Â鶹ԼÅÄ

Lleihau'r cyfnod hunan-ynysu i bum diwrnod llawn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Prawf CovidFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd pobl sydd wedi cael prawf Covid-19 positif yn cael rhoi'r gorau i hunan-ynysu ar ôl pum diwrnod llawn os ydynt wedi cael dau brawf llif unffordd negatif, mae'r gweinidog iechyd wedi cyhoeddi.

Rhaid i'r ddau brawf llif unffordd negatif gael eu cymryd ar ddau ddiwrnod yn olynol, ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech o'r cyfnod hunan-ynysu.

Daw'r newid hwn i rym o 28 Ionawr, pan ddisgwylir i Gymru gwblhau'r broses o symud i lefel rhybudd sero.

Ar hyn o bryd, mae angen i bobl sy'n profi'n bositif yng Nghymru hunan-ynysu am saith diwrnod - hynny o gymharu â phump yn Lloegr.

Mae Lloegr a Gogledd Iwerddon eisoes wedi rhoi'r newid hwn ar waith.

Ond bydd rhaid i unrhyw un sy'n profi'n bositif ar ddiwrnod pump neu ar ddiwrnod chwech barhau i hunan-ynysu hyd nes y byddant wedi cael dau brawf negatif o fewn 24 awr, neu hunan-ynysu tan ddiwrnod 10, pa un bynnag ddaw gyntaf.

Yn ogystal â'r newid i'r drefn hunan-ynysu, o 28 Ionawr ni fydd y rheol chwe pherson mewn grym mewn bwytai a thafarndai, ni fydd rhaid i fusnesau sicrhau pellter cymdeithasol ac fe fydd clybiau nos yn cael ailagor.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Erbyn hyn, does dim angen archebu prawf PCR ar ôl cael prawf llif unffordd positif os nad oes symptomau gennych chi

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan: "Hunan-ynysu yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal y feirws rhag lledaenu a tharfu ar ei drosglwyddiad.

"Ond gall hunan-ynysu am gyfnodau hir gael effaith negyddol ar ein hiechyd meddwl a gall fod yn niweidiol i'n gwasanaethau cyhoeddus a'r economi ehangach.

"Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael yn ofalus, rydym yn credu y bydd profi ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech, ynghyd â hunan-ynysu am bum diwrnod llawn yn cael yr un effaith amddiffynnol â chyfnod hunan-ynysu o 10 diwrnod.

"Ond mae'n bwysig iawn bod pawb yn hunan-ynysu ac yn defnyddio profion llif unffordd fel y cynghorir i sicrhau eu bod yn diogelu eraill rhag y risg o haint."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wrth ymateb ar Dros Frecwast fore Mercher dywedodd Dr Harri Pritchard o Amlwch bod y cyhoeddiad "yn rhan ni o'r ffordd i ddysgu byw gyda'r feirws yma ac yn galluogi ni i fwrw ymlaen gyda'n bywydau bob dydd".

"Doedd Omicron ddim mor ddifrifol a be' gallai fod wedi bod... be' 'da ni wedi sylweddoli ar hyn o bryd ydi mai'r risg fwyaf yw diffyg staff - diffyg staff gofal, diffyg staff iechyd a diffyg staff yn ein hysbytai.

"Mae diffyg staff yn fwy o risg i ni fel y cyhoedd na'r feirws - ac mae tystiolaeth yn dangos ei bod hi'n ddiogel i fynd lawr i bum diwrnod."

'Byw gyda'r feirws'

Roedd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, wedi galw am dorri'r cyfnod hunan-ynysu, gan ddadlau bod llwyddiant y rhaglen frechu a'r "awydd cynyddol i symud i bwynt lle rydyn ni'n byw gyda'r feirws" yn cyfiawnhau hynny.

Mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi cefnogi cwtogi'r cyfnod hunan-ynysu, gan bwysleisio y dylai hynny fod yn ddibynnol ar dystiolaeth wyddonol.

Roedd y cyfnod hunan-ynysu yng Nghymru eisoes wedi ei dorri o 10 diwrnod i saith.

Pan gyhoeddwyd y newid yn Lloegr, dywedodd y gweinidog iechyd yno, Sajid Javid, fod data Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn dangos nad yw dau draean o achosion positif yn heintus erbyn diwrnod pump.