Rhybudd rhag dioddef twyll trwy negeseuon Whatsapp

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae pobl yn colli miloedd o bunnoedd yn sgil ffordd newydd o dwyllo drwy'r ap negeseuon WhatsApp, yn 么l Heddlu Gogledd Cymru.

Mae twyllwyr yn danfon negeseuon gan honni bod yn berthynas agos 芒 rhif ff么n newydd, cyn gofyn am help gyda biliau neu gostau eraill.

Neges gyntaf y sgwrs mewn llawer o achosion yw: "Helo mam, mae gen i ff么n newydd, pl卯s cadwa'r rhif."

Dywed ditectifs y llu bod yna broblem ar draws y DU, ond yn yr achosion y maen nhw wedi eu hymchwilio mae dioddefwyr, ar gyfartaledd, wedi colli bron i 拢2,500 yr un.

Maen nhw'n cynghori pobl i stopio, meddwl a holi cyn trosglwyddo arian i unrhyw un.

'Digon o fanylion i swnio'n ddilys'

Cafodd Sarah Capper o'r Rhyl ei thwyllo trwy WhatsApp fis diwethaf.

"Cefais neges yn dechrau 'haia mam', yn dweud bod ei hen ff么n ddim yn gweithio ac i mi arbed y rhif newydd," dywedodd.

"Naethon ni sgwrsio am sbel ac roedd y twyllwr hyd yn oed yn trafod bod dan straen yn y gwaith fel tasen nhw'n ferch i mi.

"Rywsut roeddan nhw wedi darganfod digon o fanylion am ei gwaith i'r holl beth swnio'n hollol ddilys.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Sarah Capper yn grediniol taw ei merch oedd yn danfon negeseuon ati yn gofyn am gymorth ariannol

"Daeth neges wedyn yn gofyn os gallwn i helpu trwy dalu anfoneb achos, oherwydd y ff么n newydd, doedd 'hi' heb lwytho app ei banc eto a byddwn ni'n cael yr arian yn 么l yn syth.

"Ond y diwrnod wedyn, gofynnais i fy merch pam nad oedd hi wedi fy ad-dalu ac roedd hi'n gwybod dim byd amdano... wnes i feichio crio.

"Dwi wedi fy llorio'n llwyr. Nid yn unig wnes i ddanfon 拢2,100 i'r ferch ffug yma, wnes i fenthyca 拢1,800 gan fy nghymar, y mae'n rhaid ei ad-dalu r诺an.

"Byswn i 'di taeru 'mod i'n siarad gyda fy merch, nid person hollol ddieithr. Mae'n frawychus ac yn ofidus. Dydw i ddim eisiau iddo ddigwydd i unrhyw un arall."

"Dwi'n ymddiried 100% yn fy mhlant felly os maen nhw'n dweud eu bod angen help, 'dach chi'n eu helpu heb feddwl."

Yn ffodus i Sarah Capper, fe fownsiodd y taliad am ryw reswm. Mae'r heddlu'n ymchwilio ac yn tybio bod y banciau eisoes ag amheuon ynghylch y cyfrif roedd yn twyllwr yn ei ddefnyddio.

'Teimlo'n credadwy'

Fe dderbyniodd Zoe Burrell o Ynys M么n neges WhatsApp yn dweud: "Mam... dyma fy rhif newydd, gelli di ddileu fy hen rif xx."

Dywedodd: "Ar 么l imi gofnodi'r rhif, yn amlwg roedd pob neges yn ymddangos ar y ff么n gydag enw fy merch - rhywbeth bach sy'n gwneud iddo deimlo'n fwy credadwy.

"Dwi wedi benthyca arian i fy merch o'r blaen ac wedi ei gael yn 么l bob tro.

"Mae hi wedi newid ei rhif ff么n yn y gorffennol hefyd, felly roedd yn teimlo'n hollol iawn i ddechrau.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Zoe Burrell yn "teimlo'n ff诺l" pan ddaeth i wybod bod rhywun wedi ei thwyllo

"Roedd yna elfen o flacm锚l emosiynol hefyd - bod hi mewn trafferth, mae'n rhaid gwneud rhywbeth yn sydyn, ac fe aeth synnwyr cyffredin trwy'r ffenest."

Fe drosglwyddodd arian ar bedwar achlysur - cyfanswm o dros 拢4,800, ond ni aeth y swm olaf drwodd wedi i'w banc ddod yn amheus a rhewi ei chyfrif.

Pan ymwelodd 芒'r banc fe gadarnhaodd staff mai twyll oedd y cyfan.

"Ffoniodd y banc fy merch ac roedd hi'n gwybod dim byd amdano," meddai.

"Roedd yn sioc enfawr. Ro'n i wedi llorio. 'Dach chi'n teimlo'n ff诺l.

"Maen nhw'n glyfar iawn ac mae'r elfen bersonol, esgus bod yn berthynas agos, yn eich bachu."

Disgrifiad o'r llun, Mamau plant sydd bellach yn oedolion yw llawer o'r dioddefwyr, medd Heddlu'r Gogledd

Nifer achosion 'yn codi'n raddol'

Mae Sarah Capper a Zoe Burrell wedi rhannu eu profiadau yn y gobaith o atal eraill rhag cael eu twyllo yn yr un modd.

Yn 么l Heddlu'r Gogledd mae llawer o'r dioddefwyr yn famau 芒 phlant sydd bellach yn oedolion.

Mae ditectifs yn ceisio cadarnhau a yw twyllwyr yn ymchwilio i gefndiroedd unigolion cyn cysylltu 芒 nhw, ynteu'n mentro yn y gobaith o ddweud y pethau cywir ar hap i wneud i bobl ymddiried ynddyn nhw.

"Mae hwn yn dwyll gymharol newydd, ond mae'r ffigyrau'n codi'n raddol," medd y Ditectif Gwnstabl Rachel Roberts, Swyddog Diogelu Rhag Camddefnydd Ariannol y llu.

"Mae un dioddefwyr newydd yn cysylltu efo ni bob dydd erbyn hyn.

"Mewn pythefnos yn unig ddechrau Ionawr, fe wnaeth twyllwyr geisio dwyn 拢24,000 gan bobl yng ngogledd Cymru yn unig.

"Mae'n dwyll arbennig o annymunol gan fod troseddwyr yn aml yn esgus bod yn fab neu'n ferch i rywun.

"Mae pobl yn defnyddio WhatsApp i siarad efo perthnasau a ffrindiau agos, ac mae pobl yn naturiol yn ymateb i'w plant yn ddigwestiwn.

"Ein cyngor yw i bobl stopio a meddwl wedi cais am arian a manylion personol.

"Ffoniwch y person ar rif arall a gwneud yn si诺r bod y cais yn un dilys."