Criwiau tân yn ymladd tanau gwair ar draws Cymru

Disgrifiad o'r llun, Roedd y tanau ar fynydd Graig Goch, ger Garndolbenmaen, dros ardal o 350 medr

Mae criwiau tân wedi bod yn ymladd yn erbyn cyfres o danau awyr agored ar draws Cymru.

Galwyd diffoddwyr i Fynydd Graig Goch, ger Garndolbenmaen, am 14:40 brynhawn Sadwrn.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, roedd y tanau dros ardal o 350 metr, gyda chriwiau yn parhau i fod yno heddiw.

Yn ogystal, galwyd timau'r gogledd i danau tebyg yn ardaloedd Clynnog, Y Rhiw a Llithfaen yn LlÅ·n, a'r Fflint yn y gogledd-ddwyrain.

Daeth cadarnhad ddydd Sul fod diffoddwyr hefyd yn taclo tanau dros 10 acer yng Nglanaman, Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â thros ddwy acer ger Llanbedr Pont Steffan.

Roedd un injan yn parhau i ymladd tân gwair ym Mhont-rhyd-y-groes, Ceredigion, hefyd.

Yn ddiweddarach ddydd Sul daeth cadarnhad fod gwasanaeth tân y de yn delio â thanau gwair ym Mlaendulais, Castell-nedd Port Talbot, a Threforys, Abertawe.