Â鶹ԼÅÄ

Athrawon: 'Anhrefn Covid yn dal mewn ysgolion'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
disgyblionFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa mewn ysgolion yn parhau'n anhrefnus, medd athrawon

Mae'r amharu ar fywyd ysgolion Cymru oherwydd Covid cynddrwg ag ar unrhyw adeg yn y pandemig, mae rhai athrawon wedi rhybuddio.

Fe ddisgrifiodd un undeb y sefyllfa fel "anhrefnus" a "phryderus" wrth i ysgolion gael trafferth llenwi bylchau staffio.

Mae hyn wedi arwain at alwadau ar Lywodraeth Cymru i ymestyn profion coronafeirws i staff a darparu mwy o gyllid i dalu am athrawon llanw.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ceisio lliniaru'r pwysau staffio, ac mae'r Gweinidog Addysg wedi cadarnhau bod cynllun cyllido lleoliadau athrawon newydd wedi cael ei estyn tan yr haf.

Ddydd Gwener fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bydd mwyafrif y rheoliadau Covid sy'n weddill yn cael eu diddymu, ond dywedodd undeb UCAC bod ysgolion "yn sicr ddim mewn unrhyw fath o normalrwydd ac mae heriau enfawr yn ein wynebu o hyd".

'Camarweiniol'

Dywedodd dirprwy ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Rebecca Williams wrth raglen Politics Wales y Â鶹ԼÅÄ: "Mae'n dal yn anhrefn ac yn bryderus er gwaeth ymdrechion gorau pawb a'r holl gamau rhagofal sy'n cael eu cymryd.

"Rwy'n credu y byddai'n gamarweiniol iawn i roi argraff i bobl fod pethau'n normal mewn ysgolion."

Disgrifiad o’r llun,

Mae staff ysgolion yn dal dan straen aruthrol oherwydd Covid-19, medd Rebecca Williams o UCAC

Yn ôl Neil Butler o undeb NASUWT, mae angen i fesurau megis profion a gwisgo masgiau barhau mewn ysgolion.

Bydd profion i rai heb symptomau ymhlith staff a disgyblion uwchradd yn dod i ben ar ddechrau gwyliau'r Pasg.

Dywedodd Mr Butler: "Mae gennym broblem eang gyda Covid mewn ysgolion oherwydd absenoldeb, felly nid nawr yw'r amser i laesu dwylo ar y pethau sydd eu hangen mewn ysgolion."

Mae'r undebau hefyd yn rhybuddio bod diffyg athrawon llanw i lenwi unrhyw fylchau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Meilir Tomos bod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn fwy heriol nag erioed

Dywedodd Meilir Tomos, pennaeth Ysgol Glan Morfa yn Sblot, Caerdydd: "Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd, ond rwy'n teimlo bod yr wythnosau diwethaf wedi bod hyd yn oed yn fwy heriol.

"Wrth gyrraedd yn y bore, pan mae gen i staff sydd angen hunan-ynysu mae'n anodd iawn, oherwydd wedyn ry'n ni'n gorfod symud staff o gwmpas sy'n arwain at rhai disgyblion yn colli cefnogaeth am y bore... mae hynny'n effeithio ar safonau hefyd."

'Parhau i helpu lliniaru'r pwysau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er bod y gofyniad cyfreithiol i hunan-ynysu yn newid o 28 Mawrth, mae'n dal yn bwysig bod canllawiau cenedlaethol yn cael eu dilyn.

"Os ydych chi'n athro a gyda symptomau, mae hunan-ynysu yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol i atal lledaeniad pellach yr haint.

"Ry'n ni'n gwybod bod rhai ysgolion wedi bod yn gweithredu o dan bwysau staffio, ac ry'n ni'n parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a darparu asiantaethau i helpu i liniaru peth o'r pwysau staffio yna.

"Ry'n ni hefyd wedi ymestyn ein cynllun i osod athrawon sydd newydd cymhwyso i mewn i swyddi am dymor arall. Cafodd y cynllun ei gyflwyno yn yr hydref, ac wedi helpu i greu capasiti ychwanegol mewn ysgolion a galluogi'r rhai ar ddechrau eu gyrfaoedd i gael profiad gwerthfawr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cynllun cyllido lleoliadau athrawon newydd yn cael ei estyn tan yr haf, medd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles

Wrth siarad ar Politics Wales dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles ei fod "yn derbyn yn llwyr bod hwn yn sefyllfa heriol" a bod Llywodraeth Cymru'n "parhau i ariannu'r rhaglen sy'n darparu staff ychwanegol yn ysgolion Cymru am y flwyddyn ariannol yma a thu hwnt".

Ychwanegodd eu bod yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol a'r asiantaethau cyflenwi ynghylch lliniaru rhywfaint o'r pwysau.

Cyhoeddodd hefyd bod cynllun sydd mewn grym ers mis Medi, sydd wedi rhoi'r arian ar gyfer lleoli 400 o athrawon newydd mewn ysgolion, yn cael ei estyn.

Roedd y cynllun hwnnw i fod i ddod i ben ddiwedd y tymor hwn ond bydd bellach yn parhau tan yr haf.

Gallwch wylio Politics Wales ar Â鶹ԼÅÄ 1 Cymru am 10:00 ar 27 Mawrth ac ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer.