Cwestiynu 'naratif unochrog' Covid

Ffynhonnell y llun, Aled Gwyn Job

Disgrifiad o'r llun, Y criw yn cyfarfod ym Mangor

Ar foreau Sul, wrth gerrig yr orsedd ym Mangor, mae grŵp yn cyfarfod i roi cefnogaeth i'w gilydd a rhannu barn.

Mae eu cefndiroedd nhw'n amrywio, ond un peth sydd ganddyn nhw'n gyffredin ydi eu safbwynt am Covid-19 ac ymateb llywodraethau'r byd i'r feirws.

Un sy'n ymuno â'r criw yn wythnosol ydi Aled Gwyn Job, ysgrifennwr copi, cyfieithydd a phregethwr sy'n byw yn yr ardal.

Ers cyfnod hir bellach, mae o'n codi cwestiynau am Covid. Tydi o ddim yn amau bodolaeth y feirws, ond mae'n cwestiynu os ydi risg y feirws yn cyfiawnhau'r ymateb ac yn credu bod y sefyllfa wedi ei or-bwysleisio am resymau gwleidyddol er mwyn i rai fanteisio o'r panig a'r ofn.

Mae'n dweud ei fod wedi darllen yn helaeth am y pwnc ac wedi penderfynu peidio derbyn y brechlyn, gwneud profion Covid na gwisgo mwgwd.

Covid: Y ffeithiau

  • Hyd yn hyn mae yna 9,477 o farwolaethau wedi bod yng Nghymru yn gysylltiedig â Covid-19.Cafodd 102 o farwolaethau eu cofnodi yng Nghymru yn ystod yr wythnos hyd 21 Ionawr - y ffigwr wythnosol uchaf ers mis Mawrth y llynedd.
  • Mae'r gyfradd o gleifion mewn ysbytai sydd dros 60 oed ac heb gael brechlyn dair gwaith yn fwy na'r rheiny sydd wedi cael dau frechlyn. Mae hefyd yn uwch o lawer yn y grŵp oedran 18-59.
  • Mae tystiolaeth yn dangos fod gorchuddio'r trwyn a cheg yn lleihau lledaeniad coronafeirws.Prif bwrpas mygydau yw i amddiffyn eraill, ond mae tystiolaeth sy'n dangos eu bod hefyd yn amddiffyn y sawl sy'neu gwisgo.

Ffynonellau: ONS, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Royal Society

'Teimlo'n ddiymadferth'

Oni bai am wythnosau cyntaf y pandemig, pan oedd teimlad o undod wrth i gymunedau ddod ynghyd i geisio dod dros argyfwng, mae Covid wedi polareiddio barn a dywed Aled Gwyn Job bod hyn yn creu straen.

Ffynhonnell y llun, Aled Gwyn Job

Disgrifiad o'r llun, Aled Gwyn Job

"Mae o wedi creu tensiynau rhwng fi a fy chwiorydd o ran fy marn a'r syniad fy mod wedi cael fy nghamarwain - mae hynny wedi bod yn anodd, ac mae 'na ffrindiau sydd - ddim wedi cefnu - ond sydd wedi ymbellhau," meddai.

"Mae o wedi bod yn gyfnod anodd iawn, iawn i bobl sydd wedi bod yn trio cwestiynu'r naratif ac yn trio dwyn pethau i sylw pobl ac mae rhywun wedi bod yn teimlo'n unig iawn ar adegau a theimlo yn ddiymadferth iawn ar brydiau."

A dyna un o'r rhesymau pam ddechreuodd fynd i'r cyfarfodydd wythnosol ym Mangor ar ddechau haf 2021 gyda phobl eraill sy'n rhannu ei farn.

Mae'r grŵp yn rhan o fudiad sy'n cynnal cyfarfodydd anffurfiol tebyg ar foreau Sul mewn gwledydd ar draws y byd.

"Dwi'n gwybod bod ambell un wedi dweud bod y grŵp wedi achub eu hiechyd meddwl nhw jest i fedru gallu siarad efo pobl sy'n rhannu'r un pryderon a gofidiau heb gael eu condemnio fel ynfytiaid a ffyliaid difeddwl," meddai.

