Â鶹ԼÅÄ

Eluned Morgan: Gwasanaeth Iechyd Cymru 'o dan bwysau eithriadol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
gweithiwr iechydFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond tri gwely oedd ar gael allan o fwy na 1,000 yn ysbytai Aneurin Bevan ddydd Mawrth

Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru o dan "bwysau eithriadol", yn ôl y Gweinidog Iechyd.

Mae "heriau sylweddol" wedi rhoi'r sector dan straen, meddai Eluned Morgan, gydag achosion cynyddol o Covid yn arwain at gapasiti gwelyau cyfyngedig, salwch staff ac anawsterau wrth ryddhau cleifion.

Mewn ymgais i leddfu pwysau, mae pob "gweithgaredd nad yw'n hanfodol" yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn y de ddwyrain wedi'i chanslo.

Fe ddaw wrth i'r bwrdd iechyd gyhoeddi "rhybudd du", yn annog pobl i beidio ymweld â'r ysbyty oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol.

Dim ond tri gwely oedd ar gael allan o fwy na 1,000 yn ysbytai Aneurin Bevan ddydd Mawrth.

Mae hynny'n gyfradd defnydd gwelyau o 99.7%, sy'n uwch na chyfartaledd presennol Cymru, sydd ychydig o dan 91%.

'Rhybudd du' yn Ysbyty Bronglais am gyfnod

Yn y cyfamser, roedd "rhybudd du" am gyfnod o tua pum awr yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ddydd Mercher.

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Hywel Dda, fod holl ysbytai'r ardal yn "parhau i fod o dan lefelau uchel o bwysau" fore Iau.

Ychwanegodd Eluned Morgan fod mesurau wedi'u cymryd ar draws holl ardaloedd y byrddau iechyd i leddfu pwysau.

Roedd cyfartaledd o 939 o gleifion ysbyty gyda Covid wedi'i gadarnhau ar 29 Mawrth, cynnydd o 17% ers wythnos yn ôl.

Ond mae nifer sylweddol o'r cleifion hyn - 84.5% - yn cael eu trin yn bennaf ar gyfer cyflyrau eraill ac yn digwydd bod wedi profi'n bositif wrth gael eu derbyn.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Mae'r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru o dan bwysau eithriadol ar hyn o bryd ac fe fydden ni'n annog unrhyw un sydd angen gofal i sicrhau eu bod yn cael y gofal cywir yn y lle cywir, boed hynny drwy 'ein helpu ni i'ch helpu chi' a defnyddio gwefan GIG 111 Cymru, neu drwy ofal brys neu ofal argyfwng.

"Rydyn ni wedi bod yn agored am yr heriau sy'n wynebu Gwasanaeth Iechyd Cymru, ac adrannau 999 ac Adrannau Achosion Brys yn benodol.

"Nid yw hon yn sefyllfa unigryw i Gymru; mae gwasanaethau iechyd ledled y Deyrnas Unedig yn wynebu heriau tebyg."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd: "Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu darparu'n ddiogel ac yn effeithiol a dylai unrhyw un sydd wir angen triniaeth ysbyty ar frys a'r rhai sydd â 'salwch sy'n bygwth bywyd neu anaf difrifol' fynd o hyd i'r adran achosion brys.

"Gall y rhai nad oes angen gofal ar gymaint o frys arnynt, neu'r rhai a allai gael y driniaeth angenrheidiol mewn lleoliad arall, helpu i leihau'r pwysau drwy ddewis y gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion.

"Gall y cyhoedd fod o gymorth hefyd drwy helpu'r broses o ryddhau aelodau o'u teuluoedd o'r ysbyty yn amserol pan fyddan nhw'n barod i adael.

"Os oes perthynas i chi neu un o'ch anwyliaid yn yr ysbyty sy'n ddigon iach i fynd adref, ond mae'n aros i gael ei ryddhau gyda gofal cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai y gallwch chi ei helpu i fynd adref yn gynt os gallwch chi a'ch teulu ei gefnogi gartref."

