint o fferyllfeydd o fewn dalgylch o 10 milltir," meddai Richard Evans o Gymdeithas Fferyllwyr Cymru.

"Mae hwnna'n barod yn tipyn o ffordd i bobl drafaelu.

"Ond wrth gwrs, cerwch chi i drefi mawr, Abertawe, Caerdydd, allwch chi gerdded lawr y stryd a dod o hyd i ddau, tri, pedwar o fferyllfeydd, felly mae mwy o obaith iddyn nhw gael nhw o fan 'na."

'Pobl yn rhwystredig'

Mae Lowri Puw yn fferyllydd yn Abersoch, ac yn dweud fod y drefn newydd o gael gafael ar brofion LFT yn mynd i fod yn drafferth mawr i rai.

"Mae pobl i'w weld yn reit rhwystredig, dydyn nhw ddim y dallt pam bod nhw ddim i gael am ddim.

"Yn enwedig y bobl hÅ·n mewn cymdeithas, sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd ac sydd methu mynd ar-lein mor hawdd, dwi'n meddwl fydda nhw fwy pryderus."

Ychwanegodd fod ei gwneud hi'n anoddach i bobl gael gafael ar brofion, a hynny ar adeg pan mae achosion Covid yn yr ardal dal yn uchel, yn gamgymeriad.

"Y gost hefyd, mae £3 yn lot jyst am un prawf pan mae rhywun 'di arfer cael nhw am ddim," meddai.

"Wedyn dwi'n meddwl neith hynny gael effaith ar faint o bobl fydd yn gwneud y profion, a fydd o jyst yn anoddach i rywun eu cael nhw."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, 'Mae'r newid yn sicr yn golygu y bydd llai o bobl yn profi eu hunain,' medd arbenigwyr

Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai unrhyw un sydd â symptomau archebu prawf LFT ar wefan gov.uk neu ffonio 119, ac y dylai pobl sydd am eu prynu .

Yn ôl Yr Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth, mae'r newid yn anochel yn mynd i arwain at lai o bobl yn profi eu hunain yn gyson.

"Beth sydd wedi bod yn bwysig drwy'r pandemig yw'r pwyslais sydd wedi cael ei roi, yn gynyddol falle, ar gyfrifoldeb personol," meddai.

"Mae [y newidiadau] yn gwneud hi'n anoddach, bydden i'n dadlau, i bobl fod yn gyfrifol - dydyn nhw ddim yn gallu bod yn gyfrifol achos 'dyn nhw ddim yn gallu profi i gael gweld beth yn union sydd o'i le arnyn nhw - ydy e'n annwyd, ydy e'n ffliw, ydy e'n coronafeirws?"