Â鶹ԼÅÄ

Chwe Gwlad Merched: Iwerddon 19-27 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Dathlu cais Carys PhillipsFfynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Cymru'n dathlu cais Carys Phillips

Mae Cymru wedi cael y dechrau gorau bosib i ymgyrch y Chwe Gwlad eleni gyda buddugoliaeth haeddiannol 19-27 oddi cartref yn erbyn Iwerddon.

Yn eu gêm Chwe Gwlad gyntaf ers i nifer o aelodau'r garfan gael cytundebau proffesiynol, roedd ffitrwydd y chwaraewyr yn ffactor mewn gêm gyffrous, corfforol a chystadleuol.

Ond roedd tîm Ioan Cunningham ar ei hôl hi am ran helaeth o'r gêm cyn iddyn nhw droi'r fantol gyda dau dais yn y 10 munud olaf.

Fe sgoriodd Cymru bum cais - dwy gan Donna Rose, ac un yr un gan Carys Phillips, Jasmine Joyce a Hannah Jones.

Daeth cais cyntaf y gêm yn sgil cyflymder aruthrol Amee-Leigh Murphy Crowe (17) i lawr yr asgell dde, a gyda throsiad Nicole Cronin roedd hi'n 7-0.

Ni effeithiodd hynny ar ysbryd tîm Cymru ac, yn ei gêm ryngwladol gyntaf mewn dwy flynedd, fe diriodd Phillips o'r sgarmes. Yn anffodus, aflwyddiannus oedd trosiad Elinor Snowsill - a dau arall yn ddiweddarach yn y gêm.

Llwyddodd Iwerddon i estyn eu mantais wedi ychydig dros hanner awr. Gan gadw'r bêl yn fyw, fe gysylltodd y prop Linda Djougang â phas campus Sam Monaghan i groesi'r llinell dan y pyst.

Ffynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Amee-Leigh Crowe Murphy sgoriodd cais cyntaf y gêm

14-5 oedd y sgôr ar yr egwyl felly ond fe gafodd Cymru ddechrau addawol i'r ail hanner, a chanlyniad eu gwaith da oedd cais yn y gornel gan Jasmine Joyce

Roedd yn ymddangos bod tîm Ioan Cunningham wedi cael trydydd cais pan diriodd Kelsey Jones ond ym marn y dyfarnwr roedd yna achos o rwystro yn y lein yn ystod y symudiad a arweiniodd ato.

Dri munud yn ddiweddarach fe ychwanegodd y tîm cartref at eu sgôr gyda chais Stacey Flood.

Fe gauodd Rose, oedd wedi dod i'r maes fel eilydd, i gau'r bwlch gan wthio'r bêl dros y llinell o waelod pentwr o chwaraewyr.

Ond wedi 72 munud o chwarae Iwerddon oedd yn dal ar y blaen, 19-15. Rose ddaeth i'r adwy eto i roi'r fantais i Gymru am y tro cyntaf.

Sgoriodd Robyn Wilkins, oedd yn eilydd yn lle Snowsill, gyda'r trosiad ac roedd hi bellach yn 19-22.

Fe wnaeth Cymru ddarfod y gêm yn gryf ar ôl ennill y momentwm ac fe wnaeth cais munud olaf Jones - wedi sgrym wych a rhediad chwim a phenderfynol - roi'r sglein ar y fuddugoliaeth.

Mae Cymru'n ail i Loegr yn y tabl wedi i hwythau guro'r Alban o 57 i 5 yn gynharach ddydd Sadwrn.

Bydd Cymru'n wynebu'r Alban yng Nghaerdydd yn eu gêm nesaf ddydd Sadwrn 2 Ebrill.