Â鶹ԼÅÄ

Wcráin: 'Angen gwneud mwy i atal ymddygiad ymosodol Rwsia'

  • Cyhoeddwyd
Gulzara a Liliia
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Liliia (dde) - yma gyda'i chwaer Gulzara - fod y sefyllfa yn Wcráin "yn gwaethygu trwy'r amser"

Mae mam o Wcráin sydd newydd ffoi i Gymru'n galw am wneud mwy i atal ymddygiad ymosodol Rwsia yn ei mamwlad.

Tan yr wythnos diwethaf, roedd Liliia yn byw gyda'i gŵr a'u mab pedair oed, Jamil, yn Kyiv.

Ar ôl dwy noson o fomio'r brifddinas, fe benderfynodd y pâr y byddai'n fwy diogel i Liliia a Jamil ddod i aros yng ngogledd Cymru gyda'i chwaer, Gulzara.

Wrth sgwrsio dros baned a chacen gri yng nghegin Gulzara, fe ddywedodd Liliia ei bod hi'n teimlo'n "ddiogel" erbyn hyn.

'Mae'n ofnadwy, yn erchyll'

Gyda'i chwaer yn cyfieithu, dywedodd Liliia bod y sefyllfa yn Wcráin "yn gwaethygu trwy'r amser".

"Mae angen i chi weithredu. Mae angen i chi wneud rhywbeth i stopio'r ymddygiad ymosodol yma," meddai.

"Bydd pobl Wcráin yn gwneud eu gorau, ond mae pobl gyffredin yn marw yn y rhyfel hwn yn ogystal â phlant. Mae'n ofnadwy, yn erchyll."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros filiwn o bobl wedi ffoi o Wcráin ers dechrau'r gwrthdaro yr wythnos ddiwethaf

Yn gynharach yr wythnos hon, fe deithiodd Gulzara a'i gŵr Dylan Jones i Romania, ger y ffin ag Wcráin, i gwrdd â Liliia a'i mab.

Fe lanion nhw ym maes awyr Luton ddydd Mercher.

"Dwi'n medru ymlacio ychydig," medd Liliia. "Dwi'n dawelach fy meddwl, yn teimlo'n ddiogel."

Yn ôl Dylan, nos Fercher oedd y tro cyntaf iddo ef a'i wraig, Gulzara, gysgu'n iawn ers wythnos.

"Yn y dechrau roedd o fel bod ni'n gwylio rhyw horror movie yn datblygu ar y sgrîn," dywedodd.

"Gweld llefydd 'den ni wedi hen arfer efo nhw, strydoedd efo tancia' a soldiwrs ar strydoedd reit gyfarwydd i ni.

"Pan gafon ni'r alwad gan Liliia, roedd o bron yn rhyddhad, roedd gennym ni rywbeth i ganolbwyntio arno. Ond wrth gwrs roedd 'na lot o stress o orfod trefnu popeth."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Ynys Môn

Hyd yn oed ar ôl cwrdd â Liliia yn Romania, doedd dim sicrwydd a fyddai hi'n cael mynediad i Brydain.

"Fe ddywedodd ffrind da wrtha i 'Jyst cer amdani'," meddai Dylan.

"A dyna be aru ni wneud, mynd i'r airport. Yr unig beth oedd gynno ni oedd screenshot o wefan Llywodraeth Prydain yn deud bod perthnasau i bobl efo fisa fel Gulzara yn cael dod i fewn.

"Aru'r dadlau fynd ymlaen am hir ond yn y diwedd nethon nhw adael i ni fflio i Luton."

'Eisiau dweud diolch o galon i bawb'

Mae ei wraig, Gulzara, hefyd yn teimlo "rhyddhad".

Dywedodd: "Dwi wedi blino'n ofnadwy, ond dwi'n teimlo rhyddhad mawr achos mae fy chwarae a fy nai gyda ni.

"Dwi isio dweud diolch o galon i bawb. Fydden ni byth wedi ei wneud o heb eich cefnogaeth a'ch cariad. 'Dech chi wedi dangos sut mae cymdeithas ddemocrataidd yn gweithio, lle mae gwleidyddion yn gwrando ar y bobl, nid fel arall.

"Dyma beth mae pobl Wcráin yn breuddwydio ei adeiladu yn ein gwlad.

"Dwi isio anghofio'r saith diwrnod diwethaf achos mae'n nightmare. Dwi isio deffro yn y bore a gweld fy nightmare yn gorffen."

Yn ôl Liliia, mae ei mab bach Jamil yn meddwl ei fod ar wyliau.

"Mae'n gofyn 'Ble 'den ni'n mynd nesaf? Pwy 'den ni'n mynd i weld heddiw?'" meddai Liliia.

"Ond yn anffodus, mae o wedi dysgu geiriau fel 'rhyfel', 'bom', 'bomio', 'seiren'."

Mae gŵr Liliia mewn rhan fwy diogel o Wcráin, a'r teulu'n falch o fod gyda'i gilydd yng ngogledd Cymru wedi wythnosau hunllefus.

Pynciau cysylltiedig