Arestio dwy wedi marwolaeth ymgyrchydd amlwg

Ffynhonnell y llun, Empics

Disgrifiad o'r llun, Roedd Sharon Johnston wedi dweud na fyddai dim yn newid ei meddwl am gael cymorth i farw

Mae dwy fenyw wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo neu annog hunanladdiad yn dilyn marwolaeth menyw 60 oed o Aberteifi.

Cadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys mai'r fenyw fu farw yw Sharon Johnston, menyw gydag anabledd oedd yn ymgyrchydd amlwg dros yr hawl i gael cymorth i farw.

Roedd adroddiadau bod Ms Johnston ar goll o'i chartref.

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi cael ar ddeall ei bod wedi teithio i'r Swistir gyda'r bwriad o ofyn i feddygon ei chynorthwyo i ddiweddu ei bywyd.

Dywedodd yr heddlu fod menyw 29 oed o ardal Llundain a menyw 69 oed o Gaerdydd wedi cael eu harestio wrth ddychwelyd i faes awyr Heathrow, ac wedi cael eu rhyddhau wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo.

Wrth siarad gyda rhaglen Â鶹ԼÅÄ Wales Investigates fis Hydref diwethaf, dywedodd Ms Johnston ei bod yn bwriadu teithio i'r Swistir i ddiweddu ei bywyd.

"Dwi'n gallu mynd allan i'r dref a mynd o gwmpas. Dyw e ddim fel fy mod i'n gaeth i'r gwely... ond dydw i ddim eisiau'r gofal," meddai.

"Yn gorfforol dydw i ddim yn gallu marw drwy hunanladdiad, allai ddim cymryd gorddos achos mae e i gyd yn cael ei wneud gan ofalwyr gyda bocs metel diogel. Dydw i ddim eisiau gwneud hunanladdiad sy'n mynd o'i le," ychwanegodd.

Mae'r gyfraith yn y Swistir yn galluogi meddygon i gynorthwyo rhai cleifion i farw, ond mae'r broses yn anghyfreithlon o hyd yn y DU.

Cafodd Ms Johnston wybod na fyddai byth yn medru cerdded eto yn dilyn cwymp dros dair blynedd yn ôl.