Â鶹ԼÅÄ

Fandaleiddio diffibrilwyr yn 'peryglu bywydau'

  • Cyhoeddwyd
Diffibriliwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai diffibrilwyr yn gorfod cael eu cloi mewn blychau, sy'n gallu achosi oedi mewn argyfwng

Mae pobl sy'n dwyn neu'n fandaleiddio diffibrilwyr yn peryglu bywydau, yn ôl Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru.

Maen nhw'n dweud bod o leiaf wyth o'r peiriannau wedi'u difrodi neu eu dwyn yng Nghymru y llynedd.

Mae'r peiriannau yn gallu achub bywyd rhywun sy'n cael ataliad ar y galon trwy roi sioc drydanol.

Un sy'n gwybod o brofiad am werth y peiriannau yw Alun Davies, aelod senedd Blaenau Gwent, gafodd ataliad ar y galon yn 2020.

"Os ydych chi'n cael trawiad neu cardiac arrest - lle mae'ch calon yn stopio - y tu fas i'r ysbyty, dim ond diffibriliwr sy'n mynd i achub eich bywyd chi," meddai.

"Dyna be' ddigwyddodd i fi - o'dd 'na ddiffibriliwr yno ac roedd aelod o'r cyhoedd wedi'i ddefnyddio fe i ailddechrau fy nghalon i."

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd aelod senedd Blaenau Gwent, Alun Davies, ataliad ar y galon yn 2020

Mae miloedd o beiriannau wedi'u gosod mewn cymunedau ledled Cymru, ond oherwydd bod yna achosion o'u fandaleiddio neu eu dwyn mae rhai diffibrilwyr yn gorfod cael eu cloi mewn blychau, sy'n gallu achosi oedi wrth i bobl geisio eu defnyddio mewn argyfwng.

"Pryd dwi'n gweld galwad 999 yn dod fewn, a chael gwybod bod 'na ddim diffibriliwr ar gael mae o'n gwneud fi'n drist," meddai Tomos Hughes, swyddog cefnogi diffibriliwr gogledd Cymru gydag Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru.

Ffynhonnell y llun, Tomos Hughes
Disgrifiad o’r llun,

"Sut buasech chi'n teimlo os 'sa ddim diffibriliwr ar gael i helpu," gofynnodd Tomos Hughes

"Dwi'n meddwl, pam maen nhw'n gwneud ffasiwn beth? Mae'n anodd dallt be sy'n digwydd i bobl sy'n fandaleiddio peiriant sy'n gallu achub bywyd.

"Mae o'n job delio ag o mewn ffordd, gan wybod bod 'na hwyrach bywyd yn mynd i gael ei golli."

Mae'r ystadegau'n dangos bod y cyfle sydd gan glaf i oroesi ar ôl cael ataliad ar y galon yn gostwng 10% am bob munud o oedi.

'Angen addysgu'r cyhoedd'

Cafodd elusen Calon Hearts ei sefydlu naw mlynedd yn ôl ac mae wedi gosod rhyw 13,000 o beiriannau mewn llefydd cyhoeddus ledled Cymru.

Dywedodd y sylfaenydd, Sharon Owen, ei bod wedi clywed am sawl achos lle mae diffibrilwyr wedi'u difrodi.

Mewn un achos ym Mro Morgannwg rai blynyddoedd yn ôl, cafodd peiriant ei gymryd o'r tu allan i eglwys a'i daflu i'r afon.

Cafodd peiriant ei ddwyn o orsaf drenau Pen-y-bont ar Ogwr hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Soniodd sylfaenydd elusen Calon Hearts, Sharon Owen, am sawl achos o ddifrodi'r peiriannau

Mae'r elusen yn annog pobl i osod y peiriannau heb eu cloi, ond yn cydnabod fod hynny'n anodd oherwydd y perygl y gallen nhw gael eu difrodi.

Dywedodd Ambiwlans Sant Ioan eu bod nhw hefyd eisiau i ddiffibrilwyr beidio cael eu cloi mewn blychau.

"Byddai addysgu'r cyhoedd yn fwy ynglŷn â'r hyn mae'r peiriannu yn ei wneud yn golygu eu bod yn cael eu gwerthfawrogi'n fwy ac yn y pendraw yn arwain at lai o achosion o'u dwyn," meddai Kimberley Low, sy'n rheolwraig hyfforddi gyda'r elusen.

Rhai blynyddoedd yn ôl cafodd diffibriliwr ei ddifrodi ar bromenâd Aberystwyth, oedd yn achos pryder i'r diddanwr Glan Davies, sydd wedi bod yn codi arian i osod y peiriannau yng Ngheredigion.

Ond mae'n pwysleisio mai prin yw'r achosion yn yr ardal honno.

"Pan chi'n edrych ar y sefyllfa, os ydyn nhw wedi cael eu dinistrio neu eu dwyn, mae'n warthus achos pwrpas y peiriant yw achub person sydd wedi cael trawiad ar y galon," meddai.

"Dyw e ddim fel tegan achos mae'r peiriant yn siarad gyda chi, ac yn dweud wrthoch chi'n gwmws be' sydd eisiau'i neud."

Disgrifiad o’r llun,

Gall y peiriannau achub bywyd rhywun sy'n cael ataliad ar y galon

Mae elusen British Heart Foundation Cymru yn dweud ei bod hi'n bwysig bod diffibrilwyr yn cael eu cofrestru fel bod y gwasanaeth ambiwlans yn gwybod ble i anfon pobl i roi cymorth i gleifion.

Yn ôl y pennaeth, Adam Fletcher, dim ond 6,000 sydd wedi'u cofrestru, ac maen nhw'n amcangyfrif bod degau o filoedd ledled y DU heb gael eu nodi'n swyddogol.

Mae'r elusen hefyd yn dweud y dylai'r gofrestr gael ei diweddaru i nodi unrhyw beiriannau sydd wedi'u difrodi - oherwydd yr effaith y gall hynny ei gael mewn argyfwng.

Mae neges Tomos Hughes o Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru i'r rhai sy'n gyfrifol am fandaleiddio neu ddifrodi diffibriliwr yn glir.

"Y cwestiwn dwi'n ofyn i bobl sy'n gwneud hyn ydy 'pan ydych chi'n neud o, be' sa'n digwydd sa'ch teulu chi yn cael ataliad ar y galon - sut buasech chi'n teimlo os 'sa ddim diffibriliwr ar gael i'w helpu?'"

Pynciau cysylltiedig