"Ein barn ni o ran Covid ydi bod pobl wedi cael eu brawychu ac wedi cael eu gyrru bron i ryw gyflwr o mass psychosis gan yr holl beth.

"Mae rhywun yn trio peidio bod yn paranoid ond mae 'na rhyw fwriadau nefarious iawn tu cefn i'r peth i gyd a'r bwriad yn fy marn i ydi bod yr holl beth wedi cael ei ddyfeisio er mwyn ein symud tuag at ryw system reolaeth totalitariaeth lle 'da ni gyd am fod yn cael ein rheoli yn ddigidol trwy'r pasbort yma."

Ystadegau

Pan ddaw'r grŵp at ei gilydd maen nhw'n rhannu gwybodaeth am y feirws a'r sefyllfa ar draws y byd ac ymchwil maen nhw wedi dod o hyd iddo. Yn ddiweddar rhannwyd ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) gan ddadlau eu bod yn dangos nad ydi lefelau marwolaethau Cymru dros gyfnod y pandemig yn wahanol i'r patrwm cyffredinol dros yr 20 mlynedd diwethaf ac yn cadarnhau eu barn bod yr awdurdodau wedi gor-ymateb.

Dywed arbenigwyr iechyd bod rhesymau eraill yn gallu egluro lefelau marwolaethau, er enghraifft lefelau isel iawn o ffliw o'i gymharu gyda'r arfer oherwydd cyfyngiadau Covid, ac yn ôl ystadegwyr yr ONS, Covid oedd yr ail achos marwolaeth uchaf yng Nghymru drwy gydol 2021, gyda chlefyd y galon yn gyntaf.

Mae Aled Gwyn Job yn derbyn bod gwahaniaeth barn.

"Mae gofyn bod yn gydymdeimladol a sympathetig i bobl sydd efo safbwyntiau gwahanol a pheidio credu bod y gwir i gyd gan neb," meddai. "Dylen ni gyd fod yn agored bod y gwir am gael ei ddatgelu i ni dros gyfnod o amser wrth i fwy o wybodaeth a ffeithiau ddod i'r golwg."

Felly oni ddylai o ddilyn y canllawiau, a gwneud profion a gwisgo masg, rhag ofn ei fod yn canfod nad ar ei ochr o mae'r gwir a'i fod wedi bod yn peryglu iechyd y cyhoedd?

"Oherwydd bod 'na gymaint o bobl wedi ildio i'r naratif ac wedi cyd-fynd efo fo i'r ffasiwn raddau a heb gwestiynu 'run peth o gwbl, dwi'n meddwl bod rhaid i chdi gael gwrth-ymateb fel hyn jest er mwyn i ni gael rhyw gydbwysedd i mewn i'r peth.

"I raddau mae'r gwrth-ymateb yma o leia' wedi ella cael mwy o bobl i feddwl be sydd 'di digwydd a be' sydd rili wedi bod yn mynd ymlaen dros y ddwy flynedd diwethaf."

Angen mwy o drafod

Er mai cyfarfod er mwyn cael cefnogaeth a chwmni mae'r grŵp wedi bod yn ei wneud hyd yma, mae rhai yn dechrau teimlo'n barod i godi ymwybyddiaeth o'u safbwynt. Mwy o drafodaeth agored ydi'r hyn mae Aled Gwyn Job yn gobeithio ei annog, am bolisïau fel y cyfnodau clo er enghraifft - rhywbeth mae o'n meddwl y gellid fod wedi eu hosgoi petai'r awdurdodau wedi canolbwyntio ar warchod y bobl oedd â risg uchel o niwed.

Meddai: "Does na ddim digon o drafodaeth agored wedi bod ynglŷn â beth mae'r holl beth wedi ei gyflwyno i ni, does 'na ddim math o falans, dim math o gydbwysedd wedi bod a 'da ni ddim wedi cael unrhyw fath o drafodaethau cyhoeddus.

"Dwi ddim yn meddwl bod hynny'n beth da i ddemocratiaeth bod o 'di bod yn rhywbeth mor unochrog ac unllygeidiog i raddau dros yr holl gyfnod diwetha."

Hefyd o ddiddordeb:

*Cafodd yr erthygl yma ei diweddaru ddydd Iau 10 Chwefror, er mwyn gwneud ffeithiau ac ystadegau am Covid-19 yn fwy amlwg.