£500 i ofalwyr di-dâl, ond dim 'cydnabyddiaeth' i lawer

Ffynhonnell y llun, Ceinwen Jones

Disgrifiad o'r llun, Mae'r pandemig wedi cynyddu'r pwysau ar ofalwyr di-dâl, medd Ceinwen Jones

Mae gofalwr di-dâl o Wynedd wedi dweud y byddai'n hoffi cael "cydnabyddiaeth" o'i gwaith, yn sgil taliad untro gan Lywodraeth Cymru sydd ond ar gael i rai gofalwyr.

Fe fydd tua 57,000 o ofalwyr di-dâl yn cael hawlio'r taliad o £500 i gydnabod eu gwaith yn ystod y pandemig.

Fe fydd unrhyw un sy'n hawlio Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth yn cael hawlio'r taliad, meddai'r llywodraeth.

Ond mae beirniadaeth o'r cynllun hefyd, gan na fydd llawer o ofalwyr yn cael ei hawlio - gan mai dim ond un o bob saith gofalwr sydd â hawl i Lwfans Gofalwr.

"Dwi'n cael dim byd 'wan, o gwbl," meddai Ceinwen Jones wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw. "Bysa fo'n handy i gael rhywbeth."

'Lot o waith ychwanegol'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Yr amcangyfrif yw bod tua 400,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru

Mae Ceinwen Jones o Ddeiniolen wedi bod yn gofalu am ei mam, sydd â chyflwr hunanimíwn, ers yn blentyn.

Ar ôl gorffen ei chyfnod ym Mhrifysgol Bangor, symudodd Ms Jones i fyw gyda'i mam a gofalu amdani.

Nid ydy hi'n derbyn unrhyw gymorth ariannol am ei gwaith gofalu, sydd yn "lot o bwysau".

Roedd Ms Jones yn falch pan glywodd hi am y taliad untro, gan gymryd y byddai'n gymwys i'w dderbyn.

"O'n i'n meddwl, 'o, mae hwnna'n dda,' achos mae 'di bod yn lot o waith ychwanegol... yn enwedig dros gyfnod y pandemig.

"Dwi'n meddwl o'dd lot o bobl mewn sefyllfa tebyg i fi, sydd ddim 'di bod yn cael Lwfans Gofalwr, a 'di bod yn gofalu yn gwbl di-dâl - bysa fo'n handy iddyn nhw gael cydnabyddiaeth o'r hyn maen nhw'n ei wneud."

Yr amcangyfrif yw bod tua 400,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, ond dim ond 57,130 o'r rheiny sy'n hawlio Lwfans Gofalwr.

Gofalwr di-dâl yw rhywun sy'n gofalu am berthynas, ffrind neu bartner sydd â salwch neu anabledd.

Ehangu'r cymorth

Er ei beirniadaeth, mae Ms Jones yn gefnogol o'r taliad. "Maen nhw dal yn haeddu'r arian ychwanegol, achos dyw'r budd-dal ddim yn lot," meddai.

Ond mae hi hefyd yn awyddus i ofalwyr di-dâl eraill gael cydnabyddiaeth ariannol am yr hyn maen nhw wedi ei wneud "heb help" yn sgil y pandemig.

"Mae'n lot o bwysau - ac oherwydd sefyllfa mam dwi ddim yn mynd allan, a dwi 'di bod yn cysgodi efo hi ers dros flwyddyn 'wan."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r llywodraeth yn dymuno cefnogi pob gofalwr, medd yr Aelod Seneddol Julie Morgan

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, ei bod hi'n ymwybodol o ba mor galed mae gofalwyr wedi gweithio yn ystod y pandemig.

"Rwy'n credu y bydd yr arian yn cyrraedd y bobl sydd wedi cael y trafferth mwyaf.

"Rydyn ni'n poeni'n fawr am bob gofalwr, ac rydyn ni'n dymuno gwneud popeth o fewn ein gallu i'w helpu nhw i gyd.

"Ond mae'n rhaid i ni glustnodi grŵp er mwyn darparu'r arian yma, ac felly rydyn ni'n ei roi i'r rheiny sy'n derbyn Lwfans Gofalwr am ein bod ni'n gallu eu hadnabod nhw'n hawdd ac rydyn ni'n gwybod eu bod nhw'n gofalu am fwy na 35 awr [yr wythnos]."

Ychwanegodd Ms Morgan fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £2.5m yn y Y Gronfa Gymorth i Ofalwyr dros y ddwy blynedd diwethaf, a'u bod am gwneud "popeth fedrwn ni i bob gofalwr di-dâl".

Ni fydd y taliad untro yn cael ei drethu, yn rhan o gyfraniadau Yswiriant Gwladol nac yn cael ei gynnwys fel incwm mewn cais am gredyd treth.

Bydd gofalwyr di-dâl yn gallu gwneud cais am y taliad drwy eu cyngor lleol yn ddiweddarach eleni.

Croesawodd llefarwyr ar ran y Ceidwadwyr Cymreig a'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig y taliad, ond gan ddweud y dylid ei ymestyn i bob gofalwr di-dâl.

Dywedodd yr AS Ceidwadol Gareth Davies y byddai "hawl i gael seibiant, mynediad at hyfforddiant am ddim, cefnogaeth ac asesiadau gofalwyr yn fwy gwerthfawr".

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Jane Dodds ei fod yn "siomedig" na fyddai'r taliad yn cael ei roi yn ehangach, a galwodd ar Lywodraeth y DU i gynyddu'r lwfans gofalwyr hefyd.