Guto Harri yw rheolwr cyfathrebu newydd Boris Johnson

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Guto Harri gyda Boris Johnson yn 2009 pan roedd yn gyfarwyddwr cyfathrebu cyn Faer Llundain

Mae Prif Weinidog y DU Boris Johnson wedi penodi'r cyflwynydd Guto Harri fel ei gyfarwyddwr cyfathrebu newydd.

Y Cymro oedd pennaeth cyfathrebu a phennaeth staff Mr Johnson yn ystod ei dymor cyntaf fel Maer Llundain.

Mae S4C wedi cadarnhau na fydd yn parhau i gyflwyno'r rhaglen deledu Y Byd Yn Ei Le yn sgil y penodiad.

Daw cyhoeddiad Mr Johnson wedi i sawl aelod allweddol o dîm Mr Johnson yn Downing Street ymddiswyddo yn ystod y dyddiau diwethaf.

Mae hi wedi bod yn wythnos gythryblus i'r Prif Weinidog a'i weinyddiaeth wedi i'r uwch was sifil Sue Gray gyhoeddi adroddiad cychwynnol i bartïon yn Downing Street tra bod cyfyngiadau Covid mewn grym.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Boris Johnson wedi bod dan bwysau aruthrol, o sawl cyfeiriad, cyn ac ers cyhoeddiad adroddiad Sue Gray

Dywedodd Mr Johnson bod Mr Harri "yn newyddiadurwr uchel ei barch â gyrfa ddisglair gyda'r Â鶹ԼÅÄ cyn ymgymryd â rhai o'r swyddi cyfathrebu mwyaf heriol".

Ar ôl ei gyfnod diwethaf yn gweithio i Boris Johnson, cafodd Guto Harri ei benodi'n gyfarwyddwr cyfathrebu News UK, cwmni Rupert Murdoch, yn y cyfnod yn dilyn y sgandal hacio ffonau.

Roedd hefyd ar un cyfnod yn ymgynghorydd i'r cwmni cysylltiadau cyhoeddus Hawthorn Advisers, ac fe fu hefyd mewn swydd blaenllaw gyda Liberty Global.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Mae wedi ysgrifennu colofnau i nifer o bapurau newydd gan gynnwys y Times a'r Daily Telegraph, ac mae wedi bod yn sylwebydd cyson ar raglenni LBC, Sky a'r Â鶹ԼÅÄ, gan ymateb yn aml ar ddatblygiadau'n ymwneud â Mr Johnson a'i lywodraeth.

Y llynedd fe ymunodd â thîm darlledu'r sianel deledu newydd GB News cyn i reolwyr ddweud ei fod wedi torri safonau'r sianel trwy benlinio ar yr awyr i ddangos cefnogaeth i bêl-droedwyr tîm Lloegr.

Mewn cyfweliad â phodlediad Newscast y Â鶹ԼÅÄ yn gynharach yn y mis, dywedodd Mr Harri: "Mae Boris yn gyson wedi tanbrisio pa mor hanfodol yw cael tîm ffantastig o'i amgylch".

Dywedodd hefyd bod angen i Mr Johnson wneud addewid i'r Blaid Geidwadol na fyddai'r "nonsens sydd wedi digwydd" yn digwydd eto.

Mae Mr Johnson hefyd wedi penodi Steve Barclay AS i fod yn bennaeth staff fel rhan o newidiadau a fydd "yn cryfhau rôl fy Nghabinet a chydweithwyr meinciau cefn ac yn cyflymu ein perwyl diffiniol i godi'r gwastad ar draws y wlad".