Ymchwiliad is-bostfeistri yn 'wastraff amser ac arian'

Disgrifiad o'r fideo, Noel Thomas: 'Y cwbl ma' ymchwiliad yn ei wneud ydy dal petha'n 么l

Mae un o'r postfeistri a gafodd eu cyhuddo ar gam gan Swyddfa'r Post o gadw cyfrifon ffug yn dweud ei fod yn poeni y gallai ymchwiliad cyhoeddus arall fod yn wastraff amser ac arian.

Ddydd Llun bu Noel Thomas o Gaerwen, Ynys M么n ymhlith y bobl gyntaf i roi tystiolaeth i'r ymchwiliad i'r hyn aeth o'i le.

Disgrifiad o'r llun, Bu Noel Thomas yn rhoi tystiolaeth am ryw awr ddydd Llun

Cafodd Mr Thomas, sy'n 75 oed erbyn hyn, ei garcharu am naw mis yn 2006 ar gyhuddiad o gadw cyfrifon ffug wedi i 拢48,000 fynd ar goll o'i gyfrifon.

Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach mai nam ar system gyfrifiadurol Swyddfa'r Post, Horizon, oedd yn gyfrifol am yr anghysonderau.

Yn 2021 cafodd yr euogfarn ei ddileu yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol.

'Angen cwffio ar ran y 500 arall'

Ar ddiwrnod cyntaf yr ymchwiliad cyhoeddus newydd mae Mr Thomas wedi dweud wrth y 麻豆约拍 bod ganddo rai pryderon yngl欧n 芒 gwerth a chost y broses.

Mae hefyd wedi galw ar yr awdurdodau i ddod 芒'r mater i ben.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Noel Thomas, a'i ferch Sian, y tu allan i'r llys yn Llundain ar 么l y dyfarniad yn 2021

"Dal petha'n 么l - dyna'r cyfan mae hwn yn ei wneud," meddai.

"Mae'n mynd i gymryd tan 2023 neu falle 2024 - faint ohonon ni fydd ar 么l? Dwi'n lwcus dwi yma o hyd fel mae Dafydd Iwan yn ei ddweud - ond mae'n dragio, mae'n dragio petha' 'mlaen.

"Mae'r storis allan 'na'n barod... Ma' nhw'n gwybod pwy sy'n gyfrifol, mynd ar 么l y bobl yna [sydd ei angen] a helpu'r 500 sydd ar 么l.

"Mae 72 ohonon ni wedi cael ein clirio ond mae 500 o bobl yn disgwyl, a chwffio ar ran rheiny mae rhywun.

"Mae hi wedi bod yn 16 mlynedd i mi, ac fel o'n i'n dweud mae'n iechyd gynno fi. Dwi wedi colli ffrindiau da ar y ffordd. Bob tro mae rhywbeth yn digwydd ma' isio inquiry - y cwbl ma' nhw'n 'neud ydy dal petha'n 么l."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r anghyfiawnder wedi bod yn hunllef i Noel ac Eira Thomas, a'u merch Sian

Dywed merch Noel Thomas, Sian, a oedd yn gwmni iddo yn y gwrandawiad, eu bod nhw am "weld yr uffern yma yn dod i ben", fel bod modd symud 'mlaen a chael eu bywydau yn 么l.

Wrth gael ei holi yn Llundain ddydd Llun dywedodd: "Mae wedi bod yn ffeit - dwim wedi stopio gweithio iddo fo am dros 16 mlynedd. Roedden nhw'n gwybod o'r dechrau, hyd yn oed cyn ei roi yn y carchar, ei fod yn ddi-euog a hwnnw sydd wedi ffyrnigo fi - mae'n dal i 'neud fi'n flin i fod yn onest efo chi."

Doedd gwraig Noel, Eira Thomas, ddim wedi teithio i Lundain ond ei neges hithau hefyd i'r rhai sy'n arwain yr ymchwiliad yw bod angen iddynt frysio.

Disgrifiad o'r llun, Sian, merch Noel Thomas, yn Llundain ddydd Llun wrth i'w thad roi tystiolaeth i'r ymchwiliad newydd

Mae'r iawndal y mae Mr Thomas wedi ei dderbyn hyd yma yn golygu ei fod wedi gallu gorffen gweithio'n rhan amser mewn canolfan arddio - swydd a dderbyniodd er mwyn cadw dau ben llinyn ynghyd.

Mae'n dweud ei fod wedi cael ei fethu gan y system - a'i fod yn awyddus i roi'r cyfan y tu 么l iddo.

Dywedodd mai'r peth gwaethaf oedd ei fod o dan yr argraff am gyfnod hir mai ef oedd yr unig un yn y fath sefyllfa.

Bydd yr ymchwiliad cyhoeddus yn dangos yn glir nad oedd hynny'n wir.

Dywedodd y gweinidog dros Faterion Post, Paul Scully: "Rydym yn deall yr effaith ddifrifol y mae diffygion yn system TG Horizon a rheolaeth Swyddfa'r Post o'r materion a ddeilliodd o hynny wedi'i chael ar bostfeistri yr effeithiwyd arnynt a'u teuluoedd - gyda llawer yn colli eu bywoliaeth neu'n cael eu dyfarnu'n euog am droseddau honedig ar gam.

"Dyna pam rydyn ni wedi sefydlu ymchwiliad statudol i nodi'n union beth aeth o'i le ac i sicrhau na fydd rhywbeth fel hyn byth yn digwydd eto, yn ogystal 芒 darparu cymorth ariannol ar gyfer iawndal."