Cyfuniad o resymau

Yn ôl Dr Phil White o gymdeithas feddygol BMA Cymru, mae'r straen sydd ar y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd yn sefyllfa "gymhleth".

"Mae nifer yr achosion Covid wedi cynyddu a ma' hwn hefyd yn effeithio staff ysbytai sy'n gorfod aros draw os 'dyn nhw'n datblygu'r salwch," eglurodd ar Dros Frecwast fore Iau.

"Ar ben hynny, mae 'na brinder wedi bod yn nifer y staff yn y gwasanaeth iechyd wedi bod ers dipyn, a 'dan ni'n gweld hi'n anodd i gael meddygon yn arbennig i ddod i weithio yng Nghymru...".

Dywedodd hefyd bod cynnydd yn nifer y cleifion sydd â chlefydau eraill wnaeth gilio yn ystod y pandemig wrth i bobl hunan-ynysu.

"Welon ni fawr ddim o ffliw, welon ni fawr ddim o RSV mewn plant dros y ddwy flynedd diwetha' oherwydd y rheolau ar gyfer Covid.

"A wedyn, mae'n rhaid ichi gofio o fewn ysbytai, mae rheolau Covid yn bod o hyd. Felly mae'n bwysig iawn cadw popeth yn lân ac felly ma' hwnna'n arafu pa mor sydyn fedrwch chi weld cleifion."

Dywedodd bod pwysau ar bob ysbyty yng Nghymru ar hyn o bryd, ond ei fod yn ymwybodol fod Ysbyty'r Faenor yn ei chael yn arbennig o anodd - a hynny gan ei bod yn ysbyty newydd.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithwyr y gwasanaeth iechyd dan straen corfforol a meddylion yn ôl Dr Dylan Jones o Brifysgol Bangor

Wrth ymateb i sylwadau'r Gweinidog Iechyd, dywedodd Dr Dylan Jones o Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor, bod ysbytai mewn "sefyllfa fregus".

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd fod y pandemig wedi cael effaith gwirioneddol ar iechyd meddwl a chorfforol staff y gwasanaeth iechyd.

"Dwi'n meddwl bo' hyn yn dangos ôl-effeithiau'r pandemig. Wrth gwrs, ma' Covid-19 dal o gwmpas.

"Am y ddwy flynedd diwetha' ma' 'na alw 'di bod ar bobl i beidio mynd i'r ysbyty, bod apwyntiadau wedi cael eu hail-drefnu.

"A wedyn bod y system yn rhyw fath o drio dal i fyny - dyna sydd wedi rhoi y pwysau," eglurodd.

"Mae 'na absenoldebau ac ia, mae'n amser reit fregus gyda phethau'n dechrau mynd yn ôl i'r arfer fel petai."

Gwisgo mwgwd

Wrth i nifer achosion godi yn y gymuned, fe rybuddiodd y dylai pobl barhau i wisgo mygydau - rheol a gafodd ei newid i 'gyngor' gan Lywodraeth Cymru ddydd Llun.

"'Swn i'n dal yn deud i bobl fod yn ymwybodol fod Covid-19 dal o gwmpas, a 'swn i'n awgrymu bo' nhw dal yn gwisgo mygydau o gwmpas a bod yn ofalus."

Ychwanegodd mai nad ffonio 999 yw'r ateb bob tro, ac y dylid atgoffa pobl o opsiynau eraill - os yw'r achosion yn llai argyfyngus.

"Os ydy rhywun ddim yn teimlo'n dda a bod rhywbeth yn digwydd, y meddyliad cynta' ydy mynd i'r ysbyty a ffonio 999... ma' 'na le mawr i systemau eraill fel 111, safleoedd we a fferyllfeydd lleol i roi cymorth a thriniaeth hefyd."

Pynciau cysylltiedig