Adeiladu cannoedd o gartrefi yn sgil argyfwng tai Môn

Ffynhonnell y llun, Cyngor Ynys Môn

Disgrifiad o'r llun, Stad newydd o dai yn Rhosybol, ger Amlwch
  • Awdur, Gareth Wyn Williams
  • Swydd, Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

Mae cynghorwyr Môn wedi cymeradwyo strategaeth i adeiladu cannoedd o gartrefi newydd mewn ymateb i'r argyfwng tai ar yr ynys.

Mae ffigyrau'r cyngor yn dangos fod 62.2% o bobl yr ynys wedi'u prisio allan o'r farchnad dai bresennol - problem sydd wedi gwaethygu yn ystod y pandemig.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Dani Robertson fod Rhosneigr wedi newid llawer ers pan oedd hi'n blentyn

Dywed Dani Robertson a rannodd sylw ar ei chyfrif twitter am wacter Rhosneigr ei bod yn gweld newid mawr ers dyddiau ei phlentyndod.

"Pan dyfais i fyny yn y pentref roedd cymuned rili cryf yma - 'dan ni'n colli pobl ifainc, 'dan ni'n colli teuluoedd ifainc hefyd a does dim lot o bobl ar ôl ac hefyd 'dan ni'n colli bysiau, siopau - ma' petha'n mynd i bethau am twristiaeth a dim i'r bobl leol," meddai.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Ond tra cydnabyddir fod sawl elfen o'r argyfwng dai na all y cyngor daclo ar ben ei hun, dywedodd un cynghorydd mai'r bwriad oedd adeiladu ar elfennau all gynnig cymorth i bobl leol.

O ganlyniad, mae'r awdurdod yn targedu cynnydd yn ei stoc dai cyngor o 176 o gartrefi dros y tair blynedd nesa'.

Gan weithio gyda landlordiaid cymdeithasol rhestredig, mae bwriad hefyd i godi 144 o dai o'r fath yn ychwanegol.

Gyda thai gwag hirdymor hefyd yn cael eu hystyried yn broblem, mae targed bydd o leiaf 50 o'r rheiny wedi dod yn ôl i ddefnydd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol.

Pwysau'r farchnad dai

Yn ôl yr adroddiad mae'r strategaeth "yn cydnabod y pwysau a wynebir" gan deuluoedd wrth geisio sicrhau tai fforddiadwy yn lleol, yn ystod "newid digynsail yn y farchnad dai sydd wedi gweld cynnydd enfawr ym mhrisiau tai".

Ond tra bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar fesurau yn sgil poblogrwydd yr ardal gydag ail gartrefi, dywedodd deilydd portffolio tai'r cyngor fod y cynllun yn edrych ar gamau mae gan y cyngor reolaeth drostynt.

"Hwn ydy'n ymateb ni i'r argyfwng tai sydd ohoni," meddai'r Cynghorydd Alun Mummery wrth Cymru Fyw.

Disgrifiad o'r llun, Y Cynghorydd Alun Wyn Mummery sy'n dal portffolio tai Cyngor Môn

"Mae hon yn ddogfen bositif gyda'r bwriad o gynnig cartref i bobl Ynys Môn, lle allan nhw gyfrannu i'w cymunedau lleol.

"Mae 'na her yn lleol ond dim addewidion yn unig ydy'r rhain, mae'r gwaith yn mynd ymlaen ers tipyn o amser."

Mae'r awdurdod yn parhau i reoli stoc dai ei hun, tra penderfynwyd hefyd i ddiddymu'r hawl i denantiaid brynu eu tai cyngor yn 2016.

Mae premiwm o 35% yn cael ei godi ar berchnogion ail gartrefi ar ynys, gyda bwriad o'i godi i 100% erbyn 2024.

Fel rhan o'r strategaeth hirdymor fe lansiwyd cynllun rhannu ecwiti yn ddiweddar, gan ddefnyddio peth o'r arian i gynnig benthyciadau i brynwyr tro cyntaf lleol.

Am eleni mae cynlluniau ar y gweill yng Nghaergybi, Amlwch a Llanfachraeth, gydag eraill wedi'u clustnodi yn Niwbwrch, Biwmares ac un arall yng Nghaergybi.

Bydd y gwaith yn cynnwys y stad dai fwyaf sy'n eiddo i'r cyngor ar Ynys Môn ers canol yr 1980au, yn cwmpasu 43 uned ar safle hen Ysgol y Parchedig Thomas Ellis yng Nghaergybi.

Mae'r pris cyfartalog tŷ ar Ynys Môn oddeutu £170,000, ond gydag incwm cyfartalog o £27,445, mae'r cyngor yn amcangyfrif fod 62.2% o bobl leol wedi'u prisio allan o'r farchnad.

Er hyn mae'r prisiau lawer uwch mewn sawl cymuned, fel Rhosneigr, ble mae pris cyfartalog o £263,000 gyda thros draean o dai'r pentref yn gartrefi gwyliau.

"'Dan ni'n gobeithio mynd ymhellach na be sy'n cael ei grybwyll. Isafswm ydy'r ffigyrau 'dan ni'n eu targedu yn hytrach nac uchafswm gan fod 'na brosiectau newydd yn codi'u pen yn aml," ychwanegodd y Cynghorydd Mummery.

"Gweithredu ar yr elfennau allwn ni eu rheoli ydy'r bwriad. Fedran ni ddim mynd i'r busnes o dynnu prisiau tai i lawr felly be 'dan ni isio'i wneud ydy cynnig cartrefi iawn i bobl Sir Fôn.

"Y fantais fawr sydd gynnon ni ydy ein bod wedi cadw ein stoc dai, felly mae'n haws i ni wneud lot o hyn drwy ailfuddsoddi, yn hytrach na bod yn ddibynnol ar gymdeithasau tai yn unig.

"Ond dim tai cymdeithasol yn unig fydd yn ateb y broblem, gyda'r cynllun i rannu ecwiti mewn lle i helpu pobl i brynu'u cartrefi cyntaf.

"Mae'n rhaid mynd ar ôl bob opsiwn sydd o'n blaenau, ond o fy ochr i mae'r rhain yn gynlluniau cyffrous.

"Ar ôl blynyddoedd o weld ein stoc dai yn crebachu, mae'n braf gweld hwnnw'n tyfu unwaith eto."